Cŵn defaid Cymru'n cystadlu am le yn y tîm cenedlaethol
- Cyhoeddwyd
Bydd cŵn defaid gorau Cymru yn dangos eu sgiliau dros y tridiau nesaf ar fferm yng Ngheredigion.
Mae treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru yn cael eu cynnal ar fferm Dolyrychain ger Pontrhydfendigaid.
Bydd y gystadleuaeth yn penderfynu pa gŵn a pha fugeiliaid fydd yn cynrychioli Cymru yn y treialon rhyngwladol yn Yr Alban ym mis Medi.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan y Gymdeithas Cŵn Defaid Ryngwladol (ISDS), a ffurfiwyd ym 1906 i gofrestru cŵn defaid mewn llyfryn blynyddol.
Mae dros 6,000 o gŵn bach yn cael eu cofrestru bob blwyddyn.
Mae cŵn o bob gwlad yn cael eu cynnwys yn y llyfr, sy'n caniatáu i fridwyr nodi rhieni a manylion llinach cŵn cofrestredig, gan eu helpu i wneud penderfyniadau bridio.
Cadeirydd treialon Cymru yw John Davies.
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Mercher dywedodd: "Mae cŵn gore Cymru'n dod yma am dridiau - 50 bob dydd - ac mae'r 15 gore dros y tridie'n cynrychioli Cymru yn Yr Alban ym mis Medi.
"Ci o Gymru sy'n dal record y byd am werthu ci defaid - £28,000 - ac mae llwyddo mewn treialon yn neud gwahaniaeth i werthu ci.
"Mae pobl ar draws y byd yn chwilio am linach dda sy'n mynd i roi ci da iddyn nhw."
Dros 150 o flynyddoedd yn ôl, cyn i’r ISDS gael ei ffurfio, cynhaliwyd treialon cŵn defaid cyntaf a gofnodwyd ym Mhrydain yng Nghymru.
Ym mis Hydref 1873, trefnwyd treialon yn Y Bala gan R J Price o Ystad Rhiwlas.
Roedd tua 300 o bobl yn gwylio’r treialon, ac er bod y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn dod o Gymru, James Thompson a’i gi, Tweed, o’r Alban, enillodd y wobr gyntaf.
Mae Cymdeithas Cŵn Defaid Y Bala yn credu bod hyn wedi arwain at y gystadleuaeth ryngwladol gyntaf, ar ôl i Mr Thompson frolio bod cŵn Yr Alban yn well.
Yn ymateb, dywedodd bugeiliaid Cymru eu bod yn barod i gwrdd ag unrhyw un arall i weld pwy oedd â'r cŵn gorau.
Ym 1876 cynhaliwyd digwyddiad rhyngwladol yn Llundain, ac yn ôl Cymdeithas Cŵn Defaid Y Bala, "adferwyd balchder y bugeiliaid lleol" oherwydd "yn y dosbarth cyntaf, enillwyd y wobr gan John Thomas, Cwm yr Aethnen, Hirnant, gyda Modi, gast pedair oed".
Disgwyl cefnogwyr o dramor
Mae treialon cŵn defaid modern yn dilyn rheolau’r ISDS, sy’n anelu at fesur gallu’r cŵn i weithio gyda’u bugeiliaid.
Mae llwyddo yn gofyn am arddangosiad ymarferol o'r sgiliau y mae'r ci yn eu defnyddio wrth ei waith bob dydd.
Mae’r ISDS yn disgwyl gweld cefnogwyr o dramor yn nhreialon Cenedlaethol Cymru yr wythnos hon, gyda llawer o fugeiliaid Cymru’n cael eu dilyn gan gynulleidfaoedd brwd.
Un sydd eisoes wedi cystadlu eleni yw'r cyn-bencampwr byd Aled Owen o Gorwen.
"O'n i'n rhedeg yn gyntaf bore 'ma ac mi 'naeth Jim [ei gi] yn reit dda d'eud y gwir," meddai.
"Mae'n gwrs digon anodd... mae o'n wastad ond mae ambell le 'di'r ci ddim cweit yn clywed achos ma' isho gyrru'r defaid 175 o lathenni i'r dde.
"Ond mi ges i'r gatiau i gyd so mi aeth yn o lew."
Bydd rhaid i Aled ddisgwyl tan ddiwedd y tridiau cyn gwybod a fydd yn llwyddo i gyrraedd tîm Cymru.