Annog pobl i 'ddod â cherrig yn ôl' i draeth yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd lleol yn annog pobl i ddychwelyd cerrig mân i draeth poblogaidd ar arfordir De Sir Benfro.
Mae cynghorydd sir De Saundersfoot, Chris Williams, yn honni bod cerrig mân wedi cael eu cymryd o’r traeth ers "blynyddoedd lawer", gan gyfrannu at erydu arfordirol.
Ar ôl i’r cerrig gael eu gosod dros y blynyddoedd i ddiogelu’r arfordir, mae’n dweud ei fod wedi gweld "nifer fawr o bobl" yn mynd â cherrig mân o’r traeth.
Bydd cyfarfod yr wythnos nesaf i edrych ar ffyrdd o ddiogelu’r Strand a'r cerrig.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Williams bod "cerrig o bob rhan o’r byd ar draeth Saundersfoot".
"Yn y 70au, cafodd mwy o gerrig eu hychwanegu a dyna pam rydych chi'n gweld y cerrig llwyd nawr, dydy’n nhw ddim yn naturiol i'r traeth hwn, cael eu cludo yma wnaethon nhw.
"Maen nhw’n helpu i amddiffyn yr eiddo oherwydd bod y cerrig yn torri i lawr, pan fydd gwyntoedd difrifol yn dod neu stormydd, mae’r cerrig yn gweithredu fel ataliad da rhag torri’r tonnau hynny.”
Ond dywedodd y Cynghorydd ei fod wedi gweld pobl yn mynd â cherrig o'r traeth ac er y gallai fod yn un neu ddau, mae'n honni ei fod wedi cael effaith negyddol dros y blynyddoedd.
“Pan rydych chi wedi bod yn gwneud hyn ers amser hir iawn, yn cymryd cerrig, mae’n amharu ar eu gwaith nhw, i warchod The Strand ac i warchod eiddo yn y pentref.
"Rydw i wedi dal nifer o bobl yn cymryd cerrig... rydych chi'n cerdded o gwmpas y pentref, rydych chi'n gweld llawer o dai gyda cherrig mân o'r fan hon, wedi'u hamgylchynu gan y môr, mae yna gerrig mân o gwmpas y pentref…
"Rydyn ni'n ceisio gwneud pobl yn ymwybodol bod y cerrig hyn yno am reswm."
Wrth fwynhau'r heulwen ar draeth Saundersfoot ddydd Mercher, cyfaddefodd Allan Lunt, 73 mlwydd oed o Gaer ei fod wedi cymryd tair carreg fân o'r traeth yn ystod ei ymweliad.
“Mae rhai ohonyn nhw’n ddeniadol iawn ac yn ail mae gen i bwll pysgod gartref ac rwy’n eu gosod o amgylch y pwll pysgod.
“Mae’r cerrig mân dwi’n eu cymryd yn fach iawn, boed hynny’n cyfrannu at erydiad arfordirol, dydw i ddim yn rhy siŵr.”
Dywedodd Sophie, 31, a Jason Powell, 36, o Gaerwrangon nad oedden nhw erioed wedi meddwl mewn gwirionedd am effaith cymryd cerrig mân o’r traeth ar yr arfordir.
Dywedodd Sophie: “Rwy’n adnabod llawer o bobl sydd wedi mynd â nhw fel souvenirs... mae gennym ni feiros paent acrylig, ac roedden ni’n mynd i dynnu llun ar rai ohonyn nhw gyda’n merch fach i wneud atgofion a mynd â nhw adref i ddangos i’r teulu. ”
Ychwanegodd Jason: “Rydw i wedi bod yn dod yma ers pan oeddwn i’n blentyn a dyw hi ddim yn ymddangos bod llai o gerrig, dwi ddim wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth”.
Dywedodd Lauren Murphy, 34 oed o Leeds, nad oedd hi erioed wedi meddwl am y darlun mwy mewn gwirionedd.
“Rydyn ni wedi bod yn casglu cregyn bore ma, ond mae’n rhywbeth y bydden ni’n meddwl amdano yn y dyfodol, i beidio â chymryd cerrig mân rhag ofn iddo gyfrannu at erydu arfordirol.”
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Saundersfoot yr wythnos nesaf i drafod opsiynau posib o ‘ymestyn Y Strand’ ac ‘amddiffyn y bobl sy’n byw ar y traeth’.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Williams y bydd Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor Cymuned a Chyngor Sir Penfro yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod.
“Does dim arwyddion ar gael ar hyn o bryd a dwi’n meddwl mae’n debyg mai dyna un o’r pwyntiau cyntaf ar yr agenda i’w datrys. Mae’n ymwneud ag ymgysylltu â’r cymunedau, ymgysylltu â’r trigolion a gwrando ar eu barn” meddai.
'Parchwch yr eiddo sydd ar y traeth'
Ychwanegodd y Cynghorydd, Chris Williams: “Yr hyn y byddwn i’n ei gynghori i bobl yw, ac mae hynny ar gyfer pobl sy’n dod yma, twristiaid, y trigolion, yw parchwch yr eiddo sydd ar y traeth a gadewch y cerrig lle maen nhw.
"Os oes gennych chi gerrig yn eich tŷ, yn eich gardd, mae croeso i chi ddod â nhw yn ôl.”
Mae llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn annog trigolion ac ymwelwyr i “barchu’r amgylchedd naturiol” ac i gadw at y canllawiau sy’n gwarchod traethau a’r arfordir.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022