Bwriad i ddymchwel safle 2 Sisters Llangefni
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar y gweill i ddymchwel safle ffatri ieir a gaeodd y llynedd wrth i 700 o bobl golli eu swyddi.
Er sefydlu tasglu mewn ymgais i achub y ffatri brosesu dofednod, fe gaeodd 2 Sisters Llangefni ym mis Mawrth 2023.
Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd cwmni Stena eu bod wedi prynu'r safle fel rhan o'u cynigion ar gyfer parc technoleg ar hen safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi.
Mae cyfres o ganolfannau data wedi'u cynllunio ar gyfer y safle yng Nghaergybi yn ogystal â system storio ynni batri 349 MW, 107,600 troedfedd o ofod swyddfa a 53,800 troedfedd o gyfleusterau ymchwil a datblygu.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Ian Davies o gwmni Stena Line wrth BBC Cymru eu bod hefyd yn gobeithio creu cyfleoedd gwaith ar safle 2 Sisters.
Sawl diwydiant 'yn awyddus i symud i mewn'
"Fe brynon ni hen safle Alwminiwm Môn ac mae'n debyg ein bod wedi gwario tua £20 miliwn yn clirio'r safle hwnnw a'i wneud yn barod," meddai.
"Fel un o'r partneriaid yn y Porthladd Rhydd, gyda Chyngor Môn, mae yna lawer o ddiwydiannau eraill oedd yn awyddus i symud i mewn, yn enwedig o gwmpas y sector llanw… mae yna bob math o ddiwydiannau diddorol erbyn hyn.
"Mae'n debyg y bydd y parc technoleg ei hun yn lawer mwy na'r oedden ni'n ei ddisgwyl yn wreiddiol, felly rydan ni dal eisiau rhoi lle i'r diwydiannau eraill yma ar safleoedd eraill."
Yn ôl dogfennau cynllunio sydd bellach wedi'u cyflwyno i Gyngor Môn, rhagwelir y byddai adeiladau 2 Sisters ar Stad Ddiwydiannol Llangefni yn cael eu chwalu heb ddefnydd ffrwydron erbyn ddiwedd Chwefror 2025.
Dywedodd un o gynghorwyr sir Llangefni, Nicola Roberts, ei bod yn falch bod Stena wedi prynu'r safle, a'i bod yn gobeithio y byddai'n arwain at wneud i fyny am o leiaf rhai o'r swyddi a gafodd eu colli.
"'Dan ni wedi gweithio'n galed hefo swyddogion y cyngor sir i wneud yn siŵr fod y safle yn cael ei gysidro," meddai, "a 'dan ni'n falch fod Stena wedi bachu ar y cyfle i ddod â fo'n rhan o Parc Ffyniant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2023