Parc technoleg gwerth £1bn 'i greu 1,200 swyddi' ym Môn
- Cyhoeddwyd
Byddai parc technoleg ar gyn-safle Alwminiwm Môn yn creu dros 1,000 o swyddi, yn ôl datblygwyr.
Daeth smeltio i ben ar y safle 213 acer ar gyrion Caergybi yn 2009, ac er i gynlluniau am 'barc eco' gael eu creu yno, aeth cwmni Orthios i'r wal yn 2022.
Ond mae Anglesey Land Holdings Ltd, sy'n berchen i gwmni Stena, bellach wedi prynu'r safle - sydd wedi ei ail enwi yn Parc Ffyniant.
Maen nhw wedi dechrau cyfnod o ymgynghori ar gynigion i'w droi'n "gampws modern gyda'r gorau yn y byd" tra'n manteisio ar statws porthladd rhydd yr ynys.
Beth ydy'r cynlluniau?
Y bwriad ydy adeiladu 238,000 medr sgwâr o gyfleusterau storio data i gwrdd â galw cynyddol byd-eang.
Mae system storio ynni batri 349MW, swyddfeydd a gofod ymchwil a datblygu hefyd wedi eu clustnodi ar gyfer y safle.
Canolfannau data yw asgwrn cefn y cynllun – sef banciau enfawr o gyfrifiaduron i bweru gwasanaethau fel deallusrwydd artiffisial (AI), prosesu data a ffrydio – ac mae disgwyl byddai'r costau adeiladu yn cyrraedd £1bn.
Yn ôl Stena byddai'r cynlluniau'n cyfrannu £578m y flwyddyn i economi Cymru ac yn creu tua 1,200 o swyddi - ond o bosib cymaint â 2,000 - yn ogystal â 900 o swyddi eraill yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae'r cwmni - sy'n ymgynghori ar y cynigion cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio amlinellol - hefyd wedi prynu 100 acer o dir gerllaw yn ardal Cae Glas, Caergybi yn ogystal â safle 10 acer cyn-ffatri 2 Sisters yn Llangefni.
Dywedodd Ian Davies o gwmni Stena y byddai'r ganolfan ddata "ar flaen y gad" o ran technoleg, ond y byddai'n cael ei ariannu'n breifat.
Ychwanegodd fod safle Alwminiwm Môn wedi cael ei ffafrio oherwydd bod yr holl hanfodion yno gan gynnwys cysylltedd ffyrdd a rheilffyrdd, ond hefyd cyflenwad trydan ei hun a chysylltiad data sydd eisoes yn bodoli.
Gyda'r rhain eisoes yn eu lle, dywedodd y gallai hyn dorri'r costau a gwaith adeiladu o "rhyw 5-6 mlynedd" o'i gymharu â sefydlu canolfan o'r fath mewn lleoliad newydd sbon, ond byddai'n dal i olygu buddsoddiad "yn y cannoedd o filiynau".
"Yn draddodiadol mae canolfannau fel hyn wedi eu canoli ar hyd yr M25 ond mae'r galw lawer mwy erbyn hyn a 'da ni mewn sefyllfa eitha unigryw," meddai Mr Davies wrth BBC Cymru.
"Ar hyn o bryd does gan Iwerddon ddim y gallu i gael mwy o ganolfannau data, mae technoleg yn beth mawr o gwmpas ardal Dulyn ac wrth gwrs rydan ni 50 milltir o Ddulyn.
"Felly 'da ni mewn lleoliad gwych i ddarparu cyfleuster blaengar fel hwn."
"Os edrychwch chi ar faint o bobl sy'n mudo oddi ar yr ynys bob dydd ar gyfer gwaith, mae o tua 8-9,000 o bobl," ychwanegodd Mr Davies.
"Felly y gobaith yw y gallwn ni ddenu pobl gyda swyddi lleol o safon ar yr ynys ei hun.
"Bydd cyfleoedd eraill i bobl hyfforddi oherwydd, yn amlwg, mae canolfan ddata yn ymrwymiad tymor hir."
Mae gobaith hefyd y daw swyddi yn ôl i gyn-ffatri 2 Sisters yn Llangefni, wedi i'r safle gau y llynedd wrth i 700 golli eu gwaith.
Dywedodd Mr Davies y byddai ychwanegu'r safle 10 erw i'r portffolio yn darparu mwy o le i ddenu busnesau.
"Fe brynon ni hen safle Alwminiwm Môn ac mae'n debyg ein bod wedi gwario tua £20 miliwn yn clirio'r safle hwnnw a'i wneud yn barod.
"Fel un o'r partneriaid yn y Porthladd Rhydd, gyda Chyngor Môn, mae yna lawer o ddiwydiannau eraill oedd yn awyddus i symud i mewn, yn enwedig o gwmpas y sector llanw… mae yna bob math o ddiwydiannau diddorol erbyn hyn.
"Mae'n debyg y bydd y parc technoleg ei hun yn lawer mwy na'r oedden ni'n ei ddisgwyl yn wreiddiol felly rydan ni dal eisiau rhoi lle i'r diwydiannau eraill yma ar safleoedd eraill."
'Dod â diwydiant gwahanol i Fôn'
Mae cynnwys safle 2 Sisters fel rhan o gynlluniau hirdymor Stena i ddenu busnesau yn ddatblygiad i'w groesawu, yn ôl un o gynghorwyr sir Llangefni.
"Oedd yr ergyd yn anferthol hefo cymaint allan o waith a teuluoedd yn cael eu heffeithio, rwbath 'da ni'n obeithio fydd ddim angen i ni weld eto," dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts.
"Mae'n beth da i glywed fod Stena wedi prynu'r safle a bod 'na gynlluniau ar y gweill.
"'Da ni wedi gweithio'n galed hefo swyddogion y cyngor sir i wneud yn siŵr fod y safle yn cael ei gysidro a 'da ni'n falch fod Stena wedi bachu ar y cyfle i ddod â fo'n rhan o Parc Ffyniant.
"Gwaith mae pobl ei angen i allu cynnal cartrefi wedyn dyna'r gobaith, fod y safle yn cynnal gwaith unwaith yn rhagor i bobl Llangefni a thu hwnt."
Yn ôl Aelod Seneddol yr ynys, mae hwn yn "gam positif ymlaen".
Ychwanegodd bod y porthladd rhydd yn ganlyniad i bartneriaeth rhwng y ddwy lywodraeth, y cyngor sir a chwmni Stena.
"Mae pawb ar yr ynys 'di bod yn gofyn be mae hyn wirioneddol yn ei olygu ac rŵan mae'n nhw'n gallu gweld y cynllun yma," dywedodd Llinos Medi.
"Mae am greu swyddi a dod â diwydiant gwahanol i Ynys Môn, sy'n beth da iawn.
"Mae storio data yn rhywbeth sy'n cael ei drafod fwy a fwy rŵan hefo newid mawr AI ac yn y blaen.
"Mae'r ffaith fod hwn wedi ei leoli yng ngogledd Cymru a'r cysylltiad hefo Iwerddon yn bwysig, mae'n safle strategol iawn ac mae hyn yn cael ei gydnabod."
Ychwanegodd: "Mi oedd pryniant safle 2 Sisters yn aruthrol o bwysig, mi gollon ni swyddi a chymuned.
"Mae'r ffaith fod na rwan ail fywyd i'r safle yna yn ofnadwy o bwysig... 'da ni am weld Caergybi yn elwa, Llangefni yn elwa, mae'n bwysig fod datblygiad yr economi yn cyffwrdd pob rhan."
Bydd sesiwn ymgynghori ar gynlluniau Parc Ffyniant yn cael ei gynnal yn Neuadd y Farchnad Caergybi rhwng 14:00-19:00 ddydd Mawrth
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2023