Meddyg mwyaf blaenllaw Cymru yn gadael ei swydd

Frank Atherton  Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Frank Atherton iddo wasanaethu Cymru yn ystod "adeg hynod o heriol"

  • Cyhoeddwyd

Mae meddyg mwyaf blaenllaw Cymru, a oedd yn gyfrifol am sut oedd y wlad yn ymateb i bandemig Covid-19, wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd wedi wyth mlynedd a hanner.

Fe wnaeth Syr Frank Atherton ddarparu cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i adael ei rôl ddiwedd y mis, fe ddisgrifiodd ei gyfnod yn y swydd fel braint ac uchafbwynt ei yrfa, wedi iddo wasanaethu Cymru yn ystod "adeg hynod o heriol".

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ddweud fod Syr Frank wedi chwarae rôl arweiniol wrth ymateb i'r pandemig, a'i fod yn hynod o ddiolchgar am ei "gyngor a'i arweiniad amhrisiadwy".

Cafodd Syr Frank ei anrhydeddu'n farchog yn rhestr anrhydeddau'r ddiweddar frenhines yn 2021 am ei wasanaeth i iechyd cyhoeddus, ac roedd hefyd yn gyfrifol am arwain ymchwil iechyd a gofal.

Cafodd ei benodi yn Brif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016 ar ôl iddo fod yn ddirprwy brif swyddog meddygol iechyd yng Nghanada.

Dywedodd Syr Frank: "Hoffwn ddiolch i'r holl weithwyr sifil sydd wedi gweithio'n ddiflino tu ôl i'r llen ac sydd wedi fy nghynhorthwyo am bron i ddegawd yn y rôl hon."

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru, ei fod wedi bod yn "fraint i gydweithio ag ef a'i bod wedi cael budd o'i brofiad a'i ymrwymiad".

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd olynydd Syr Frank yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

Pynciau cysylltiedig