Clwb Pêl-droed Pen-y-bont: 'Rhyddhad' derbyn bagiau coll yn ôl

Dywedodd y clwb fod pawb yn falch o gael eu bagiau yn ôl a'u bod yn edrych ymlaen at y gêm
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Pen-y-bont wedi dweud eu bod wedi derbyn y bagiau oedd ar goll ganddynt ddydd Iau, yn dilyn hediad.
Maen nhw'n chwarae mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, a doedden nhw ddim hefo esgidiau na dillad pêl-droed - ar ôl i'w bagiau fynd ar goll tra'r oedden nhw dramor.
Maent yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru ac yn Lithuania i wynebu Kauno Žalgiris, yng nghymal cyntaf y rowndiau rhagbrofol yng Nghyngres UEFA, ddydd Gwener.
Hedfanodd y tîm o faes awyr Dinas Llundain ar 8 Gorffennaf, a phan gyrhaeddon nhw Vilnius fe welon nhw fod y rhan fwyaf o'u bagiau wedi mynd ar goll.
Mewn diweddariad, dywedodd y clwb fod "pawb yn falch o gael eu bagiau yn ôl", a'u bod yn edrych ymlaen at y gêm.
Dywedodd y cwmni hedfan Pwylaidd, Lot, bod rhai bagiau a dau deithiwr wedi eu tynnu oddi ar yr hediad oherwydd amodau tywydd anodd a therfyn pwysau.
- Cyhoeddwyd1 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb ar y pryd: "Ni wedi cyrraedd Lithuania, dyw ein bagiau ddim."
Roedd y neges hefyd yn awgrymu eu bod wedi gorfod prynu esgidiau pêl-droed newydd ar gyfer y gêm ddydd Gwener.
Cadarnhaodd y clwb ar y pryd fod dillad hyfforddi a chwarae'r tîm ymysg y bagiau coll.
"Sylwon ni nad oedd ein bagiau wedi cyrraedd tua hanner awr ar ôl glanio," meddai Ryan March, swyddog y wasg i'r clwb.
"Dim ond chwe bag wnaeth lwyddo i gyrraedd yr ochr arall - allan o'r hediad i gyd. Am ryw reswm, ni wnaeth y cwmni hedfan lwytho'r bagiau ar yr awyren."
'Camgymeriad mawr'
Ychwanegodd Mr March ar y pryd fod y clwb yn gobeithio cael gafael ar eu bagiau yn gynnar fore Gwener.
"Mae'n rhwystredig ein bod ni'n dioddef oherwydd camgymeriad mawr," meddai.
Dyma'r eildro mewn tair blynedd i Glwb Pêl-droed Pen-y-bont chwarae yn Ewrop, ar ôl cyrraedd yr un gystadleuaeth yn 2023.
Esboniodd Mr March fod y clwb wedi prynu esgidiau newydd i'w chwaraewyr o siop leol.
Bydd ail gymal y rowndiau rhagbrofol cyntaf yn cael ei chwarae yng Nghaerdydd ar 17 Gorffennaf.
Bydd yr enillwyr yn wynebu Valur o Wlad yr Iâ neu dîm o Estonia, Flora Tallinn yn yr ail rownd ragbrofol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.