Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae hi bellach yn anghyfreithlon i fusnesau gynnig nifer o ddeunyddiau plastig tafladwy fel cwpanau, platiau a chyllyll a ffyrc i'w cwsmeriaid yng Nghymru.
Fel tref fu'n anelu ers tro at statws "cymuned ddi-blastig", does dim syndod fod caffis a siopau tecawe Aberaeron yn dweud eu bod yn barod.
Ond wrth siarad â BBC Cymru Fyw cododd nifer bryderon am gost yr opsiynau amgen, a phrinder cyflenwadau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y cyfyngiadau'n helpu "lleihau llif gwastraff plastig niweidiol" i'r amgylchedd.
Agorodd Clare Cowan ei chaffi yng nghanol y dref saith mlynedd yn ôl, gan benderfynu peidio cynnig cynnyrch plastig untro o'r dechrau.
"O fod yn byw yng nghefn gwlad a bwys y môr hefyd, wy’n credu bod e'n rili bwysig," meddai.
Mae'r caffi prysur yn cynnig gwasanaeth tecawe ar gyfer brecwast a chinio, yn ogystal â chacennau a diodydd poeth - a'r cyfan yn cael eu darparu mewn bocsys neu gwpanau cardfwrdd trwchus.
Mae'r gwellt yfed yn rhai papur, a'r cyllyll a ffyrc yn bren.
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Medi 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
"Odi ma' fe'n eitha' costus," meddai Clare.
"Gall un bocs cacen fod cymaint â £1, a'r cwpanau just dan 50c."
Ond mae cwsmeriaid yn gefnogol, meddai, ac yn barod i dalu 'chydig yn fwy.
Eu gobaith yw y bydd y gwaharddiad ar gynnyrch plastig, rhatach yn golygu bod yr opsiynau amgen fel y rhai y mae hi'n eu defnyddio yn cael eu prisio'n fwy cystadleuol maes o law.
Yn siop sglodion y New Celtic gerllaw mae prydau tecawe'n cael eu cyflwyno mewn cynhwysyddion sydd wedi'u gwneud o startsh grawn (cornstarch).
Roedd yr hen rai polystyren yn costio tua 7c yr un, tra bo'r rhain - sy'n pydru'n gynt - yn nes at 25c.
Yn ôl y rheolwr Joshua Jones mae'n rhaid i fusnesau "symud i edrych ar ôl yr amgylchedd a symud gyda be' ma' Llywodraeth Cymru mo'yn i ni 'neud".
Ond ar hyn o bryd mae'r galw am ddefnyddiau eco-gyfeillgar mor uchel wrth i bawb baratoi at y gwaharddiad "mae'n really anodd cael gafael arnyn nhw", meddai.
Cytuno â hynny mae Liza Davenport - perchennog siop hufen iâ ac ysgytlaeth Angelato.
Roedd hi wrthi'n trio cael gwared ar ei llwyau plastig cyn i'r gwaharddiad ddod i rym, ac wedi bod yn cysylltu â chyflenwyr amrywiol er mwyn rhoi tro ar opsiynau gwahanol.
"Ond mae'n anodd iawn i newid ar yr un pryd â ma'r ban yn dod i mewn," meddai.
"Mae pawb yn trio gwneud - a ni'n cael trafferth cael hyd i'r deunyddiau."
Beth sy'n cael ei wahardd?
Mae platiau, cyllyll, ffyrc, llwyau, troellwyr diodydd, ffyn balŵn a ffyn cotwm plastig tafladwy oll ar y rhestr.
Bydd cwpanau a chynhwysyddion bwyd tecawe sydd wedi'u gwneud o bolystyren yn cael eu gwahardd hefyd.
Felly hefyd gwellt yfed plastig untro - er bod dal modd eu cynnig i bobl sydd eu hangen i yfed a bwyta'n ddiogel neu'n annibynnol.
O ddydd Llun mae busnesau, elusennau a chyrff cyhoeddus fel ysgolion a chynghorau yn torri'r gyfraith os ydyn nhw'n darparu neu'n arddangos y cynnyrch yma.
Dyma yw rhan gynta'r gwaharddiad - gyda'r nesaf i gynnwys bagiau plastig untro, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau a chynwysyddion bwyd a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy (oxo-degradable).
Bydd y gwaharddiad yna'n dod i rym cyn diwedd tymor y Senedd yn 2026, meddai'r llywodraeth.
Beth yw'r opsiynau i fusnesau?
Mae'r canllawiau ar y ddeddfwriaeth newydd sydd wedi'u darparu i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yn dweud y gallan nhw newid at ddefnyddio cynnyrch tafladwy sydd ddim yn blastig - wedi'i wneud o bethau fel papur, cardfwrdd neu bren.
Bydd yn rhaid iddyn nhw fod yn ofalus, serch hynny, achos os oes côt blastig ar blât papur, er enghraifft, mae hynny'n dal i gyfri' fel rhywbeth sydd wedi'i wahardd.
Byddai hyd yn oed yn well i'r amgylchedd petai busnesau'n annog cynnyrch y mae modd ei ail-ddefnyddio, a chaniatáu i gwsmeriaid ddod â chynhwysyddion eu hunain lle bod hynny'n bosib.
Mae cwmni Dr Rebecca Colley-Jones, Ynys Resources, yn rhoi cyngor i fusnesau ar ailgylchu a chynaliadwyedd.
Dywedodd mai newid "yr holl beth un tro" o fewn cymdeithas ddylai fod yn flaenoriaeth.
"Os newidiwn ni bopeth i bapur a wedyn bod hwnnw i gyd yn mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael ei losgi, yna dyw hynny ddim o reidrwydd yn opsiwn gwell - mae'r cynnyrch yna'n dal yn gorfod dod o rywle," meddai.
"Be' sy'n rhaid i ni 'neud yw taclo'r ffordd y'n ni'n ymddwyn - 'da ni'n gor-ddibynnu ar [bethau] un tro.
"A gobeithio 'neith hwn helpu gwthio pobl i'r cyfeiriad cywir."
'Dysgu lot o'r Alban a Lloegr'
Dywedodd John Penaluna, cyfarwyddwr rhanbarthol Cymru y National Federation of Fish Fryers ei fod yn teimlo bod busnesau ar y cyfan wedi paratoi yn dda.
"Ry'n ni mewn sefyllfa ffortunus, ar ôl dysgu lot o'n cyfoedion yn Yr Alban lle mae 'na waharddiad wedi bod ers dros flwyddyn, ac yn Lloegr lle daeth un i rym fis diwethaf," meddai.
Ychwanegodd fod cyflenwyr wedi bod yn "hynod o brysur" yn ceisio cael cynhwysyddion eco-gyfeillgar i siopau ar hyd a lled y wlad.
"Mae 'na gost uwch ynghlwm â'r peth ond 'nawn ni gyd gyfarwyddo ag ef, a gobeithio y gwelwn ni'r buddion mewn blynyddoedd i ddod."