Carcharu dyn fu'n twyllo henoed a phobl bregus ym Môn

Joseph Oliver
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joseph Oliver, 34 o Blackpool, wedi targedu’r henoed a phobl fregus yng ngogledd Cymru ac yn Sir Gaerhirfryn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn fu’n twyllo pobl fregus i dalu am waith “echrydus” i'w tai wedi ei ddedfrydu i bron i bum mlynedd o dan glo.

Collodd y dioddefwyr fwy na £500,000 rhyngddynt.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Joseph Oliver, 34 o Blackpool, wedi targedu’r henoed a phobl fregus yng ngogledd Cymru ac yn Sir Gaerhirfryn.

Roedd naw o’r 39 o ddioddefwyr yn byw ar Ynys Môn, medd y cyngor sir.

Dywedodd un dyn ei fod yn teimlo fel “hen ddyn ffôl” wedi iddo dalu dros £132,000 am waith a gafodd ei alw’n “erchyll” gan arbenigwr.

Plediodd Oliver yn euog o redeg dau fusnes twyllodrus dros gyfnod o chwe blynedd.

Byddai’r cwmnïau, LJ Property Solutions a Windowseal Limited, yn dechrau drwy gynnig gwarantau ar ffenestri, drysau ac ystafelloedd gwydr i gwsmeriaid.

Ond twyll oedd y rhain, meddai’r erlynydd Lee Reynolds, a'r cwsmeriaid i bob pwrpas yn talu miloedd i gael eu ffenestri wedi'u glanhau.

Roedd y gwarantau yn esgus i gael mynediad at gartrefi’r cwsmeriaid, medd Mr Reynolds, ble fyddai Oliver yn dychwelyd a pherswadio’r dioddefwyr bod angen mwy o waith ar eu tai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joseph Oliver ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun

“Megis dechrau oedd yr anonestrwydd,” medd Mr Reynolds.

Byddai Oliver yn dweud bod peryg o ddŵr yn mynd i mewn i'r tai, neu fod yna risg o dân, a bod angen gwaith ar unwaith i ddatrys y problemau.

“Roedden nhw’n cael eu dal yn wystl. Byddai Oliver yn rhoi pwysau arnyn nhw i dalu am fwy o waith," medd yr erlynydd.

“Roedd y dioddefwyr yn cael eu trin fel cash cows, gyda Mr Oliver yn mynd yn ôl atynt dro ar ôl tro.”

Clywodd y llys fod Oliver yn targedu pobl hŷn oedd yn berchen ar eu tai ac a oedd yn “fregus iawn”.

Oed cyfartalog ei ddioddefwyr oedd 82, gyda sawl un llawer yn hŷn.

Dywedodd yr erlyniad bod cyfanswm o £5m wedi mynd trwy gwmnïau Oliver, a'r dioddefwyr wedi colli £544,300 rhyngddynt.

“Roedd yr effaith ar y dioddefwyr yn sylweddol. Roedden nhw’n teimlo dan fygythiad ac wedi cael ofn. Roedden nhw’n teimlo cywilydd, embaras ac yn fregus,” medd Mr Reynolds.

Dywedodd yr amddiffyniad fod Oliver wedi dangos “edifeirwch go iawn,” a’i fod wedi ysgrifennu llythyr at y barnwr yn disgrifio ei droseddau fel rhai “ffiaidd” oedd yn ei wneud i “deimlo’n sâl”.

'Stori boenus y tu ôl i bob punt'

Wrth ei ddedfrydu i bedair blynedd a naw mis dan glo, dywedodd y Barnwr Timothy Petts fod Oliver wedi “defnyddio’i ddioddefwyr am gymaint o arian a phosib".

“Y tu ôl i bob punt mae stori bersonol boenus,” meddai.

“Mi wyt ti wedi difetha bywyd pobl mewn oed ar ddiwedd eu hoes.

“Trodd cartrefi dy ddioddefwyr yn ffynhonnell straen a phroblemau ariannol, yn hytrach na harbwr diogel."

Cafodd Oliver ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr busnes am 10 mlynedd.

Bydd Oliver hefyd yn wynebu gwrandawiad enillion troseddau er mwyn ceisio adfer ychydig o arian ei ddioddefwyr.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn eu bod yn croesawu'r euogfarn ddydd Llun, "ac yn canmol y dioddefwyr am eu dewrder wrth helpu’r swyddogion Safonau Masnach i erlyn y dyn yma".

"Mae cymryd mantais o bobl agored i niwed yn gwbl annerbyniol ac ni fyddwn yn gadael i hyn ddigwydd.”