Ymwelwyr iechyd: Fy merch wedi 'disgyn drwy'r rhwyd'
- Cyhoeddwyd
Mae mamau yng Ngheredigion yn dweud bod eu plant wedi "llithro drwy'r rhwyd" gydag apwyntiadau ymwelydd iechyd.
Yn fam gyntaf, bu'n rhaid i Ceri Evans ffonio am help ar ôl chwe mis, tra na welodd merch Manon Rhys-Jones ymwelydd iechyd tan ei bod yn ddwy a hanner.
Mae gwasanaethau ymwelwyr iechyd - sydd i fod i gael cyswllt rheolaidd gyda rhieni a'u plant - dan bwysau ar draws y wlad yn ôl elusen Barnardo's Cymru.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn wynebu heriau recriwtio ond bod pethau'n gwella.
Mae Ceri Evans, 33 o Aberystwyth, yn fam i Anna sy'n flwydd a hanner.
Mae'n dweud i'w merch "ddisgyn drwy'r rhwyd" wrth iddi aros am fisoedd am ymwelydd iechyd i ddod i'w gweld.
"Ti’n teimlo ‘chydig bach ar ben dy hun... yn enwedig pan ti’n fam tro cynta', a ti’n disgwyl gweld ymwelwyr iechyd a does ‘na neb yn dod.
"Pan ‘nes i gysylltu efo’r bwrdd iechyd tua mis Hydref, mis Tachwedd llynedd, o’n i’m 'di gweld neb ers oedd Anna tua pythefnos oed.
"'Nes i sôn 'ydy hi fod i gael llaeth allan o bicer, botel?' 'Dw i’m yn gw'bod be' 'dw i fod i 'neud'.
"Pan ges i rywun yn dod allan ac oedd hi’n wych - ‘naeth hi gyfadde' yn anffodus o’dd Anna wedi disgyn drwy’r rhwyd."
Fe gafodd Manon Rhys-Jones brofiad tebyg ond ddaeth neb i'w gweld hi a'i thrydydd plentyn, Awen, tan yr oedd hi'n ddyflwydd a hanner.
Fe rannodd neges ar y cyfryngau cymdeithasol am ei phrofiad a chael sawl neges gan famau yng Ngheredigion oedd wedi cael profiadau tebyg.
"Oedd 'na famau o ardaloedd eraill mewn sioc llwyr nad o'n i wedi gweld ymwelydd iechyd am dros ddwy flynedd, wel o’n i’n gw'bod bod hynna ddim yn dderbyniol.
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd12 Mai 2023
"Ma' ffrind i fi yn byw ym Mhowys ond 'dw i’n gallu cyrraedd ei thŷ hi o fewn hanner awr - dyna pa mor agos ‘dan ni, mae’r siroedd mor agos - a mae hi ‘di gweld ymwelydd iechyd mor aml, yn y cartref, yn y swyddfa, yn y syrjeri.
"Pam bod ni yng Ngheredigion, sydd yn sir fawr, ddim yn gallu cael yr un ddarpariaeth?
"Does 'na ddim lot fawr o bwynt gofyn i fi ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach ‘ti’n teimlo’n oreit?’”
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru, dolen allanol y llywodraeth yn nodi y dylai plant weld ymwelydd iechyd tua wyth i naw gwaith hyd nes eu bod yn dechrau'n yr ysgol.
Mae Sian Jones wedi bod yn ymwelydd iechyd yn ardal Ceredigion a dywedodd eu bod yn chwarae rôl bwysig yn mesur datblygiad plant, cefnogi rhieni ac asesu unrhyw risgiau.
Dywedodd fod ei gwaith wedi newid dipyn dros y blynyddoedd: "Yn dilyn Covid 'naeth hwnna newid y ffordd o'n ni'n gweld pobl ond hefyd ma' diffyg staff wedi bod.
"Ma' hwnna wedi cael effaith. Ni wedi gorfod canolbwyntio ar y pethe mwya' pwysig - babis rili ifanc, pobl sy'n symud mewn i'r ardal - ble mae eisiau mwy o gefnogaeth.
"Ond mae wedi bod yn gyfle i ni drio pethe newydd so ni 'di dod â staff mewn o lefydd eraill… ma' duty phone ni 'di cael achos Covid wedi bod yn ffantastig, ac yn ffordd i unrhyw un gysylltu â ni."
Mewn ymateb fe ddywedodd Liz Wilson, sy'n uwch nyrs gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn gyfrifol am y gwasanaeth ymwelwyr iechyd, fod heriau staffio yn eu wynebu ond bod y "darlun yn gwella".
"Yn y lle cyntaf 'dw i'n flin os na gafon nhw [y mamau] y gwasanaeth roedden nhw'n ei ddisgwyl," dywedodd.
"Ry'n ni wedi cael nifer o heriau, o ran recriwtio. Mae'n broblem genedlaethol o fewn nyrsio, ond mae hefyd yn waeth yn yr ardaloedd mwy gwledig.
"Rydyn ni wedi gweithio'n galed iawn. Rydyn ni wedi dod o le oedd yn eithaf pryderus ond mae'n ddarlun sy'n gwella.
"Mae gennym ni fwy o ymwelwyr iechyd yn dod allan ym mis Hydref, gan gymhwyso, bydd gennym ni fwy fis Hydref nesaf."
Yn ôl elusen Barnardo's Cymru mae'n ddarlun tebyg ar draws Cymru.
"Mae pwysau enfawr ar draws y gwasanaeth ymwelwyr iechyd ry'n ni'n gweld yn lleol, ond mae’n ymddangos ledled Cymru," dywedodd Laura Bibey o'r elusen.
"Mae'n codi pryderon enfawr i'r plant sy'n cael eu heffeithio."
'Parhau i fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd gynnig yr ystod lawn o gysylltiadau Rhaglen Plant Iach Cymru a dylent gynnal asesiad risg o'r holl lwythi achosion i nodi teuluoedd sy'n agored i niwed ac mewn perygl.
"Rydym hefyd yn disgwyl i fyrddau iechyd adolygu gweithrediadau'n rheolaidd, gan gynnwys y gweithlu gofynion y gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd.
"Rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngweithlu'r GIG a dros y chwe blynedd diwethaf rydym wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ymwelwyr iechyd blynyddol 12% (o 82 yn 2017 i 92 yn 2023)."