Môn: Etholaeth sy'n ynys ddaearyddol a gwleidyddol
- Cyhoeddwyd
Yn ogystal â bod yn ynys ddaearyddol mae Môn hefyd â thuedd i fod yn ynysig ei natur yn wleidyddol.
Mae gan yr etholaeth hanes o dorri ei chwys ei hun a dyw hi ddim wastad yn dilyn tueddiadau etholiadol.
Ond fel y rhan fwyaf o seddi'r gogledd fe olchwyd Môn gan y don las Geidwadol yn 2019.
Gyda'r tair prif blaid yng Nghymru wedi cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan yn ystod y chwarter canrif ddiwetha', maen nhw i gyd yn teimlo bod siawns gwirioneddol o'i hennill y tro yma.
Tra bod newid ffiniau wedi effeithio pob etholaeth arall yng Nghymru mae statws sedd Môn - oherwydd ei bod yn ynys - wedi ei warchod yn gyfreithiol.
O ganlyniad, hon fydd etholaeth leiaf Cymru o ran nifer yr etholwyr.
Ond mae disgwyl ymgyrchu brwd yma dros y mis nesaf mewn ras tri cheffyl go iawn.
'Llawn cyferbyniadau'
Mae poblogaeth o bron i 70,000 ar yr ynys 276 milltir sgwâr, gyda 55.8% o'r trigolion yn gallu siarad Cymraeg - ond mae ei chryfder yn amrywio'n eithaf eang o ardal i ardal.
Yn ynys llawn cyferbyniadau, ceir y rhan fwyaf o'r diwydiant trwm yn ei thref fwyaf poblog, sef Caergybi.
Ar yr arfordir mae yna gymunedau sy'n denu ymwelwyr yn eu miloedd.
Ond mae'r canolbarth yn fwy gwledig ei naws.
Yn nhref farchnad Llangefni mae'r Gymraeg ar ei chryfaf ac mae'n dal ei thir fel iaith gymunedol.
Gydag amaeth yn rhan mor amlwg o economi a diwylliant yr ynys, bydd y sector honno yn chwarae rhan bwysig yn nhynged yr etholiad.
Ym Mart Gaerwen brynhawn Mercher doedd neb yn gallu proffwydo pa ffordd byddai'r gwynt yn troi ar 4 Gorffennaf.
Wrth wenu dywedodd Huw Jones, sy'n ffermio ym Modedern, "never trust a politician".
"Sgen i ddim llawer o ffydd yn ddim un ohonyn nhw.
"Maen nhw'n dweud fod pethau'n altro ond mae trethi wedi mynd i fyny ac mae diesel geiniog yn fwy nag oedd o llynedd."
Ychwanegodd Victor Parry o Drefor: "Mae'r ŵyn yma'n gwerthu'n dda rŵan ond maen nhw wedi codi i bris lle does neb lleol yn gallu prynu nhw.
"Y person sydd am ennill yn Sir Fôn, ddim y blaid."
Ond mae hanes gwleidyddol yr ynys llawn cyferbyniadau hefyd.
Mae gan Blaid Cymru fwyafrif o dros 10,000 yn y sedd ym Mae Caerdydd.
Ond sedd y Ceidwadwyr ydy hi yn San Steffan ers 2019 er bod Aelod Seneddol Llafur, Albert Owen, yma am 18 mlynedd cyn hynny.
Gyda'r Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru wedi sicrhau tua thraean o'r bleidlais bedair blynedd yn ôl, mae disgwyl ras agos yma unwaith eto.
Fel ym mhob etholaeth, mae yna nifer o bobl ifanc yma fydd yn bwrw pleidlais mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf.
Un ohonyn nhw fydd Dafydd Griffiths, 18, o Rosybol ger Amlwch.
Dywedodd fod pynciau fel newid hinsawdd a chostau byw yn bynciau oedd yn "codi eu pen yn aml" gyda'i ffrindiau.
"Mae'n anodd iawn i rywun o'n hoed ni sy'n trio byw bywyd ysgol, dysgu dreifio ac ati, ond hefyd (yn poeni am) polisi tramor y wlad a beth sy'n digwydd yn Israel a Gaza.
"'Da ni isio gwneud yn siŵr fod Ynys Môn a Chymru'n cael y llais cywir yn San Steffan a bod nhw'n cymryd i ystyriaeth be 'da ni'r Cymry wir yn feddwl.
"Mae diffyg swyddi yn broblem, yn enwedig yn ardal Amlwch, does 'na ddim lot o gyfleoedd i bobl ifanc.
"Dwi'n bwriadu aros yma'n yr hir dymor ond mae 'na sawl aelod o'r chweched yn meddwl fod mwy o gyfleoedd tu allan i'r ynys a Chymru."
'Angen mwy o bres'
Mae'r ymgyrchu eisoes wedi cychwyn ar lawr gwlad ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yma mae'r aelod presennol, Virginia Crosbie, yn gobeithio amddiffyn ei sedd â mwyafrif o bron i 2,000.
Ei gwrthwynebydd ar ran Plaid Cymru fydd arweinydd y cyngor sir, Llinos Medi.
Gobaith Ieuan Môn Williams fydd manteisio ar y polau piniwn cenedlaethol ac adennill y sedd i’r Blaid Lafur ac mae pum ymgeisydd arall hefyd yn gobeithio creu argraff.
Ond gyda dros chwarter poblogaeth yr ynys dros 65 oed, mi fydd y bleidlais hŷn yn dylanwadu yn fawr ar y canlyniad.
Yn y clwb cyfrifiaduron, wedi ei drefnu gan Age Cymru Gwynedd a Môn yng Nghanolfan Glanhwfa, Llangefni, roedd rhai yn bendant bod angen newid.
Dywedodd Kathryn Robyns o Rostrehwfa bod mesurau i ddiogelu'r iaith Gymraeg yn bwysig iddi.
"Mae 'na gymaint o fewnfudwyr o Loegr, o dai haf, ond yn bersonol fy hun fyswn i ddim yn licio gweld Wylfa'n dod.
"Maen nhw isio 10,000 o weithwyr a dydyn nhw ddim yn mynd i gael gymaint â hynny o Sir Fôn felly 'da ni'n gweld ryw fewnlifiad eto.
"Dwi'm yn meddwl, gan fod y Torïaid i lawr, yr awn nhw i mewn eto gan fod bob dim yn eu herbyn nhw ar hyn o bryd."
Yn ôl Mair Jones o Lynfaes, mae angen mwy o gyllid i gynghorau ddarparu gwasanaethau lleol.
"Mae 'na gymaint o bobl angen help yn y canolfannau cadw'n heini a ballu ac mae angen mwy o bres," meddai.
'Llanast y blynyddoedd diwetha'
Tuag at y dwyrain mae tref Porthaethwy - lle yn ddyddiol mae miloedd o geir yn gadael yr ynys ac yn croesi'r pontydd bob bore i gyrraedd eu gwaith.
Ymysg perchnogion busnes ar y stryd fawr roedd eu diddordeb yn yr etholiad yn amrywiol.
Dywedodd Hannah Jones o Hannah's Barber Shop: "Does na'm lot yn visible i mi, dwi'm 'di gweld digon i wybod lot am y peth really.
"Dwi 'di cael un neu ddau o leaflets drwy'r post ond dyna oll."
Ond dywedodd Ioan Prys o siop Awen Menai fod cyfraddau busnes yn bwnc llosg.
"Maen nhw wedi mynd i fyny lot fawr yn y blynyddoedd diwethaf felly fyswn yn sbio fewn i hynny.
"Ond yr economi yn gyffredinol, a'r llanast sydd 'di bod dros y blynyddoedd diwetha' 'ma, dyna'r broblem mwya dwi'n meddwl.
"Dwi'm yn hapus efo sut mae pethau wedi mynd, ac hefo sgandals Vaughan Gething yng Nghaerdydd, dwi'n gobeithio eith yr 'un o'r ddau yna i fewn."
O edrych ar hanes etholiadol yr ynys, mae tuedd o gefnogi’r ymgeisydd yn hytrach na phlaid.
Does yr un Aelod Seneddol wedi colli eu sedd yma ers Megan Lloyd George ym 1951.
Ar hyn o bryd mae’n anodd iawn proffwydo os fydd y record anhygoel honno'n parhau neu beidio.
Rhestr lawn o’r ymgeiswyr yn etholaeth Ynys Môn:
Virginia Crosbie - Ceidwadwyr
Leena Farhat - Democratiaid Rhyddfrydol
Emmett Jenner - Reform UK
Llinos Medi - Plaid Cymru
Martin Schwaller - Y Blaid Werdd
Sir Grumpus L Shorticus - Monster Raving Loony Party
Ieuan Williams - Llafur
Sam Wood - Libertarian Party