Chwaraeon Cymru: Degawd o gyffro
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma rydym ni wedi bod yn dathlu 10 mlynedd ers sefydlu gwasanaeth BBC Cymru Fyw. Dyma uchafbwyntiau Owain Llŷr, gohebydd chwaraeon BBC Cymru, o fyd y campau yn y cyfnod.
2014
Roedd Gemau’r Gymanwlad yn rhai i'w cofio i dîm Cymru. Cyn teithio i Glasgow yr amcan oedd ennill 27 medal; saith yn fwy na chyfanswm y tîm yn Delhi yn 2010. Ac i wneud pethau'n fwy heriol bu'n rhaid i Non Stanford a Helen Jenkins (triathlon) yn ogystal â Becky James (seiclo) beidio cystadlu oherwydd anafiadau.
Er hynny fe lwyddodd y tîm berfformio'n llawer gwell na'r disgwyl gan ennill cyfanswm o 36 medal. Roedd yna bum medal aur - Francesca Jones (gymnasteg), Geraint Thomas (seiclo), Natalia Powell (judo) a Jazz Carlin a Georgia Davies yn y pwll nofio.
2015
Dyma un o'r buddugoliaethau enwocaf yn hanes tîm rygbi Cymru. Roedd y crysau cochion mewn grŵp hynod o heriol gydag Awstralia a Lloegr, a dau dîm yn unig fyddai'n gallu hawlio lle yn rowndiau'r wyth olaf.
Tydi hi byth yn hawdd wynebu Lloegr yn Twickenham, yn enwedig heb nifer o chwaraewyr allweddol megis Jonathan Davies, Rhys Webb a Leigh Halfpenny oherwydd anafiadau. Ac i wneud pethau'n waeth, bu'n rhaid i Scott Williams a Hallam Amos adael y cae yn ystod y gêm.
Cic wych Williams wnaeth arwain at gais fythgofiadwy Gareth Davies, a Chymru yn ennill o 28-25. Roedd y canlyniad yn golygu na fyddai Lloegr, oedd yn cynnal y gystadleuaeth, yn cael lle yn y chwarteri.
2016
Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn dal i ddisgrifio haf 2016 fel yr un "gorau erioed". Roedd y tîm cenedlaethol yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau am y tro cyntaf ers 1958, ac am antur oedd hi.
Fe lwyddodd Chris Coleman a'i griw i synnu'r byd pêl-droed drwy gyrraedd y rownd gynderfynol. Buddugoliaethau cofiadwy yn erbyn Slofacia, Rwsia, Gogledd ac Iwerddon a Gwlad Belg, cyn colli'n erbyn Portiwgal yn y pedwar olaf. Mi oedd hi wir yn stori dylwyth teg, ac yn haf hudolus yn Ffrainc i'r miloedd aeth allan yno i'w dilyn.
2017
Roedd 2017 yn flwyddyn arwyddocaol i dîm hoci iâ Devils Caerdydd, a wnaeth lwyddo ennill y gynghrair am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd. Dan arweiniad Andrew Lord y prif hyfforddwr fe wnaethon nhw hefyd ennill y Cwpan Her, gan guro Sheffield Steelers 3-2 yn y rownd derfynol.
2018
Bydd enw Geraint Thomas yn y llyfrau hanes am byth fel y Cymro cyntaf i ennill y Tour de France. Er ei fod wedi ennill medalau aur yn y Gemau Olympaidd ac yng Ngemau'r Gymanwlad, heb os ac oni bai dyma uchafbwynt ei yrfa ddisglair.
Chris Froome oedd arweinydd Tîm Sky yn y ras, ond fe ddaeth hi i'r amlwg yn ystod yr ail wythnos mai Thomas oedd y seiclwr cryfaf. Ar ôl ennill dau gymal yn olynol yn yr Alpau fe lwyddodd gadw gafael ar y crys melyn enwog am weddill y ras.
2019
Roedd Jade Jones yn barod wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd, Pencampwriaeth Ewrop yn ogystal â Grand Prix y Byd. Yn 2019 fe lwyddodd i greu mwy o hanes ym Mhencampwriaeth Taekwondo y Byd.
Ar ôl gorffen yn ail i Lee Ah-reum o Dde Corea yn 2017, fe wnaeth y Gymraes dalu'r pwyth yn ôl gan ennill 14-7 yn ei herbyn yn y rownd derfynol. Fe ddisgrifiodd y profiad o fod yn bencampwr byd fel "coron ar y cyfan".
2020
Mae dartiau wedi tyfu'n gamp hynod o boblogaidd yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, ac mae llwyddiant Gerwyn Price a Jonny Clayton wedi bod yn rhan fawr o hynny.
Mae'r ddau wedi ennill nifer o gystadlaethau fel unigolion, ond yn 2020 fe lwyddon nhw fel rhan o dîm wrth i Gymru ennill Cwpan Dartiau'r Byd am y tro cyntaf. Fe wnaethon nhw guro Michael Smith a Rob Cross o dîm Lloegr yn y rownd derfynol.
2021
Mae'r blynyddoedd diweddar wedi bod yn rhai llwm i glwb criced Morgannwg. Tydyn nhw heb ennill Pencampwriaeth y Siroedd ers 1997, ac wedi bod yn chwarae yn yr ail adran ers bron i 20 mlynedd bellach.
Ond maen nhw wedi profi llwyddiant yn y Cwpan Undydd yn ddiweddar, gan ennill y gystadleuaeth yn 2021 ar ôl curo Durham o 58 o rediadau yn y rownd derfynol, gyda'r capten Kiran Carlson yn sgorio 82.
2022
Fe wnaeth Non Stanford benderfynu dod a'i gyrfa ddisglair ym myd y triathlon i ben yn 2022. Ar ôl ennill Cyfres y Byd yn 2013 fe wnaeth hi wynebu llawer o broblemau gydag anafiadau.
Ond fe orffennodd ei gyrfa ar nodyn llawen, gan ennill medal arian fel rhan o dîm ras gyfnewid Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham, cyn cipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop ym Munich.
2023
Mae ychydig dros dair blynedd wedi bod ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds brynu Wrecsam, gydag uchelgais o weld y clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr rhyw ddydd.
Ar ôl 15 mlynedd yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr, o'r diwedd fe wnaeth Wrecsam ennill dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed yn 2023. Ers hynny maen nhw wedi codi eto i'r Adran Gyntaf. Dau ddyrchafiad arall a bydd breuddwyd y ddau o Hollywood wedi ei gwireddu...
2024
Jimmy Wilde, Howard Winstone, Joe Calzaghe a Lee Selby - dyna i chi enwau rhai o bencampwyr bocsio'r byd o Gymru. A bellach fe allwch ychwanegu enw Lauren Price i'r rhestr.
Price ydi'r ferch gyntaf o Gymru i gael ei choroni'n bencampwr byd, ac fe wnaeth hi hynny drwy guro Jessica McCaskill o Chicago mewn gornest yng Nghaerdydd. A hithau hefyd wedi ennill medal aur Olympaiddm, mae'n deg dweud ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad cywir yn gynharach yn ei gyrfa i roi'r gorau i chwarae pêl-droed a chanolbwyntio ar focsio.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd13 Ebrill
- Cyhoeddwyd20 Mai