Cerrig 'wedi eu dwyn' o fan bedd Williams Pantycelyn

Cerrig ar goll ar lwybr sy'n arwain at Eglwys LlanfairFfynhonnell y llun, Parchedig Paul Pritchard
  • Cyhoeddwyd

Mae gweinidog eglwys yn Sir Gaerfyrddin lle mae emynydd adnabyddus wedi ei gladdu yn apelio ar bobl i gysylltu â'r heddlu ar ôl i gerrig gael eu dwyn.

Dywedodd Parchedig Paul Pritchard fod 19 o gerrig a llechen las wedi eu dwyn o lwybr tu allan i Eglwys Santes Fair, yn Llanfair-ar-y-bryn ger Llanymddyfri.

Mae William Williams Pantycelyn wedi ei gladdu yno.

Fe ysgrifennodd Williams Pantycelyn dros 900 o emynau a 90 o weithiau llenyddol amrywiol ac arloesol, cyn ei farwolaeth yn 1791.

Y gred yw ei fod hefyd wedi teithio 80,000 milltir o amgylch y wlad i rannu'r efengyl, a hynny am 40 mlynedd yn ddi-dor.

Ar ôl gweld bod y cerrig wedi diflannu, fe ofynnodd y Parchedig Pritchard am help i gadw'r eglwys yn ddiogel.

"Fe ddes i'r eglwys ddydd Sul ac roedd y cerrig ar goll. Fe ddaeth warden yr eglwys o hyd iddo fel hyn ddydd Iau," dywedodd.

"Mae'n eglwys sy'n cael ei charu'n fawr. Dwi'n amau na fyddai unrhyw un lleol wedi gwneud hyn."

Ychwanegodd mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fod yr eglwys yn bwysig am sawl rheswm.

"Mae hon yn eglwys hynafol, ein heglwys iaith Gymraeg a man claddu'r Parchedig William Williams Pantycelyn.

"Os oes unrhyw un wedi gweld unrhyw beth amheus, plîs dywedwch wrth yr heddlu.

"Helpwch ni i gadw'r hen eglwys hardd hon yn ddiogel fel tyst Crist i siaradwyr Cymraeg cymuned Llanymddyfri."

Pynciau cysylltiedig