Dynes wnaeth ffoi o Wcráin wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teyrnged wedi’i rhoi i fenyw 40 oed o Wcráin fu farw wedi iddi gael ei tharo gan gar yn Abertawe, ar 31 Ionawr.
Roedd Tetiana Martynova, o Kharkiv, yn cerdded ar ochr y ffordd pan gafodd ei tharo gan gar Chevrolet Captiva gwyn.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 18:20 ar 31 Ionawr ar yr A4067, Ffordd Castell-nedd ger Treforys.
Roedd Tetiana yng Nghymru ar ôl ffoi o Wcráin pan ymosododd Rwsia ym mis Chwefror 2022.
Roedd wedi cael lloches yn ardal Abertawe gyda’i mab, 13 oed, Illia, ers Gorffennaf 2022.
'Menyw alluog, uchelgeisiol'
Mae’r bobl oedd wedi rhoi lloches iddi wedi ei disgrifio fel “menyw oedd yn creu argraff, yn aml-ieithog, galluog, uchelgeisiol, gweithgar ac ymroddgar".
Roedd yn gweithio i gwmni lleol yn y byd cyfrifeg ac wedi llwyddo i gael cymwysterau pellach tra yn Abertawe.
Roedd Tetiana yn gobeithio dychwelyd i Wcráin yr haf hwn.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio ac yn apelio am dystion neu unrhyw un â lluniau dashcam.