Teyrnged i ddyn, 64, fu farw ar ôl ymosodiad yng Ngorseinon

Kelvin EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kelvin Evans, 64, ei gludo i'r ysbyty ar ôl ymosodiad mewn gwesty

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw ar ôl ymosodiad wedi rhoi teyrnged i “fab, brawd, ewythr a ffrind hyfryd, cariadus a doniol”.

Cafodd Kelvin Evans, 64, ei gludo i'r ysbyty ar ôl ymosodiad ar 26 Mai yng Ngwesty'r Orsaf yng Ngorseinon, Abertawe.

Bu farw Mr Evans, o Orseinon, yn yr ysbyty.

Dywed ei deulu bod eu calonnau'n torri wedi'r golled "ddibwrpas".

Mae dyn 39 oed wedi ei arestio ac yn dal i fod yn y ddalfa.

Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu Mr Evans eu bod yn “ceisio dygymod” â’r sefyllfa.

Mae dynes 54 oed o Abertawe, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu'r De yn apelio ar y cyhoedd am wybodaeth am y digwyddiad.