Darganfod car dynion ifanc sydd ar goll yn y gogledd

Disgrifiad,

Ein gohebydd Llyr Edwards yn adrodd o ardal Porthmadog

  • Cyhoeddwyd

Mae car wedi ei ddarganfod wrth i'r heddlu chwilio am bedwar dyn ifanc yn eu harddegau sydd ar goll yn y gogledd-orllewin.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Henderson a Hugo Morris, wedi eu gweld ddiwethaf fore Sul.

Cafodd y pedwar eu gweld ddiwethaf yn ardal Porthmadog a Harlech, meddai'r llu.

Y gred yw bod y pedwar yn dod o ardal Amwythig, a'u bod wedi mynd i wersylla yn Eryri.

Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn teithio mewn car Ford Fiesta arian, sydd â'r rhif adnabod HY14 GVO.

Daeth cadarnhad gan y llu fod y cerbyd hwnnw bellach wedi ei ddarganfod yn sgil derbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd, ac mae teuluoedd y dynion wedi eu hysbysu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi cau ffordd ger pentref Llanfrothen

Fe gadarnhaodd Shrewsbury College fod y pedwar yn fyfyrwyr yno, a'u bod yn astudio cyrsiau lefel A ar hyn o bryd.

Mewn datganiad, dywedodd y coleg bod "eu meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r pedwar sydd ar goll yng ngogledd Cymru".

Dywedodd mam Harvey, Crystal Owen, wrth y BBC fore Mawrth ei bod ar y ffordd i'r ardal er mwyn bod yn nes at y chwilio.

Ychwanegodd nad oedd hi'n ymwybodol fod ei mab 17 oed yn mynd i wersylla, a'i bod hi'n credu mai aros yn nhŷ taid un o'i ffrindiau oedd ei fwriad.

Dywedodd fod Harvey wedi gadael ei gartref nos Sadwrn, a'i bod yn gallu gweld nad yw ei mab wedi defnyddio ap WhatsApp ar ei ffôn ers amser cinio dydd Sul.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Harvey Owen nad oedd hi'n ymwybodol ei fod yn mynd i wersylla

"Rydw i'n orffwyll yn poeni," meddai. "Dydw i ddim wedi cysgu o gwbl.

"Doedden ni ddim yn gwybod ei fod yn mynd i wersylla. Pe bawn i'n gwybod fydden i heb adael iddo fynd yn y tywydd gaeafol.

"'Dyn ni'n meddwl mai'r tro diwethaf y cafodd eu ffonau eu tracio oedd ym Mhorthmadog tua hanner dydd [ddydd Sul].

"Maen nhw i gyd yn fechgyn sensitif, clyfar, a 'dyn ni jest yn gobeithio eu bod nhw wedi parcio yn rhywle, wedi mynd ar goll, a'u bod nhw'n iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd hofrennydd i'w weld yn chwilio ardal mynydd Cnicht fore Mawrth

Yn gynharach dywedodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu bod wedi bod yn chwilio am y car ym meysydd parcio Eryri.

Yn ôl Chris Lloyd, cadeirydd y tîm, fe gafon nhw gais gan yr heddlu brynhawn Llun i ymuno yn y chwilio.

'Ffeindio'r car yn bwysig'

Yn siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd Gareth Pritchard - cyn-Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu’r Gogledd sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen - ei bod "wedi bod yn bwysig ffeindio'r car".

"Unwaith mae’r car wedi cael ei ffeindio, mae 'na gyfathrebu rhwng yr heddlu, timau achub mynydd, gwylwyr y glannau a’r cyhoedd, felly mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen.

"Mae’n sefyllfa anodd ond 'da ni yn gobeithio am y gorau."

Ychwanegodd ei bod yn anodd canfod pobl gyda chyn lleied o wybodaeth am ble yn union yr oedden nhw'n mynd.

"Pan mae ganddoch chi bryder am bedwar unigolyn fel hyn, a dim ardal benodol i ddechrau chwilio, mae’n cymryd amser," meddai.

"Mae wedi bod yn dipyn o her."

Pynciau cysylltiedig