'Breuddwyd' i fand o Gymru gefnogi Foo Fighters
- Cyhoeddwyd
Mae'r band Chroma o Rhondda Cynon Taf wedi dweud ei bod hi'n "freuddwyd" cael gwahoddiad i rannu llwyfan gyda Foo Fighters ar eu taith Brydeinig y flwyddyn nesaf.
Bydd y band byd enwog o America yn perfformio mewn sawl dinas yn y DU yn 2024, gan gynnwys yng Nghaerdydd, fel rhan o daith fyd-eang.
Fe fydd Chroma yn eu cefnogi pan fyddan nhw'n chwarae yng Nghae Criced Old Trafford, Manceinion ym mis Mehefin.
Wrth siarad â rhaglen y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd prif leisydd Chroma, Katie Hill ei bod yn credu i ddechrau mai jôc oedd y gwahoddiad.
Fe sylweddolodd wedyn fod yr e-bost a gafodd hi'n eu gwahodd i gymryd rhan yn un o ddifrif.
"Mae'n freuddwyd cael gwneud rhywbeth fel hyn," meddai.
"I ni gyd, mae'r Foo Fighters wedi ysbrydoli ni. Mae'n freuddwyd, ni'n dal yn buzzing."
Yn ôl Katie, dyw hi dal ddim yn sicr sut y cawson nhw'r gwahoddiad.
"Naeth y booker gysylltu gyda ni i gynnig y gig. Ni'n really, really lwcus," meddai.
Mae hi'n credu y bydd y gig yn codi proffil y band, sydd dan label Alcopops.
"Ni wedi bod yn gweithio'n galed dros y blynyddoedd diwetha' i roi albwm at ei gilydd," meddai.
"Yn y byd cerddoriaeth ti ddim yn cymryd dim byd for granted.
"Mae stwff fel hyn yn dod i ti a ti'n neud e... dwi just isie gwneud cerddoriaeth dda."
Er bod Chroma wedi chwarae yn rhai o wyliau cerddorol mawr gwledydd Prydain, fel Reading a Leeds, a Big Weekend Radio 1, mae canu yn y Gymraeg hefyd yn bwysig iddyn nhw.
"Fyddan ni'n sicr yn canu yn Gymraeg yn Old Trafford, ac mae'n dda gallu gwneud hynna," meddai Katie.