Haf Thomas: edrych nôl ar gasglu £60,000 at achosion da
- Cyhoeddwyd
Ar ôl casglu bron i £60,000 i elusennau mae Haf Thomas yn wyneb cyfarwydd i nifer, ond nawr bydd mwy yn dod i wybod am ei haelioni a'i bywyd diolch i'w hunangofiant newydd.
Ac mae ei holl lwyddiannau hyd yn oed yn fwy o gamp o ystyried y darlun negyddol iawn am ei dyfodol gafodd ei rhieni pan anwyd hi gyda syndrom Down.
Roedd hynny yn 1971, ac Irfon ac Ann Thomas wedi cael gwybod gan arbenigwr meddygol y gallai eu plentyn cyntaf fod yn ei chlytiau tan hyd at wyth oed, ac yn gorfod cael help i fwydo tan yn 10.
Ond ddigwyddodd hynny ddim ac mae 189 o dudalennau ei hunangofiant yn dweud stori wahanol iawn.
Mae wedi gweithio i'r cyngor sir am bron i dri degawd, cael ei derbyn i'r Orsedd, canu mewn côr a chasglu degau o filoedd i achosion da - gan nofio milltir ar un achlysur. Mae nawr wedi sgwennu hunangofiant sy'n edrych yn ôl dros y cyfan - felly beth sy'n sefyll allan?
"Mae'n anodd gwybod be' i ddweud," meddai Haf. "Ond dwi mor falch mod i wedi gallu gwneud y llyfr."
Mae syndrom Down yn gallu arafu'r broses ddatblygu - ond mae'n gallu arwain at ystod eang o allu hefyd.
Ar ddechrau'r 1970au roedd agweddau a dealltwriaeth am y cyflwr yn wahanol i'r hyn ydyn nhw rŵan.
Ond fel sy'n cael ei egluro yn O Na Fyddai'n Haf o Hyd, buan daeth yn amlwg i rieni Haf bod eu baban yn datblygu'n dda - yn groes i ragolygon yr arbenigwr.
"Doedd 'na neb wrth law i roi cyngor ar y pryd," meddai Ann yn y llyfr. "Ond ymhen ryw flwyddyn, dyma benderfynu - reit, ma' hyn 'di digwydd; mae'n rhaid i ni 'neud be' 'dan ni'n feddwl sydd ora, dilyn ein lein ein hunain. Ac wedyn symud ymlaen o fanno."
Roedd Ann wedi cymhwyso fel athrawes gynradd a babanod, ac felly'n dysgu Haf sut i ysgrifennu a darllen oedd yn golygu bod ganddi iaith a sgwrs dda o oedran ifanc.
O'u cartref yn Llanrug, ger Caernarfon, mae Irfon yn hel atgofion am ddigwyddiad sy'n berthnasol iawn o ystyried y llyfr newydd.
Meddai wrth Cymru Fyw: "Mae gen i gof o ddod nôl o'r gwaith pan oedd Haf tua dwy neu dair oed a doedd Ann ddim yn gweithio ar y pryd, ac wedi dechrau cael Haf i ddarllen a sgwennu a hithau wedi dechrau rhoi llythrennau efo'i gilydd.
"A dwi'n cofio dod nôl o 'ngwaith a pwy fyddai yn y drws efo papur bach a phensil oedd Haf - cystal â dweud 'dyma be' dwi wedi bod yn gwneud heddiw'."
Byth ers hynny mae Haf wedi mwynhau ysgrifennu.
Aeth i Ysgol Gynradd Bontnewydd am flynyddoedd cyn symud i uned arbennig Ysgol Gynradd Maesincla ac ymlaen fel disgybl hŷn i Ysgol Pendalar, Caernarfon.
Ar ôl gwneud cyrsiau teipio a gwaith swyddfa mewn coleg fe gafodd gymorth gan gwmni elusennol Agoriad i gael swyddi - a gweithiodd i Gyngor Gwynedd am bron i 30 mlynedd tan y llynedd.
Ers blynyddoedd bu'n cadw dyddiaduron, cyn cael y syniad o ysgrifennu hunangofiant.
"Dwi'n cofio un Eisteddfod o'n i'n cerdded o gwmpas y Maes a dyma lais bach yn fy meddwl yn deud 'fasa'n braf gallu sgwennu llyfr'," meddai Haf. "A dyma fi'n deud 'wel basa'."
Felly aeth ati i ysgrifennu'r drafft cynta' gyda phapur a phensil. Ar ôl cyfnod fe soniodd wrth ei chwaer Ffion - ond ei gadw'n dawel er mwyn rhoi 'syrpreis' i'w rhieni.
Ar ôl gadael iddyn nhw wybod fe aeth ati i weld sut oedd troi'r drafft yn llyfr, a gyda chymorth y wasg ac Ifor ap Glyn, fel golygydd, yn holi pobl fu'n bwysig ym mywyd Haf rhoddwyd y cyfan at ei gilydd.
"Gan fod cymaint o'r gwaith wedi ei wneud efo'r dyddiaduron roedd yn bosib mynd yn ôl at rheiny ac yn hawdd gwneud siŵr bod y ffeithiau yn gywir," meddai Irfon.
Mae'r llyfr yn sôn am uchafbwyntiau ei bywyd fel cael ei dewis yn Gymraes y Flwyddyn gan raglen radio Hywel Gwynfryn, cyfarfod ei harwyr cerddorol Westlife, Mega a Bryn Terfel, ac wrth gwrs y casglu arian.
Bu'n casglu arian mewn nifer o ffyrdd gwahanol dros y blynyddoedd - o drefnu cyngherddau Nadolig yn y cyngor, gwneud a gwerthu cardiau cyfarch, casglu stampiau a chasglu darnau pum ceiniog.
Yr apêl fwyaf oedd un am ddwy flynedd pan gasglodd £22,000 i'r Ambiwlans Awyr.
"Mae hi wrth ei bodd yn rhoi," meddai Irfon, "hyd yn oed os ydi o'n geiniogau."
Tydi Haf ddim yn siŵr beth mae hi fwyaf balch yn ei gylch o edrych yn ôl - ond roedd y nifer o bobl ddaeth i lansiad ei llyfr ym Mhenisarwaun yn dangos faint o feddwl sydd ohoni yn y gymuned.
Meddai: "Roedd lot oedd efo fi yn y gwaith yno, a Chôr Law yn Llaw, Annette Bryn Parri, ffrindiau a phobl dwi'n adnabod ac o'n i'n falch bod nhw i gyd yno.
"Roedd o'n anhygoel a bod yn onest."
Mae wedi bod yn gyfnod o edrych yn ôl i'w theulu hefyd.
"Dwi'n cofio nôl a doedda ni ond yn ein hugeiniau canol pan ddaeth Haf i'r byd a dim ond wedi priodi ers blwyddyn a heddiw mi rydan ni mor falch efo sut mae Haf wedi troi allan ac yn lwcus iawn," meddai Irfon.
Ac mae un atgof ganddo - o glywed cyfweliad radio am ei ferch - sy'n crisialu ei deimladau:
"Dwi'n dal i gofio be' ddywedodd y person yma - 'mae doniau Haf yn llawer mwy na'i hanabledd hi'. Dwi'n cofio hynny'n iawn ac mae wedi troi allan yn gywir."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024