'Braint' cael bod yn Gavin & Stacey - fel dau gymeriad gwahanol

Smithy, Gavin, Stacey a Nessa
Disgrifiad o’r llun,

Mae pawb yn gyfarwydd â Smithy, Gavin, Stacey a Nessa, ond beth am rai o'r cymeriadau eraill a wnaeth argraff?

  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r gynulleidfa aros yn eiddgar am bennod olaf Gavin and Stacey dros y Nadolig, mae'r newyddiadurwr Steffan Powell wedi bod yn holi'r actorion wnaeth bortreadu rhai o'r cymeriadau llai amlwg yn y gyfres eiconig.

Sut brofiad yw cael actio yn un o'r cyfresi comedi mwyaf poblogaidd erioed?

Dyna'r cwestiwn rwy' wedi bod yn ei holi wrth gyfarfod ag actorion ar gyfer y rhaglen The Gavin and Stacey Experience.

Ar hyd y blynyddoedd ry'n ni wedi clywed yn gyson gan sawl un o'r actorion sydd â phrif ran yn y gyfres lwyddiannus.

Ond beth am brofiadau'r rhai o'r actorion sydd efallai heb fod â rhan flaenllaw, ond maen nhw'n portreadu cymeriadau mewn rhai o olygfeydd mwyaf cofiadwy y gyfres?

Gwynfor Roberts - Dic Powell

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwynfor Roberts wedi hen arfer cael ei adnabod yn Y Barri

Mae 'na gyfeiriadau lu at Dic Powell drwy gydol y gyfres ac yn un o'i olygfeydd mwyaf cofiadwy mae'n gwerthu cig wedi'i ddwyn ar lonydd cefn Y Barri.

Fel mae'n digwydd, yn y dref honno mae cartref yr actor Gwynfor Roberts ers dros 40 mlynedd, ac mae'n dyst i ddylanwad y gyfres yno.

Wrth i ni gyfarfod ar y Promenâd, fe wnaeth sawl aelod o'r cyhoedd ei adnabod, ac mae hynny yn brofiad digon cyfarwydd iddo erbyn hyn.

"Mae'n rhyfedd achos dwi wedi heneiddio dwi'n siwr! Ond ma pobl yn ffyddlon i'r rhaglen.

Ffynhonnell y llun, Baby Cow Productions
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa enwog lle mae Dic yn gwerthu cig ar hyd strydoedd Y Barri

"Os ydan nhw'n digwydd gweld fi lawr fan hyn pan fyddai hefo'r wyrion neu yn cerdded y ci, "Oh Dic! Are you Dic?"

"Yn wreiddiol, m'ond jobyn arall oedd o. Nes i ddarllen y script wrth gwrs a nes i ddweud 'O ma hwn yn ddiddorol, gobeithio neith o'n dda', ond 'sa neb yn meddwl pa mor dda, pa mor boblogaidd mae'r rhaglen wedi bod dros y blynyddoedd."

Catrin-Mai Huw - Natalie Lewis

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Natalie Lewis ei chwarae gan Catrin-Mai Huw

Natalie Lewis, sy'n cael ei chwarae gan Catrin-Mai Huw, yw un o elynion pennaf Stacey, a hynny wedi i Nessa ymladd gyda'i thad a'i brawd.

Mewn golygfa ddirdynnol, wrth i Gavin a Stacey geisio prynu prawf beichiogrwydd, mae'r ddwy yn syllu ar ei gilydd mewn distawrwydd annifyr.

"Hwn o'dd fy swydd actio cyntaf fi. 'Nes i raddio dechrau mis Gorffennaf, deuddydd wedyn o'n i'n ffilmio hwn. Felly odd bob dim yn hollol newydd."

"O ystyried pa mor fach ydy'r rhan dwi yn ffeindio fe'n ddoniol, ond nai ddim cwyno byth am gael fy adnabod am ran mewn cyfres mor boblogaidd, mor Gymreig hefyd."

Ffynhonnell y llun, Baby Cow Productions
Disgrifiad o’r llun,

Rhan Natalie Lewis (dde) oedd swydd gyntaf Catrin-Mai Huw fel actores

Erbyn hyn mae Catrin-Mai yn athrawes ddrama yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd.

"Bob hyn a hyn, mae 'na ryw don newydd o ddisgyblion sydd ella wedi dod ar draws yr olygfa, y rhan fwyaf ohonyn nhw heb cael eu geni pan nathon ni ffilmio fe, so mae'n 'neud i fi deimlo hyd yn oed yn hŷn!"

"Dwi wedi cael ambell i ddisgybl yn dangos golygfeydd neu memes neu beth bynnag o'r olygfa ar TikTok hefyd, so ma hwna wedi bod yn brofiad."

"Hyd yn oed os ma nhw'n casáu drama, ma' lot o nhw'n joio dweud bod yr athro drama arfer bod ar Gavin and Stacey."

William Thomas - Father Chris

Disgrifiad o’r llun,

William Thomas, neu Father Chris yn y gyfres Gavin and Stacey

Yr actor William Thomas sy'n portreadu'r cymeriad Father Chris, ac mae'n ymddangos mewn rhai o olygfeydd pwysicaf y gyfres, gan gynnwys bedydd Neil the Baby, a phriodas Nessa â Dave Coaches.

Ond mae'r olygfa am frechdanau wedi dod yn un o ffefrynnau ffyddloniaid y gyfres.

"O'n nhw ar un adeg yn stopio fi a gofyn 'What's your favourite sandwich?'"

Ffynhonnell y llun, Baby Cow Productions
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa enwog am hoff frechdanau sydd wedi aros yn y cof i lawer

Cafodd yr olygfa ei ffilmio yn Eglwys Sant Cattwg yn Llanfaes ym Mro Morgannwg.

Yno, mae llyfr ymwelwyr yr eglwys yn llawn cofnodion o hoff frechdanau'r ffyddloniaid sydd wedi dod ar bererindod i'r safle i ail-fyw yr olygfa.

Mae William yn cofio'r diwrnod yn glir, yn enwedig y pwysau o orfod perfformio o flaen yr holl gast.

"O'dd just sefyll lan f'yna yn y pulpud, just yn dechrau siarad ac edrych mas a gweld...

"O nefoedd! Y talent mawr yn eistedd fan hyn, Rob a James a Ruth. O'n nhw i gyd yn eistedd fan hyn. O jawch!

"Ma' rhaid i chi neud y gorau o beth bynnag s'da chi. Na'r cof pennaf sydd 'da fi ar y dechrau.

"Unwaith es i mewn iddo fe, a dechreuodd pethau clician, odd e'n fine."

Gillian Elisa - Welsh Nationalist a Lingerie Lady

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actores Gillian Elisa wedi chwarae rhan dau gymeriad yn y gyfres

Yn gynharach eleni, fe ddaeth torfeydd ynghyd i'r Barri i wylio'r cast yn ffilmio'r bennod olaf, a hynny yn brawf o boblogrwydd y gyfres.

Mae pobl yn ysu i gael fod yn rhan o fyd Gavin and Stacey. Felly dychmygwch cael y cyfle i chwarae nid un, ond dau gymeriad yn y rhaglen.

Dyna ddigwyddodd i Gillian Elisa.

"Ges i glyweliad ar gyfer mam Stacey, ac o'n i lan yn erbyn Melanie Walters a ges i ddim y rhan. O'n i tipyn bach yn gutted, ond ddim yn rhy ddrwg, ond o'n i'n meddwl do'dd e ddim i fod.

"Ond cael y fraint wedyn o fod ynddo fe yn 'neud rhannau bach cameo yn grêt, achos does dim rhannau bach, just actorion bach."

Ffynhonnell y llun, Baby Cow Productions
Disgrifiad o’r llun,

'Welsh Nationalist' oedd un o rannau Gillian Elisa

"Ges i gynnig y fenyw gyda'r lingerie a joio a chael lot o sbort. Pan da'th hi mas o'r lle newid, o'n i ishe chwerthin.

"Ges i'r alwad ar gyfer bod yn 'Welsh Nationalist'.  O'dd lot wedi gweld hwnna. O'dd golwg y diawl arna i."

Mae Gillian a Ruth Jones yn ffrindiau mawr ac wedi ymddangos gyda'i gilydd yn bartneriaid ar raglen Iaith ar Daith S4C

"Mae 'di 'neud siwd gymaint o bethau da.

"Mae'n gwybod pryd i stopio hefyd. Ma' pobl moen iddi hi neud mwy, ac mae 'di dweud 'Na, dim mwy'.

"Ma' hwna'n benderfyniad cryf, ac mae'n berson cryf, ma personoliaeth unigryw da hi. Rwy wrth fy modd yn ei chwmni hi."

Bydd pennod olaf Gavin and Stacey yn cael ei ddarlledu ar Ddydd Nadolig ar BBC One, ac mae'r rhaglen arbennig The Gavin and Stacey Experience i'w gweld nawr ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig