Pryder am effaith parc dŵr ar fywyd gwyllt parc gwledig

Bydd Aqua Park yn profi'r parc dŵr ym Mharc Gwledig Cosmeston o 5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sy'n rhedeg parc dŵr wedi mynnu na fydd symud o Fae Caerdydd i barc gwledig ym Mro Morgannwg yn cael effaith ar fywyd gwyllt yno.
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda chwmni Aqua Park i brofi'r parc dŵr ym Mharc Gwledig Cosmeston o 5 Gorffennaf.
Ond mae pobl leol yn poeni am yr effaith ar anifeiliaid yn y parc a safon y dŵr.
I'r rhai sydd wedi ymweld â Bae Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf, fe fyddai gweld parc dŵr dros dro ar un ochr y bae ger y ganolfan hwylio yn olygfa gyfarwydd.
Mae'r parc, sydd wedi bod yno dros y pum mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys cwrs antur a chyfle i deuluoedd fynd ar y dŵr, dringo'r cwrs a defnyddio'r llithrennau.
Pam symud o Fae Caerdydd?
Ond yn gynharach eleni fe wnaeth safon dŵr gwael arwain at berchnogion yr atyniad i ailfeddwl ai'r bae oedd y lle gorau i gadw'r parc.
Ar y pryd fe ddywedon nhw nad oedden nhw'n gallu parhau i weithredu o fewn y bae, ac felly eu wedi bod yn chwilio am le arall i osod yr atyniad.
Fe ddywedodd Awdurdod Harbwr Caerdydd bod safon y dŵr yn y bae yn gyson, ond bod dŵr glaw cynyddol a rhagor o ddŵr yn ein hafonydd yn golygu bod sawl prawf wedi methu.
Mae'r parc dŵr felly yn symud i Barc Gwledig Cosmeston, ger Penarth ym Mro Morgannwg.
Ond mae pobl leol yn poeni am safon y dŵr a'r effaith ar fywyd gwyllt.

"Ry'n ni moyn parc dŵr - ond mewn lleoliad gwahanol," meddai Saar Williams
Yn ôl Saar Williams o'r Barri, sy'n ymweld â'r parc gwledig yn aml, dyw'r "holl gynllun heb ei ystyried yn llawn".
"Ry'n ni moyn parc dŵr - ond mewn lleoliad gwahanol," meddai..
"Mae'n teimlo fel bod Cosmeston yn gronfa ddŵr naturiol gydag anifeiliaid gwahanol yn byw yma - gan gynnwys rhai ar restrau rhywogaethau prin.
"Y broblem fwya' i fywyd gwyllt yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yw colli cynefinoedd - ac fe fyddai parc dŵr yn tarfu ar fywydau'r creaduriaid hynny sy'n byw yn ac o gwmpas y llynnoedd."

"Byddai difrodi'r safle ddim yn gynaliadwy i ni fel cwmni," meddai Lucy Mott o gwmni Aqua Park
Ond yn ôl Aqua Park Group, perchnogion y parc dŵr, fydd 'na ddim effaith ar anifeiliaid y parc.
"Ry'n ni wedi gweithio gyda chwmni o ecolegwyr ym Mhenarth, ac mewn adroddiad annibynnol maen nhw'n dweud bod modd i ni redeg y parc dŵr yn Cosmeston heb gael unrhyw effaith ar fywyd gwyllt," medd Lucy Mott o'r cwmni.
"Ma' hynny oherwydd ein bod ni'n mynd i fod yn gweithredu ar y llyn dwyreiniol, sydd eisoes yn ddiogel ar gyfer gweithgareddau hamdden.
"Byddai difrodi'r safle ddim yn gynaliadwy i ni fel cwmni, a'r peth pwysig i ni yw diogelwch ymwelwyr a chynaladwyedd."

"Ry'n ni wedi dweud o'r dechrau y bydden ni yn dilyn y rheolau cywir," meddai arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett
Fe ddywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, Lis Burnett, wrth BBC Cymru: "Ry'n ni wedi dweud o'r dechrau y bydden ni yn dilyn y rheolau cywir - yr holl ganllawiau - ac os na fyddai pethau'n gweithio wedyn na fyddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.
"Ry'n ni wedi cael caniatâd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae safon y dŵr yn cael eu profi ddwywaith yr wythnos, ac ma' gennym ni nawr gyfnod o wyth wythnos i weld os yw'r cynllun a'r atyniad yn gweithio."