Gweithiwr iechyd yn gwadu gweld ward brysur fel 'cyfle' cam-drin

Ieuan Crump yn gadael Llys Y Goron Caerdydd ddydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Crump, sy'n gwadu naw o gyhuddiadau, yn gadael y llys wedi gwrandawiad blaenorol

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr iechyd cynorthwyol sydd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes wedi gwadu defnyddio ward brysur fel “cyfle” i’w cam-drin heb i unrhyw un sylwi.

Mae Ieuan Crump, 26 o Gilfach, Sir Caerffili, yn wynebu naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.

Fe wnaeth dau o gleifion yn Ysbyty’r Faenor, Cwmbrân gyhuddo Ieuan Crump o’u cyffwrdd yn amhriodol wrth iddo wneud archwiliadau meddygol ym mis Awst 2021.

Roedd Mr Crump yn astudio am radd nyrsio adeg yr ymosodiadau honedig.

Mae’n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Wrth groesholi, dywedodd yr erlynydd Matthew Roberts fod gan Mr Crump “obsesiwn gyda chynnal sganiau ar bledren y ddwy ddynes er nad oedd eu hangen”.

Dywedodd wrth y llys mai dyma sut yr aeth ati i’w cham-drin.

Ond gwrthododd Mr Crump yr honiadau hynny, gan ddweud ei fod ond wedi cynnal archwiliadau yr oedd nyrs arall wedi gofyn amdanynt.

Clywodd y llys fod y ddwy ddynes ond ar yr un uned am tua phum awr a hanner ar 13 Awst, ac mewn ystafelloedd gwahanol.

“Fe wnaeth y ddwy ddynes gwynion annibynnol ar wahân amdanoch chi,” meddai Mr Roberts. “Ydych chi’n dweud eu bod nhw wedi cydweithio i’ch fframio chi?”

Atebodd Mr Crump: “Dwi ddim yn gwybod os wnaethon nhw.”

Gwadodd ei fod wedi dweud wrth un claf ei fod eisiau aros yn ei hystafell tra bod nyrs arall yn gosod cathetr ynddi, gan ei fod yn nyrs dan hyfforddiant.

Fe wnaeth hefyd wadu cynnal archwiliadau mewnol, a cheisio gosod cathetr wedi i nyrs arall adael yr ystafell.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y troseddau honedig wrth i Ieuan Crump weithio yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Roedd gan Mr Crump bythefnos cyn iddo raddio mewn Nyrsio Oedolion, pan gafodd ei arestio.

Yn gynharach, dywedodd wrth y llys fod ei brifysgol wedi dal ei radd yn ôl nes i’r achos llys yn ei erbyn dod i ben.

Nid yw’n gallu gweithio fel cynorthwyydd iechyd felly, na pharhau gyda’i waith gwirfoddol i Ambiwlans Sant Ioan.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Crump fod yr uned yn Ysbyty’r Faenor fel “belt symudol”, gyda phrinder staff yno.

Ychwanegodd nad oedd yn gwybod fod gan y ddwy ddynes broblemau iechyd meddwl, a bod un ohonyn nhw ddim eisiau bod mewn ystafell ar ei phen ei hun gyda dyn.

Wrth gyfeirio at honiadau’r ddwy ddynes, dywedodd Mr Roberts: “Un ai maen nhw’n dweud y gwir, neu maen nhw’n dweud celwydd.

“Dydy hi ddim yn wir fod hyn yn rhywbeth allai fod wedi digwydd ar ddamwain.”

Dywedodd Mr Crump: “Rwy’n cytuno. Wnaeth e ddim digwydd.”

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddau glaf yn Ysbyty'r Faenor yn Awst 2021

Fe glywodd y llys fod un o’r cleifion wedi honni bod Mr Crump wedi gofyn iddi am ei bywyd carwriaethol, gan gynnwys gyda faint o bobl oedd hi wedi cael rhyw.

Roedd y claf yn ddeurywiol. Dywedodd wrth yr heddlu fod Mr Crump wedi gofyn iddi ai dyn neu ddynes oedd y person diwethaf iddi gysgu gyda.

Gwadodd Mr Crump fod y sgwrs honno wedi digwydd, gan ddweud: “Cyn belled a dwi yn y cwestiwn mae hi wedi dyfeisio hynny. Mae bywyd personol claf yn amherthnasol.”

Dywedodd Mr Roberts: “Roedd hon yn berson yr oedd gennych chi ddiddordeb rhywiol ynddi?”

“Na,” atebodd Mr Crump.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn Llys y Goron Caerdydd yn parhau

Clywodd y llys fod y claf wedi dod i’r ysbyty â chyflwr difrifol ar y coluddyn, a’i bod hi mewn poen.

Dywedodd Mr Roberts fod y claf wedi cynhyrfu cymaint ei bod hi eisiau gadael cyn cael ei gweld gan feddyg, a’i bod wedi rhedeg at ei mam.

Ychwanegodd fod y claf wedi dweud wrth yr heddlu ei bod hi’n cofio Ieuan Crump yn ei chyffwrdd hi mewn mannau preifat heb wisgo menig.

“Roedd eich dwylo’n ysgwyd. Gofynnodd hi oeddech chi’n iawn. Fe ddwedoch chi eich bod chi wedi cael gormod o gaffein,” meddai Mr Roberts. “Wnaethoch chi erioed ddweud hynny?”

“Na,” atebodd Mr Crump.

Creu arwyddion 'peidiwch â dod i mewn'

Clywodd y llys fod Mr Crump wedi creu arwyddion ‘peidiwch â dod i mewn’ ar gyfer yr uned, ar ei ddiwrnod i ffwrdd, ar ôl cael y syniad o wardiau eraill yn yr ysbyty.

Mae gan ystafelloedd yr uned fleindiau metel y mae modd eu cau er mwyn rhoi preifatrwydd i gleifion yn ystod archwiliadau sensitif.

“Doedd dim angen creu’r arwyddion,” meddai Mr Roberts. “Wnaeth neb ofyn i chi wneud yr arwyddion.

“Oedd hyn er mwyn rhoi urddas i’r claf, neu sicrhau bod modd i chi gam-drin heb i unrhyw un eich dal?

“Fe wnaethoch chi gymryd mantais lwyr, dyna’r gwir ynte?”

Atebodd Mr Crump: “Na.”

Mae’r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig