Y tenor byd-enwog Stuart Burrows wedi marw yn 92 oed

Cafodd Stuart Burrows ei eni yng Nghilfynydd ar 7 Chwefror 1933
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerddor operatig Stuart Burrows OBE wedi marw yn 92 oed, yn dilyn salwch byr.
Bu'n canu yn nhai opera mwya'r byd, ac roedd yn cael ei ystyried yn un o denoriaid telynegol a dehonglwr gorau rhannau Mozart.
Perfformiodd am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru ym 1963 ac aeth ymlaen i ganu yn La Scala byd-enwog Milan.
Cafodd ei eni yng Nghilfynydd ger Pontypridd ar 7 Chwefror 1933 a dechreuodd ganu yn ddeg oed yng nghôr y capel.

Cafodd Burrows Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth
Pan dorrodd ei lais aeth ati i berfformio gyda chorau a cherddorfeydd amatur ond dewisodd yrfa fel athro.
Bu'n cystadlu mewn amryw o eisteddfodau ers yn ifanc.
Ac yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1959 enillodd Wobr Goffa David Ellis a hynny ar ei ymgais gyntaf.
Gweithiodd mewn ysgol gynradd ym Margoed cyn pasio clyweliad yn 1963 ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru a throdd yn broffesiynol.

Chwaraeodd Burrows ran Dug Mantua yn opera 'Rigoletto' yn 1968
Yn ystod ei yrfa fe ganodd yn y tai opera gorau. Perfformiodd gydag Opera San Francisco cyn cychwyn yn Covent Garden.
Teithiodd y Dwyrain Pell gyda'r Opera Cenedlaethol yn 1979 a chanodd gyda'r cwmni yn yr Ŵyl Olympaidd yn Los Angeles yn 1984.
Yn 1981 derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, Caerdydd a Chymrodoriaeth gan Brifysgol y Drindod, Caerfyrddin yn 1989 ble y dechreuodd Gystadleuaeth Canu Rhyngwladol.

Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Gwnaeth lawer i boblogeiddio canu operatig gyda'i gyfresi teledu 'Stuart Burrows Sings'.
Roedd y rhaglenni yn cynnwys cymysgedd o opera, operatta a cherddoriaeth boblogaidd a chawsant eu dangos ar draws y byd.
Roedd hefyd yn llywydd ar amrywiaeth o sefydliadau elusennol ar draws de Cymru gan roi llawer o'i amser i godi arian ar eu cyfer.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei fab Mark: "Ni all geiriau fynegi maint y golled - byddaf yn methu y Cymro gwirioneddol hwn (yn ei eiriau ei hun) yn fawr - un a oedd yn hoff o ganu rywfaint!"