Cau'r ffenestr drosglwyddo: I ble aeth y Cymry?

Tîm pêl-droed CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe gaeodd y ffenestr drosglwyddo nos Lun gyda chlybiau ar hyd cynghreiriau pêl-droed Lloegr yn rhuthro i brynu a gwerthu chwaraewyr tan yr eiliadau olaf.

Mae hi wedi bod yn haf prysur i chwaraewyr Cymru, gyda sawl aelod o dîm Craig Bellamy yn symud clybiau.

Bydd y rheolwr Cymru yn falch o weld fod cymaint o chwaraewyr wedi symud yn ystod yr wythnosau diwethaf - gyda'r gobaith i rai o gael rhagor o funudau ar y cae cyn gweddill gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Dyma'r chwaraewyr Cymru sydd wedi symud clybiau dros yr haf.

Y chwaraewyr Cymru sydd wedi symud dros yr haf

  • Aaron Ramsey - ymuno â Pumas UNAM ar ôl i'w gytundeb gyda Chaerdydd ddod i ben

  • Nathan Broadhead - symud o Ipswich Town i Wrecsam

  • Kieffer Moore - symud o Sheffield United i Wrecsam

  • Danny Ward - ymuno â Wrecsam ar ôl i'w gytundeb gyda Chaerlŷr ddod i ben

  • Chris Mepham - symud o Bournemouth i West Bromwich Albion

  • Sorba Thomas - symud o Huddersfield Town i Stoke City

  • Ollie Cooper - ymuno â Wigan Athletic, ar fenthyg o Abertawe

  • Lewis Koumas - ymuno â Birmingham City, ar fenthyg o Lerpwl

  • Tom King - symud o Wolverhampton Wanderers i Everton

  • Owen Beck - ymuno â Derby County, ar fenthyg o Lerpwl

  • Rhys Norrington-Davies - ymuno â Queens Park Rangers, ar fenthyg o Sheffield United

  • Luke Harris - ymuno ag Oxford United, ar fenthyg o Fulham

  • Matt Smith - ymuno â Chasnewydd ar ôl i'w gytundeb gyda St Johnstone ddod i ben

  • Jordan James - ymuno â Leicester City, ar fenthyg o Rennes

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.