Ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth 'tad a brawd cariadus'

Craig RFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Craig Richardson, 37, ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 30 oed wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth "tad a brawd cariadus" yn Wrecsam.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar ystad Gwynant, Acrefair ychydig cyn 12:30 ddydd Sul oherwydd pryderon am ddiogelwch dyn oedd yn byw yno.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Craig Richardson, 37 oed, yn ei gartref.

Mae Thomas Iveson, 30 oed o ardal Plas Madoc, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa wedi iddo fod gerbron Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Iau.

Stad Gwynant, AcrefairFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ystad Gwynant, Acrefair ddydd Sul

Mae disgwyl i Mr Iveson fynd gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener.

Mae ail ddyn, sy'n 32 oed ac yn dod o Wrecsam, gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn parhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r crwner wedi cael gwybod, ac mae teulu Mr Richardson yn derbyn cymorth gan swyddogion arbennig.

'Bydd colled ar ei ôl am byth'

Dywedodd teulu Mr Richardson mewn datganiad ei fod yn berson "llawn hwyl" ac y bydd "colled ar ei ôl am byth".

"Roedd Craig yn fab, tad, brawd, ewythr, nai, cefnder, partner a ffrind cariadus i lawer ac yr oeddem ni i gyd yn ei garu â'n holl galon," meddent.

"Bydd pawb a oedd yn adnabod Craig yn dweud bod ganddo'r galon fwyaf ac yn berson hwyliog.

"Bydd colled ar ei ôl am byth a bydd yn ein calonnau yn barhaus."

Pynciau cysylltiedig