Cerddwr wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori tra'n cerdded yn Sir y Fflint brynhawn Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, eu galw toc wedi 13:00 i Ffordd Llaneurgain ym mhentref Mynydd-y-Fflint, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Melanie Hughes o Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn parhau i feddwl am deulu’r dyn ar yr amser hynod anodd hwn.
“Rydym yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd Ffordd Llaneurgain tua adeg y gwrthdrawiad neu unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd neu deledu cylch cyfyng i gysylltu â ni.”