Brynsiencyn, Tregaron a chartref Donald Trump
- Cyhoeddwyd
Dros yr oriau diwethaf mae Donald Trump wedi'i gadarnhau yn Arlywydd nesaf America, ac mi fydd yn dychwelyd i'r Tŷ Gwyn ym mis Ionawr 2025.
Fe wnaeth annerch torf enfawr yn West Palm Beach yn Florida a datgan oddi ar y llwyfan ei fod wedi ennill yr etholiad yn erbyn Kamala Harris.
Mae'r dalaith yn agos iawn at ei galon ac yno mae ei blasdy mawr sydd â chysylltiad Cymreig.
Roedd ei stad enwog Mar-a-Lago yn arfer bod yn gartref i ŵr oedd yn agos at arweinwyr eraill yr Unol Daleithiau ac yn fab i rieni oedd yn Gymry.
Ond tydi'r berthynas rhwng y teulu Davies a'r Arlywydd newydd ddim yn rhy wych gyda Donald Trump yn cael ei gyhuddo o fabwysiadu eu harfbais (coat of arms) heb ganiatâd a'i addasu ar gyfer ei ddibenion ei hun.
Joseph E Davies ydi'r cyswllt Cymreig, diplomydd rhyngwladol oedd yn ffrind personol i'r Arlywydd Franklin D Rooservelt a'r ail lysgennad i gynrychioli'r Unol Daleithiau yn yr hen Undeb Sofietaidd.
Cyn yr Ail Ryfel Byd, fe briododd Marjorie Merriweather Post, un o'r menywod cyfoethocaf yn yr UDA ar y pryd a pherchennog plasty Mar-a-Lago.
Rhodd i'r llywodraeth
Roedd hi wedi creu'r safle - yn cynnwys tŷ gyda 58 ystafell wely - yn Palm Beach yn yr 1920au a bu hi'n byw yno gyda Joseph E Davies am ddau ddegawd.
Fe adawodd hi'r cyfan yn ei hewyllys i lywodraeth yr Unol Daleithiau i'w ddefnyddio fel 'Tŷ Gwyn y Gaeaf'. Yn yr 1970au fe wnaeth y llywodraeth werthu Mar-a-Lago, sydd bellach yn cael ei gydnabod fel adeilad o bwysigrwydd hanesyddol, ac yn 1985 fe'i prynwyd gan Donald Trump.
Roedd gan rieni Joseph E Davies gefndir mwy cyffredin na'u mab, fel eglurodd aelod o'r teulu ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru yn 2020.
"Roedd Rahel o Fôn, neu Rachel Paynter Davies, yn dod yn wreiddiol o Frynsiencyn ar Ynys Môn," meddai Fabio Lewis, gafodd ei fagu ym Mhatagonia.
"Roedd yn fenyw dylanwadol iawn, roedd hi'n pregethu yn 20 oed yng Nghymru a gafodd hi wahoddiad i fynd draw i America i bregethu a fuodd hi'r ferch gynta' i gael ei ordeinio yn Wisconsin a fan yno cwrddodd hi ei gŵr Edward Davies o Dregaron.
"Galwyd eu cartref nhw yn Tregaron yn Wisconsin a fan yno gafodd Joseph wedyn ei eni."
Aeth Joseph E Davies yn ei flaen i fod yn llysgennad i'r UDA yn yr Undeb Sofietaidd, Gwlad Belg a Luxembourg. Roedd wedi gweithio'n agos gyda'r Arlywyddion Wilson, Truman a Franklin D Rooservelt.
Ffrae dros arfbais
Ond dydy perthynas ei ddisgynyddion gyda'r Arlywydd newydd ddim mor gynnes.
Fe gafodd Donald Trump ei gyhuddo ganddyn nhw o ddefnyddio arfbais Joseph E Davies fel un ei hun wedi iddo brynu Mar-a-Lago.
Roedd rhaid iddo greu un newydd ar gyfer ei eiddo yn yr Alban, ond oherwydd cyfreithiau gwahanol yn America mae Donald Trump wedi parhau i ddefnyddio'r un gwreiddiol - ond gydag addasiadau bychan.
Meddai Fabio: "Mae'n stori ryfeddol.
"Mae'n debyg gafodd Joseph Davies arfbais gan yr Ymerodraeth Brydeinig am ei waith fel llysgennad cyn yr Ail Ryfel Byd a blynyddoedd yn ddiweddarach pan brynodd Donald Trump y plas yma, gwelodd e, yn ôl bob sôn, yr arfbais ar y wal a newidiodd ychydig bach o eiriau o dan yr arfbais - geiriau oedd yn dweud integrity - neu uniondeb - am yr enw Trump.
"Mae o wedi mynd ati wedyn i ddefnyddio hwnnw i farchnata'r holl lefydd ac eiddo sydd gydag e dros y byd."
Roedd hen hen nain Fabio yn chwaer i fam Joseph E Davies ac wedi mudo i Batagonia yn ne America yn hytrach nag i ogledd America at Rahel o Fôn.
Roedd dwy ochr y teulu wedi colli cysylltiad tan tua 10 mlynedd yn ôl, ac yn ôl Fabio doedd cangen Rahel o'r teulu ddim wedi eu plesio gyda Donald Trump.
Meddai: "Roedd y teulu yn America yn gandryll i ddysgu bod yr arfbais wedi mynd i Trump ac roedd sawl aelod o'r teulu wedi stopio y gweddill mynd i'r llys achos fyddai'n amhosib ennill achos yn eu herbyn - byddai'r achos am flynyddoedd mawr yn y llys yn America a dim pwynt i wneud hynny."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2024