Apêl am adeilad newydd i chwaraewyr ifanc Clwb Golff Y Bala

Sesiwn wobrwyo adran ieuenctid Clwb Golff Y Bala
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Golff Y Bala yn ceisio codi £14,000 er mwyn gwella cyfleusterau ar gyfer pobl ifanc a chodi adeilad newydd.
Mae'r clwb yn apelio am gymorth y gymuned i godi'r arian sydd ei angen drwy wefan casglu arian.
Dywedodd Ysgrifennydd y Clwb, Alwyn Roberts: "Rydym wedi bod yn ymwybodol ers tro fod angen gwella'r ddarpariaeth ar gyfer ein haelodau iau.
"Mae'r hen weithdy pren a ddefnyddir gan y 40 o aelodau'r adran i gadw clybiau ac offer yn rhy fach ac mewn cyflwr gwael."

Mae'r hen weithdy pren sy'n cael ei ddefnyddio gan adran iau y clwb golff "yn rhy fach a mewn cyflwr gwael"
Cafodd to newydd a system paneli solar eu gosod ar brif adeilad y clwb y llynedd ac yn ôl Alwyn Roberts "mae'r gwaith angenrheidiol yma wedi bod yn ergyd sylweddol i gyllid wrth gefn y clwb".
Eglura eu bod felly wedi mynd ati "i sefydlu ymgyrch cyllido torfol yn y gobaith o fedru ennyn diddordeb a chefnogaeth ddigonol i ariannu'r cyfleusterau y mae'r adran iau yn eu haeddu".

O'r chwith i'r dde: Ysgrifennydd y Clwb, Alwyn Roberts, Cydlynydd yr adran ieuenctid, Steffan Prys Roberts a Rhys a Gwion sy'n aelodau iau o'r clwb
Os ydy'r Clwb yn llwyddo i godi 60% neu fwy o'r targed o £14,000 gyda chefnogaeth y gymuned, mae Chwaraeon Cymru yn cyfrannu'r 40% arall.
Y gobaith yw cael gwared â'r sied bresennol ac adeiladu ffrâm ddur newydd ar gyfer loceri, cyfleusterau newid ac i storio offer yr adran ieuenctid.

Y gobaith ydy sicrhau bod gan y clwb "ddyfodol llewyrchus trwy fuddsoddi yn ein hieuenctid" yn ôl Ysgrifennydd y Clwb, Alwyn Roberts
Mae Hari, 14 wedi bod yn aelod o'r clwb ers blynyddoedd.
Dywedodd: "Dwi'n cael gwersi bob nos Fawrth a wedyn dwi'n mynd allan i chwarae bob dydd Sul.
"Be 'da ni angen ydi sied newydd oherwydd ma' popeth sydd yna rŵan ar draws ei gilydd ac yn flêr.
"Os fysan ni'n cael sied newydd mi fysa popeth yn daclus ac yn drefnus."

Mae Gruff yn gobeithio y bydd cael sied newydd yn golygu "y bysa popeth yn daclus ac yn drefnus"
Mae Elen, 11 yn aelod o'r clwb ers blwyddyn ac yn dweud ei bod "yn mwynhau cael gwersi golff".
"Does dim llawer o le i ni gadw ein clybiau golff so fysa fo'n grêt i ni gael adeilad newydd."
Dywedodd Gruff sy'n 12 bod "llawer o gystadlaethau yn dod fyny a 'sa ni'n licio cael sied iawn ac wedyn ella 'sa mwy o ffrindie yn ymuno wedyn."

Dywedodd Elen, 11 y byddai cael adeilad newydd yn "grêt"
Aelod arall o'r clwb ers sawl blwyddyn ydy Rhys, 15.
"Dwi wrth fy modd yn chware gyda fy ffrindie ac aelodau.
"Hen weithdy 'da ni efo i gadw clybiau ac offer golff ond fysa fo'n lot gwell os fysan ni'n cael adeilad pwrpasol i gadw golf clubs a'r offer i'r dyfodol."

Cafodd y clwb gefnogaeth gan Barc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Gwynedd i osod paneli solar ar eu prif adeilad
Dywedodd yr ysgrifennydd Alwyn Roberts eu bod "yn hynod ddiolchgar" i Chwaraeon Cymru a phartneriaid lleol, ac yn "diolch ymlaen llaw i bawb am gefnogi a'n cynorthwyo i sicrhau fod gan Clwb Golff Y Bala ddyfodol llewyrchus trwy fuddsoddi yn ein hieuenctid".
"Mae pob cyfraniad, boed yn £5 neu fwy i gyd mynd i fod yn amhrisiadwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022