Tref glan môr 'ar agor' er bod rhan o brif ffordd ynghau am ddeufis
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau mewn tref glan môr yn Sir Benfro yn mynnu y byddan nhw'n parhau ar agor er gwaethaf cau ffordd am tua wyth wythnos yn y flwyddyn newydd.
Bydd gwaith hanfodol yn cael ei wneud i adnewyddu cwlfer sy'n croesi o dan yr A487 sy'n rhedeg trwy ganol Trefdraeth.
Bydd dargyfeiriadau lleol yn eu lle, dolen allanol ar gyfer ceir a faniau bach, ond bydd cerbydau nwyddau trwm yn wynebu llwybr dargyfeirio hirach, tua 35 milltir o hyd.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, ailosod llawn yw'r unig opsiwn gan nad oes modd atgyweirio'r strwythur presennol.
Bydd y gwaith, sy'n golygu ailosod system ddraenio, yn dechrau o 6 Ionawr tan o leiaf 28 Chwefror.
Mae'r cynghorydd sir lleol yn credu y bydd cau'r ffordd yn cael effaith negyddol ar yr economi leol.
"Mae traffig yn mynd a dod drwy'r amser tra bo' ni'n siarad nawr," meddai Huw Murphy.
"Ma' hwn yn ardal sy'n dibynnu ar dwristiaeth, mae e'n dibynnu ar ymwelwyr ac os fydd y ffordd ar gau am gyfnod o bron i ddau fis, mae e'n mynd i gael ergyd ar y gymuned a'r busnesau sy'n dibynnu ar ymwelwyr."
'Gwell yn y gaeaf na'r haf'
Bydd llwybr dargyfeirio lleol byr iawn mewn lle ar gyfer ceir a faniau bach llai na 3.5 tunnell, a hynny ar hyd y Stryd Uchaf y Bont/Stryd Uchaf y Gorllewin.
Mae hon yn ffordd trac sengl sy'n anaddas ar gyfer cerbydau mawr.
Bydd cerbydau nwyddau trwm yn dilyn llwybr dargyfeirio hirach, tua 35 milltir o hyd.
Mae Mark Cole, sy'n gweithio yng nghanol Trefdraeth yn rhybuddio y bydd yn rhaid i yrwyr fod yn ofalus.
"Bydd rhaid i bawb gymryd pwyll," meddai.
"Bydd e'n anodd i'r cwmnïau bysiau, wrth gwrs, gyda phawb fydd yn teithio o Aberteifi i Abergwaun ond fe fyddan nhw wedi penderfynu a gwneud plans ymlaen llaw i weithio o gwmpas yr wyth wythnos.
"Mae'n mynd i fod yn amser anodd amser fydd yr hewl ar gau ond mae'n rhaid gwneud y gwaith."
"Y broblem gyda Threfdraeth yw mae'n hen dref, mae gyda ni [Mynydd] Carningli un ochr a'r môr yr ochr arall, a hewlydd cul yn y canol.
"Mae e'n mynd i gael trafferthion yn y cyfnod mae e'n digwydd ond mae e yn well bod e'n digwydd yn y gaeaf nac yn yr haf."
Bydd y ffordd am gyfnod sy'n cynnwys wythnos hanner tymor ym mis Chwefror.
Mae Elin Phillips wedi gweithio yn siop anrhegion Angel House yn y dref ers bron i 18 mlynedd.
Mae hi hefyd yn poeni fydd pobl yn cadw draw oherwydd y gwaith ffordd.
"Mae e'n mynd i effeithio busnesau, yn amlwg, ond mae eisiau pobl i ddeall ein bod ni dal ar agor," meddai Ms Phillips.
"Dwi ar ddeall bod traffic lights yn mynd i fod ar y top, felly gallan nhw [ceir] ddod mewn ffordd 'na ond dim lories, tractors, ffermwyr, fe fydd hi'n galed arnyn nhw.
"Byddan nhw'n gorfod mynd rownd Crymych, Abergwaun i ddod lawr."
Dywedodd Llywodraeth Cymru, dolen allanol eu bod wedi cynnal ymgynghoriadau i benderfynu pa adeg o'r flwyddyn fyddai orau er mwyn lleihau'r effaith ar yr ardal, a bod cymorth uniongyrchol gan Busnes Cymru ar gael i fusnesau sy'n wynebu ansicrwydd oherwydd bod y ffordd ar gau.
Ond mae rhai busnesau yn y dref yn honni nad ydyn nhw wedi wedi cael cynnig iawndal.
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y gwaith yn sicrhau "gwytnwch hirdymor y ffordd a lliniaru yn erbyn effeithiau newid hinsawdd".
"Ailosod llawn oedd yr unig opsiwn gan nad oedd modd atgyweirio'r strwythur presennol… Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2024
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2024