Trigolion eisiau troi capel yn ganolfan dreftadaeth

Capel BethlehemFfynhonnell y llun, Canolfan Bethlehem
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr adeilad yn mynd i arwerthiant ddiwedd yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Dros y blynyddoedd mae sawl cymuned wedi dod at ei gilydd i brynu tafarn neu siop i’w droi yn ganolfan cymunedol.

Gobaith pobl leol yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, yw prynu Capel Bethlehem a’i droi yn ganolfan dreftadaeth a diwylliant i’r ardal.

Dros yr wythnos ddiwethaf mae’r ymgyrch wedi codi dros £50,000 trwy fenthycwyr preifat ac yn gobeithio codi mwy cyn i’r adeilad fynd i arwerthiant ymhen ychydig ddyddiau.

Yn ôl pobl leol mae’r adeilad yn “le perffaith” i nodi hanes yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Bethlehem
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw codi £100,000 erbyn diwedd yr wythnos

Mae'r adeilad o'r 19eg ganrif - sydd wedi ei restru gan Cadw - nawr ar werth, a bwriad cymuned Trefdraeth yw ei brynu a’i droi'n ganolfan dreftadaeth.

Pe bai'r ymgais i brynu’r adeilad yn llwyddiannus, bydd cyfle i bobl leol prynu cyfranddaliadau.

Roedd Jean Young, 80, yn aelod o Gapel Bethlehem am bron i 70 mlynedd.

“Rwy’n meddwl y byddai Bethlehem yn lle perffaith ar gyfer treftadaeth Tudraeth. Mae mor bwysig i ni gael lle ar gyfer ein hanes," meddai.

Jean oedd organydd olaf y capel.

“Fe wnes i chwarae’r organ yno am flynyddoedd. Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae.”

'Haeddu cartref parhaol i’w hanes'

Mae John Harries, 75, yn dod o Drefdraeth ac yn rhan o'r ymgyrch i achub y capel.

“Mae Trefdraeth yn haeddu cael cartref parhaol i’w hanes," meddai.

Mae’n bryderus am ddyfodol yr adeilad os nad yw’n mynd i ddwylo’r gymuned, ac mae'n credu y dylid gwerthu'r capel i bobl leol yn hytrach na'r person sy'n talu fwyaf mewn arwerthiant.

Mae’n disgrifio gwerthu’r adeilad fel “diwedd cymuned”.

“Rydym wedi ceisio prynu’r capel i’r gymuned fel bod treftadaeth a diwylliant Trefdraeth yn cael eu cadw’n barhaol.

"Mae’r gymuned frodorol yn ei haeddu, a bydd o ddiddordeb i ymwelwyr.”

Ychwanegodd: “Mae’n hanfodol bod yna le i bobl fynd i edrych ar y cysylltiadau sydd ganddyn nhw gyda’u teuluoedd.

"Mae gan Drefdraeth hanes morwrol enfawr a hanes amaethyddol.”

Ffynhonnell y llun, Canolfan Bethlehem
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw agor canolfan dreftadaeth a diwylliant yn yr adeilad

Mae ymgyrchwyr yn chwilio am unrhyw roddion munud olaf cyn i’r adeilad fynd i arwerthiant nos Wener yma.

Y gobaith yw codi £100,000 erbyn diwedd yr wythnos.

Mae elusen PLANED wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned ar y prosiect.

Mae’r elusen wedi cynorthwyo gyda sawl prosiect cymunedol i brynu adeiladau yn yr ardal.

'Da gweld'

Cris Tomos yw cynorthwyydd cyllid a chronfa ddata'r elusen.

Meddai: “Mae’n dda i weld criw o bobl yn Nhrefdraeth yn bwrw ati i gael yr hen gapel fel adnodd cymunedol.

“Mewn nifer o gymunedau yng ngorllewin Cymru mae capeli ac eglwysi yn cau ond mae angen edrych ar sut mae modd defnyddio’r adeiladau er bydd y gymuned.”

Mae Mr Tomos yn obeithiol bydd y gymuned yn cyrraedd y nod o godi £100,000.

“Ni’n aros i glywed nôl wrth unigolion a’u magwyd yn yr ardal sydd wedi mynd ymlaen yn eu gyrfaoedd llwyddiannus, a gobeithio clywed a fydd modd cael benthyciadau pontio - sef arian benthyg i brynu’r adeilad ac wedyn cynnig cyfranddaliadau i bobl leol.”

Pynciau cysylltiedig