Sut wnaeth cymuned glos a gwaith ditectif atal cynllun smyglo canabis

Robin Boswell, un o arweinwyr y gang
Disgrifiad o’r llun,

Robin Boswell, un o arweinwyr y gang

  • Cyhoeddwyd

"'Oedd e fel llofrudd heb gorff achos daethon ni ddim o hyd i'r cyffuriau felly gorffon ni brofi'r holl beth..."

Mewn ardal hardd a heddychlon o Sir Benfro yn 1983 roedd criw o smyglwyr wedi cychwyn ar gynllwyn i ddod â llwyth canabis gwerth £9 miliwn i'r wlad.

Hwn oedd un o'r cynlluniau smyglo cyffuriau mwyaf sy' wedi bod ym Mhrydain ac mae'n cael ei adnabod fel Operation Seal Bay, sef yr enw roddodd Heddlu Dyfed Powys ar yr ymdrech i ddal y gang.

Mae'r stori nawr wedi cael ei adrodd mewn podlediad newydd o'r enw Operation Seal Bay.

Un o'r rhai oedd yn allweddol yn yr ymdrech oedd y ditectif John Daniels o CID Aberteifi wnaeth ddilyn olion y troseddwyr o Drefdraeth i Lundain, Ynys Manaw a de Ffrainc.

Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw mae John yn rhannu sut wnaeth gwaith ditectif a natur y gymuned leol glos stopio'r smyglwyr.

Ffynhonnell y llun, Don Evans
Disgrifiad o’r llun,

Y caead yn arwain at y byncer ar draeth Cell Hywel

Byncer cudd

Mae'r stori yn cychwyn gyda ffermwr yn darganfod caead dan y cerrig ar draeth o'r enw Cell Hywel (Seal Bay) tu allan i Drefdraeth. Dan y caead oedd byncer cudd wedi ei adeiladu gyda waliau fibreglass oedd yn dal dŵr.

Meddai John wrth gofio yn ôl: "Roedd yr holl beth fel antur i ddweud y gwir – dechreuodd e fel rhywbeth dirgel.

"Y cynllun oedd dod â thri tunnell o ganabis mewn. Yn diwedd 1982 ffeindiodd dau berson yn cerdded ar y traeth yn Trefdraeth bwndel o ganabis oedd wedi ei olchi lan ar y traeth – roedd rhywbeth yn amlwg wedi mynd mas o'i le gyda treial mewnforio'r cyffur a 'na'r reswm ni'n credu bod nhw wedi adeiladu yr ogof fel lle i gadw'r canabis nes bod yr amser yn iawn i symud e.

"Ac wedyn symud e i Drewyddel (Moylgrove) ac yna i le o'n nhw'n mynd i werthu e. Oedd tŷ gyda nhw yn Guildford.

"O'n nhw 'di gweithio'n galed iawn dros wythnosau i greu stordy oedd mor fawr a mor anodd i adeiladu 'da'r cerrig 'na. 'Na gyd oedd gyda nhw oedd rhaw a symud e gyda'u dwylo nhw.

Ffynhonnell y llun, Don Evans
Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn y byncar: Waliau fibreglass ac injan cwch

"Doedd dim syniad 'da neb beth oedd yn mynd ymlaen achos oedd y pysgotwyr lleol wedi gweld rhai o'r smyglwyr mas yn un o'r ribs mawr 'ma yn dweud bod nhw'n paratoi i fynd i ffilmio yn Greenland. Oedd y pysgotwyr yn meddwl bod nhw'n dwyn lobsters mas o'r potiau.

"Pan welon nhw bethau ar y traeth yn Seal Bay roedd yn edrych yn amheus iawn.

"A'r wythnos cyn i'r achos ddod i'r golwg aeth y bad achub o Drefdraeth i weld beth oedd yn mynd ymlaen a chael yr un stori - bod nhw'n ffilmio mas yn Greenland. Dechreuon nhw feddwl bod e rhywbeth i neud â'r IRA. 'Wedon nhw wrth yr heddlu bod rhywbeth ddim yn iawn 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Traeth Cell Hywel, ger Trefdraeth

Nid yn unig oedd y stordy cudd wedi codi amheuon yn lleol ond roedd ffermwyr hefyd wedi gweld pobl yn cerdded ar yr arfordir gerllaw oedd yn denu sylw gan nad oeddent yn adnabyddus i'r gymuned glos nac wedi eu gwisgo fel cerddwyr arferol.

Cofiai John: "Roedd Robin Boswell (arweinydd y cynllwyn) mewn gwisg safari. Oedd e lot yn rhy smart a doedd y gang ddim wedi sylwi faint oedd y bobl lleol yn edrych arnyn nhw a ddim yn sylweddoli fod y bobl leol yn gwybod bod rhywbeth mas o le."

Ffynhonnell y llun, John Daniels
Disgrifiad o’r llun,

John Daniels

Sïon

Ar ben hynny roedd yn destun siarad yn y tafarndai lleol faint o arian oedd y dynion yn ei wario: "Beth oedd y gang ddim wedi sylweddoli – yn byw yn Llundain bydde neb yn sylwi dim arnyn nhw ond lawr fan 'na oedd pobl yn gallu gweld bod nhw mas o le, yn enwedig yn y tafarndai yn hala papurau £50.

"Oedden nhw'n byw bywyd uchel a'n hala arian – bydde papur £50 yn lot o arian nawr ond adeg hynny oedd e werth tua £200. O'n nhw'n dod â sylw at eu hunain."

Sialens Heddlu Dyfed Powys oedd dod o hyd i bob aelod o'r gang – rhywbeth oedd yn her oherwydd natur rhyngwladol y criw. Roedd ymholiadau wedi digwydd yn gyflym iawn a'r dau berson cyntaf i gael eu dal oedd Kenneth Aubrey Dewer a Robin Boswell.

Wedi i'r heddlu ddal Dewer a Boswell daethpwyd o hyd i radio ar yr arfordir ac un noson daeth neges drwy'r radio at glust yr heddlu: 'Mother mother can I come in and get the dirt off my hands.'

Mae John yn esbonio fod y neges wedi dod yng nghanol nos gan gwch oedd yn cario'r cyffuriau: "Doedd neb yn gwybod y cod i roi yn ôl.

"Pan ddaeth y neges 'mother mother' y cynllun oedd mynd mas wedi hynny i bigo'r tri tunnell o canabis oddi ar y cwch a dod ag e yn ôl i'r traeth yng nghanol nos a chuddio fe yn yr ogof cyn symud e 'mlaen.

"Y gang yma oedd un o'r rhai mwyaf shadowy. O'n nhw'n technical iawn. Roedd 17 o ffugenwau gyda Boswell ac oedd e'n rhoi ffugenw ar ei gar a phopeth oedd e'n 'neud. Os fyddech chi ddim wedi dal e byddech chi ddim wedi ffeindio fe."

Yr aelod olaf

Cyfuniad o waith ditectif a help y gymuned wnaeth arwain at ddal aelod olaf y gang, fel mae John yn esbonio: "Gath llun ei dynnu yn y tafarn Royal Oak (yn Trefdraeth) gan ferch oedd yn gweithio 'na. Oedd boi ynddo o'r enw David Walters Frijs, dyn o dde Affrica.

"O'n ni'n gwbod bod e lawr yn ne Ffrainc rownd Antibes a Nice. Halon nhw fi mas gyda cyfaill gyda'r llun i gydweithio gyda'r gendarmes i ddod o hyd iddo fe."

Gwelodd John a'i bartner arwydd Jenkins's Yacht Brokerage yn Cannes ac mi oedd Cymro yn gweithio yno: "Agorais i'r drws a wedes i bore da a daeth llais nôl yn ateb – gogleddwr oedd e."

Trwy lwc roedd y Cymro'n adnabod wyneb y dyn yn y llun o'r Royal Oak a dywedodd, "That's Dave Frijs and he drinks in Harry's Bar in Antibes. But he won't be around till Easter."

Meddai John: "Roedd defnyddio yr un tactegau â ni'n defnyddio yn ôl yn Aberteifi wedi gweithio a Ddydd Gwener y Pasg daeth galwad ffôn i ddweud fod Frijs yn Harry's Bar."

Cafodd y dyn ei arestio, llwyddiant mawr i waith ditectif y pâr: "Wrth fynd mas i Nice a Cannes gyda llun oedd wedi cael ei dynnu gan ran o'r gymuned yn Trefdraeth, daethon ni o hyd i'r un diwethaf yn y stori."

Felly beth oedd argraff John o'r dynion?

Meddai: "O'n nhw'n ddynion oedd ddim fel troseddwyr – o'n nhw'n hollol wahanol. Roedd Robin Boswell wedi mynd i ysgol Marlborough ac i Rydychen.

"Ac oedd Kenneth Dewar yn ddyn mawr yn y byd ffilmiau. Oedd Donald Holmes wedi 'neud ei arian drwy gyffuriau a'n byw yn Sussex. O'n nhw'n bobl cyfoethog."

Cafodd arweinwyr y cynllwyn, Boswell a Soeren Berg-Arnbak, rhwng wyth a 10 mlynedd yn y carchar. Carcharwyd chwech aelod arall o'r gang hefyd.

Effaith

Heb os cafodd yr holl beth effaith ar y gymuned leol yn Nhrefdraeth a'r cyffuniau, yn ôl John: "Roedd rhywbeth hollol anghyffredin wedi digwydd a'r gymuned yn ran o'r holl beth.

"O'n nhw jest moyn 'neud yn siŵr bod yr ardal yn saff a bod dim byd mas o le 'na."

I glywed y stori i gyd, gwrandewch ar Operation Seal Bay ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig