Pum munud gyda Caryl McQuilling, pencampwr codi pwysau

Caryl McQuilling yn cystadluFfynhonnell y llun, Cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Caryl McQuilling yn cystadlu

  • Cyhoeddwyd

Mae Caryl McQuilling, sy’n enedigol o Gellilydan ger Blaenau Ffestiniog, yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn ac yn gweithio fel rheolwr cynhyrchu i’r Theatr Genedlaethol yng Nghaerfyrddin. O fewn cyfnod o ddwy flynedd mae hi wedi codi i’r brig fel codwr pwysau powerlifting benywaidd gorau Cymru.

Bu Cymru Fyw'n ei holi am ei bywyd.

Beth yw powerlifting?

Cystadleuaeth codi pwysau yw powerlifting ond mae’n wahanol i’r cystadlaethau sydd i’w gweld yn y gemau Olympaidd.

Gyda powerlifting mae angen cwblhau tri math o weithgarwch sef codi pwysau wrth orwedd ar fainc, press, y squat sef codi pwysau wrth godi’n syth o dy gwrcwd a’r deadlift sef codi’r bar o’r llawr a sythu dy gefn. Mae cyfanswm pwysau’r tri disgyblaeth yn cael ei adio at ei gilydd er mwyn nodi beth yw dy sgôr terfynol.

Ffynhonnell y llun, White Lights Media
Disgrifiad o’r llun,

Caryl yn gwneud y squat mewn cystadleuaeth

Pam a sut wnes ti ddechrau ar y gamp?

Ro’n i ar fin dechrau cynhyrchiad theatrig fel rheolwr llwyfan pan ddaeth y cyfnod clo. Cafodd y gwaith ei ohirio felly penderfynodd fy mhartner a minnau brynu offer codi pwysau ar gyfer y tŷ. Dechreuon ni godi pwysau gyda’n gilydd yn yr ardd bob bore.

Ro’n i’n sbio ar Instagram ac yn cymharu’n hun efo pobl oedd yn gwneud powerlifting. Dwi’n cofio meddwl, ‘dwi’n medru codi’r pwysau yna’. Pan ddaeth y cyfnod clo i ben symudais i Gaerdydd a dod o hyd i gampfa yno.

Ffynhonnell y llun, White Lights Media
Disgrifiad o’r llun,

Caryl yn gwneud y press

Pa gystadlaethau rwyt ti wedi eu mynychu ers dechrau ar y gamp a sut hwyl ges ti?

Dwi wedi bod wrthi ers dwy flynedd yn y categori o dan 76 kilo. Mi enillais i Bencampwriaeth Cymru a gosod record newydd ar gyfer y squat, y deadlift ac ar gyfer y cyfanswm terfynol.

Mi ddes i’n bumed ym Mhencampwriaeth Prydain a chyn Dolig 2022 mi ennillais i fedal efydd ym Mhencampwriaeth y Gymanwlad allan yn Seland Newydd. Daeth tîm Cymru’n bumed. Ro’n i’n hapus iawn oherwydd roedd hi wedi bod yn gyfnod heriol a blinedig.

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan carylmcattack

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan carylmcattack

Oeddet ti’n hoffi chwaraeon pan oeddet ti yn yr ysgol?

Dim felly. Ro’n i’n gneud fy ngora' i osgoi chwaraeon, heblaw am bêl-droed. Roedd yn well gen i gerddoriaeth, canu, chwara' piano, y steddfod, pethau celfyddydol. Ro’n i’n mynd i’r gym ac yn gneud circuits er mwyn colli pwysau ac mi ddechreuais i ymddiddori mewn CrossFit.

Sawl gwaith yr wythnos rwyt ti’n ymarfer ac wyt ti’n dilyn deiet arbennig?

Dwi’n ymarfer pedair gwaith yr wythnos. Dwi’n teithio’n syth o Gaerfyrddin ar ôl gorffen gwaith ac mi fyddai yn y gampfa am ddwy neu dair awr.

Mae’n hanfodol i mi ddilyn deiet arbennig sef cymysgedd o brotein, carbs a brasder. Dwi ddim yn hoffi coginio felly ‘di o ddim yn rhy ddrwg.

Mae’n medru bod yn flinedig ar adegau prysur ond dwi’n mwynhau’r cystadlu cymaint. Does dim nawdd a dwi’n gorfod ariannu’n hun. Mae gen i hyfforddwr gwych o’r enw Lawrence Farncombe ac mae o’n deud bod gen i lwyth o botensial. Dwi eisiau gwireddu’r potensial hynny felly mae o werth o.

Ffynhonnell y llun, Cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Caryl McQuilling

Wyt ti, dy ffrindiau a dy deulu wedi gweld newid ers i ti ddechrau gyda’r gamp?

Yn sicr. Mae pobl yn deud wrtha’i, ‘Mae dy goesau di anferth,’ neu, ‘Mae dy freichiau di’n masif!’ Maen nhw’n nodi mod i’n edrych yn gry’ a dwi’n teimlo hynny.

Ro’n i’n arfar poeni sut ro’n i’n edrych ond dwi ddim bellach. Yr hyn sy’n bwysig i mi rŵan ydi beth mae ‘nghorff i’n medru’i 'neud. Dwi’n teimlo’n gyfforddus a dwi ddim eisiau colli pwysau mond aros oddeutu 74 kilo er mwyn medru cystadlu yn fy nosbarth.

Beth yw’r peth gorau am gystadlu a faint o fenywod sydd wrthi?

Mae ‘na elfen o berfformio a dwi’n mwynhau hynny. Dwi’n hoff o’r gemau seicolegol yn ogystal. Ti’n gosod rhif pwysau ar y bar ac mae angan i’r cystadleuwyr eraill guro hynny. Dwi’n hoffi cael fy herio a dwi’n hoffi cael y cyfle i ddangos llafur fy ngwaith. Dwi’n cael adrenaline rush wrth gystadlu.

Mae dal mwy o ddynion wrthi ond mae rhifau’r benywod yn codi yn enwedig ymhlith genod ifanc er 'dan ni ychydig ar ei hôl hi yma yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, White Lights Media
Disgrifiad o’r llun,

Caryl yn gwneud y deadlift

Beth sydd ar y gweill i ti nesaf?

Mi fydda i’n brysur rŵan gyda pharatoadau’r Theatr Genedlaethol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ym mis Tachwedd mi fydda i’n rhan o dîm Cymru fydd yn cystadlu’n erbyn timau o Iwerddon, yr Alban a Lloegr allan ym Melffast. Er bod y gystadleuaeth hynny ymhell i ffwrdd dwi’n teimlo’n gyffrous yn barod ac yn edrych ymlaen i gystadlu.

Pob lwc i ti Caryl!