A fydd daeargryn eto yn Yr Alban yn yr etholiad?
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddaeargryn gwleidyddol yn Yr Alban yn etholiad cyffredinol 2015.
Fe gipiodd yr SNP 56 o 59 o seddi'r wlad gan adael Llafur gydag un sedd yn unig.
Ers hynny, y cenedlaetholwyr sydd wedi bod y blaid fwyaf yn Yr Alban ym mhob etholiad cyffredinol.
Ond yn fwy diweddar, mae'r SNP wedi wynebu trafferthion mawr.
Y llynedd, fe ymddiswyddodd Nicola Sturgeon fel prif weinidog Yr Alban ac ers hynny mae'r blaid ar ei hail arweinydd.
Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn
Pwy enillodd yn fy ardal i?
Rhowch eich cod post neu enw'r etholaeth i ddarganfod pwy
Dim Cysylltiad Rhyngrwyd
Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.
Allwedd y map
Dewiswch ardal ar y map neu ceisiwch chwiliad cod post arall.
Nodyn: Mae'r chwiliad hwn yn ymdrin ag ethol aelodau seneddol. Efallai y bydd isetholiadau cyngor lle rydych chi. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn.
Humza Yousaf oedd ei holynydd, ond fe ildiodd yr awenau fis diwethaf ar ôl gorffen cytundeb rhannu grym gyda Phlaid Werdd Yr Alban.
John Swinney, am yr eildro yn ei yrfa, ydy arweinydd newydd yr SNP - a'r prif weinidog.
Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i gyllid y blaid ac mae'r cyn Brif Weithredwr Peter Murrell, gŵr Ms Sturgeon, wedi ei gyhuddo o gamddefnyddio arian y blaid.
Mae Llafur felly'n gobeithio manteisio ar y problemau diweddar hynny a rhoi terfyn ar gyfnod y blaid yn rheoli gwleidyddiaeth Yr Alban.
Disgwyl 'tolc' i'r SNP
"Mae pobol yn disgwyl i’r SNP gael tolc ac maen nhw wedi bod yn llywodraethu yn Holyrood ers cyhyd [2007]," meddai'r Parchedig John Owain Jones, sy'n byw yn Grennock y tu allan i Glasgow.
"Dwi’n credu hefyd bod 'na elfen o siomi… nid yn unig oherwydd eu problemau ariannol nhw sydd wedi cael cyhoeddusrwydd, ond dwi'n credu hefyd bod yna elfen o deimlo eu bod wedi colli stêm a chyfeiriad a dwi'n meddwl fod hynny wedi bod yn beth cynyddol.
"Felly, synnwn i’n fawr petawn nhw’n cael eu cosbi."
Fe bleidleisiodd Yr Alban yn erbyn annibyniaeth yn 2015, felly i ba raddau mae'n bwnc trafod yn yr etholiad hwn?
Mae pobl yn teimlo fod annibyniaeth yn "go bell i ffwrdd mewn termau amser", ychwanegodd Mr Jones.
Dywedodd efallai bydd rhai pobol sydd o blaid hynny'n teimlo y bydd canlyniad yr etholiad yn symud Yr Alban yn agosach at annibyniaeth.
"Ac i’r gwrthwyneb, mi fydd yna bobol sy'n gweld pethau yn wahanol yn gobeithio efallai y bydd hyn yn gwthio annibyniaeth yn bellach i'r gorffennol os nad i’r ymylon yn llwyr."
Mae Gwion Rhisiart yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Glasgow ac yn dweud mai'r economi a swyddi ydy'r prif bynciau sydd o bwys i bobl Yr Alban yn yr etholiad.
Ond mae'n dadlau y gall y canlyniad fod yn arwydd o safbwynt cyfansoddiadol y bobl.
"Y realiti yw, os yw mwy o seddi'r SNP yn dod trwyddo na Llafur mae'n danfon neges nad ydi pobol yn hollol gyfforddus gyda'r status quo yma o fewn y Deyrnas Unedig.
“Dydyn nhw ddim yn hapus gyda'r model economaidd yma ble mae llawer o'r ariannu o dan y blaid Geidwadol a'r blaid Lafur yn mynd i Loegr a dydyn nhw ddim yn hapus gyda hynny.”
Dewiswch opsiwn isod i ddechrau
Agor mewn tab newyddSee this guide in English
(Gweld y canllaw hwn yn Saesneg)
Os na allwch weld yr elfen ryngweithiol, adnewyddwch eich tudalen.
Beth mae'r pleidiau yn ei addo?
Darllenwch beth mae pleidiau gwleidyddol y DU yn ei addo yn yr etholiad hwn drwy ddewis opsiwn isod.
England
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Scotland
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Llafur Cymru
Arweinydd
Vaughan Gething
Blaenoriaethau allweddol
- Rhoi hwb i dwf economaidd i sicrhau’r twf parhaus uchaf yn y G7 – gyda swyddi da a thwf cynhyrchiant ym mhob rhan o’r wlad
- Adeiladu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol sydd yno pan fydd pobl ei angen, lle mae pawb yn byw'n dda yn hirach
- Gwneud Prydain yn bwerdy ynni glân i dorri biliau, creu swyddi a chynnig diogelwch gyda thrydan rhad, di-garbon erbyn 2030
- Creu Canolfan Diogelwch y Ffin gyda phwerau gwrthderfysgaeth i fynd i’r afael â smyglo pobl a gangiau masnachu pobl
- Hanneri tor-cyfraith treisiol difrifiol a chodi hyder cyhoeddus yn y system gyfiawnder a phlismona i'w lefel uchaf
Economi
- Sicrhau sefydlogrwydd economaidd gyda rheolau clir ar drethi a pholisïau gwariant a goruchwyliaeth fwy annibynnol
- Capio treth gorfforaeth ar 25%, disodli’r system ardrethi busnes a chyhoeddi map trywydd sy’n amlinellu trethi busnes y dyfodol
- Sefydlu Great British Energy a Chronfa Gyfoeth Genedlaethol i fuddsoddi mewn diwydiannau ynni glân a chreu 650,000 o swyddi
- Gwahardd contractau dim oriau sy’n "ecsbloetio"; rhoi’r gorau i ddiswyddo ac ail-gyflogi; a chyflwyno hawliau sylfaenol o'r diwrnod cyntaf o ran absenoldeb rhiant, tâl salwch ac amddiffyniad rhag diswyddiadau annheg
- Cryfhau llais gweithwyr ar y cyd, gan gynnwys drwy undebau llafur
- Llunio strategaeth ddiwydiannol sy’n canolbwyntio ar gryfderau’r DU a sefydlu Cyngor Strategaeth Ddiwydiannol gyda chynrychiolwyr o’r holl genhedloedd a’r rhanbarthau, busnes ac undebau llafur
Costau byw
- Addo i beidio â chynyddu treth incwm, Yswiriant Gwladol neu TAW yn ystod y senedd nesaf
- Torri biliau ynni drwy sefydlu Great British Energy, cwmni ynni ym mherchnogaeth y cyhoedd
- Torri biliau ynni gyda Chynllun Cartrefi Cynnes Cenedlaethol i uwchraddio pum miliwn o gartrefi mewn pum mlynedd
- Troi’r isafswm cyflog yn gyflog byw gwirioneddol sy’n rhoi ystyriaeth i gostau byw a gwella’r broses o’i orfodi
- Gwahardd contractau dim oriau a’r arfer o ddiswyddo ac ail-gyflogi, a rhoi mwy o hawliau i weithwyr o’r diwrnod cyntaf yn y swydd
- Diogelu clo triphlyg pensiwn y wladwriaeth fel ei fod yn codi’n unol â chwyddiant, cyflogau neu 2.5% - pa bynnag un sydd uchaf
GIG a gofal
- Gweithio gyda llywodraeth Cymru i dorri amseroedd aros y GIG yng Nghymru
- Sicrhau na all y genhedlaeth nesaf byth brynu sigaréts yn gyfreithlon
- Gwahardd hysbysebu bwyd sothach i blant
- Adeiladu ar y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, ac archwilio mesurau pellach i gadw pawb yn ddiogel ar-lein
- Diwygio rheoleiddio gamblo, cryfhau amddiffyniadau a pharhau i weithio gyda'r diwydiant ar sut i sicrhau gamblo cyfrifol
- Rhoi mwy o bwerau i grwneriaid gael mynediad at wybodaeth sy’n cael ei chadw gan gwmnïau technoleg ar ôl marwolaeth plentyn

- Canslo hediadau ceiswyr lloches i Rwanda a chyflogi mwy o arolygwyr a swyddogion ffin i glirio’r ôl-groniad lloches
- Sefydlu uned ddychwelyd 1,000 person i symud ceiswyr lloches aflwyddiannus yn gynt
- Diwygio'r system fewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau a gwahardd cyflogwyr sy'n torri cyfreithiau cyflogaeth wrth gyflogi gweithwyr o dramor
- Lleihau mewnfudo net drwy gyflwyno cynlluniau gweithlu a hyfforddiant mewn sectorau fel iechyd ac adeiladu i roi’r gorau ar y ddibyniaeth hirdymor ar weithwyr o dramor
- Diwygio llwybrau adsefydlu a helpu ffoaduriaid yn eu rhanbarthau cartref
Tai
- Cefnogi cartrefi cynhesach i leihau tlodi tanwydd
- Dod â’r system lesddaliadau i ben, gan ddeddfu cynlluniau Comisiwn y Gyfraith ar ryddfreinio lesddaliadau, yr hawl i reoli a chyfunddaliadau
- Cymryd camau pellach i wahardd fflatiau lesddaliad newydd a sicrhau mai cyfunddaliadau yw’r ddeiliadaeth arferol
- Mynd i'r afael â thaliadau rhent tir anfforddiadwy nad ydynt yn cael eu rheoleiddio
- Rhoi’r gorau i ystadau tai preifat ‘fleecehold’ a chostau cynnal a chadw annheg
Amgylchedd
- Sefydlu Great British Energy a buddsoddi mewn ynni glân - bron i holl drydan y DU i ddod o ffynonellau glân erbyn 2030
- Uwchraddio’r Grid Cenedlaethol a diwygio’r system gynllunio i gyflymu prosiectau ynni glân
- Sicrhau bod cymunedau lleol yn cael budd uniongyrchol o gynnal seilwaith ynni glân
- Gwrthod rhoi trwyddedau i archwilio meysydd olew a nwy newydd ym Môr y Gogledd neu drwyddedau glo newydd, tra'n parhau â thrwyddedau sy'n bodoli eisoes
- Rhoi'r gorau i werthu cerbydau petrol a diesel newydd erbyn 2030 a chyflymu'r broses o gyflwyno mannau gwefru i gerbydau trydan
- Gwneud i gwmnïau dŵr sy'n llygru lanhau afonydd a moroedd a rhoi pwerau i'r rheoleiddiwr rwystro taliadau bonws ar gyfer penaethiaid cwmnïau
Addysg
- Hybu sgiliau drwy droi’r ardoll brentisiaethau yn ardoll sgiliau a hyfforddiant
- Rhoi terfyn ar doriadau treth i ysgolion preifat er mwyn buddsoddi yn ein hysgolion gwladol
- Gweithredu i greu dyfodol diogel i addysg uwch a’r cyfleoedd y mae’n eu creu ledled y DU
- Gweithio gyda phrifysgolion i gyflawni ar gyfer myfyrwyr a’n heconomi
Tramor ac amddiffyn
- Parhau i ymrwymo i Nato ac arf ataliol niwclear y DU
- Cynnal arolwg llawn o gyflwr y lluoedd arfog o fewn y flwyddyn gyntaf ac amlinellu llwybr i gynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o'r incwm cenedlaethol
- Gwella llety i’r rhai sy’n gwasanaethu a sefydlu comisiynydd lluoedd arfog i wella bywyd i’r rhai sy’n gwasanaethu
- Ceisio cael cytundeb diogelwch newydd rhwng y DU a’r UE a gwella perthnasoedd masnachu gyda’r bloc, tra’n aros y tu allan i’r undeb tollau a’r farchnad sengl
- Rhoi’r cymorth sydd ei angen ar Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia
- Pwyso am gadoediad yn Gaza ar unwaith a rhyddhau pob gwystl, cymorth heb ataliad i Gaza, a gwthio am gydnabyddiaeth swyddogol i Balesteina fel rhan o broses heddwch dwy-wladwriaeth
Trosedd a chyfiawnder
- Rhoi 13,000 yn fwy o heddlu yn y gymdogaeth a swyddogion cymorth cymunedol ar y bît yng Nghymru a Lloegr
- Adeiladu lleoedd carchar newydd er mwyn rhoi'r gorau i ryddhau'n gynnar oherwydd gorlenwi a gwella'r cydlynu rhwng gwasanaethau i dorri cyfraddau aildroseddu
- Mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda Gorchmynion Parch newydd - pwerau i wahardd oedolion sy'n troseddu'n gyson o ganol trefi
- Rhoi unedau treisio arbennig ym mhob heddlu a chyflymu achosion o dreisio drwy'r llysoedd arbenigol
- Mynd i’r afael â gangiau sy’n dwyn o siopau drwy ganiatáu i’r heddlu ymchwilio i achosion o ddwyn o dan £200
- Mynd i’r afael â throseddau cyllyll, gan gynnwys dedfrydau llymach am werthu a meddu ar machetes, cyllyll zombie a chleddyfau
Trafnidiaeth
- Sefydlu Great British Railways i wladoli rheilffyrdd i deithwyr wrth i gontractau cwmnïau preifat ddirwyn i ben
- Creu swyddfa graffu newydd ar ran teithwyr er mwyn codi safonau
Democratiaeth
- Rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau cyffredinol y DU
- Sefydlu Comisiwn Moeseg ac Uniondeb annibynnol newydd fel bod gweinidogion y llywodraeth yn atebol i'r safonau uchaf
- Moderneiddio Tŷ’r Cyffredin a gwahardd Aelodau Seneddol rhag cymryd ail swyddi sy'n eu hatal rhag gweithio ar ran eu etholaethau
- Tynnu arglwyddi etifeddol o Dŷ’r Arglwyddi a diwygio’r broses benodi, gan geisio gwella ei gydbwysedd cenedlaethol a rhanbarthol
- Ymgynghori ar gynlluniau i ddisodli Tŷ’r Arglwyddi gydag ail siambr amgen, sy’n fwy cynrychioliadol o’r rhanbarthau a’r cenhedloedd
- Ailosod perthynas llywodraeth y DU â llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Y Ceidwadwyr Cymreig
Arweinydd
Andrew RT Davies
Blaenoriaethau allweddol
- £1biliwn i drydaneiddio prif linell gogledd Cymru
- Dod â phŵer niwclear i ogledd Cymru
- Cyflwyno rhaglen Gwasanaeth Cenedlaethol
- Darparu o leiaf £1 biliwn o gyllid ffyniant bro parhaus i gymunedau yng Nghymru
- Angen caniatâd lleol ar gyfer parthau 20mya a rhoi'r hawl gyfreithiol i gymunedau lleol herio parthau sy'n bodoli'n barod
- Torri Yswiriant Gwladol o 2c arall a dileu prif gyfradd Yswiriant Gwladol hunan-gyflogedig gyda'r uchelgais o ddod â'r dreth ddwbl i ben ar waith pan fydd amodau ariannol yn caniatáu hynny
Economi
- Tynnu 2c ychwanegol oddi ar Yswiriant Gwladol cyflogai, ei haneru o 12% ddechrau eleni i 6% erbyn Ebrill 2027
- Dileu prif gyfradd Yswiriant Gwladol hunangyflogedig yn gyfan gwbl erbyn 2029, gyda’r uchelgais o ddod â’r dreth ddwbl i ben ar waith pan fydd amodau ariannol yn caniatáu
- Diddymu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach - Cymru sydd â’r rhai uchaf ym Mhrydain – a chefnogi entrepreneuriaid ifanc i sefydlu busnes
- Galluogi busnesau micro i dyfu gyda ‘Chynllun Sbarduno’ gan dalu Yswiriant Gwladol i’r cyflogwr am ddau weithiwr am ddwy flynedd
- Cyflwyno 150,000 o brentisiaethau newydd dros gyfnod nesaf y Senedd, a chreu Cynllun ‘Kickstarter’ i Fusnesau Lleol i gefnogi busnesau sy’n dechrau arni
- Mynd i’r afael â chyfradd uchel o anweithgarwch economaidd yng Nghymru drwy greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi
Costau byw
- Torri treth, gan roi £700 yn ôl ym mhoced y gweithiwr cyffredin yng Nghymru. Cadw’r cap ar bris ynni, gostwng ardollau biliau ynni a chreu tabl cynghrair o ddarparwyr ynni
- Cyflwyno’r Clo Triphlyg a Mwy (Triple Lock Plus) fel bod y lwfans personol i bensiynwyr yn cynyddu gydag enillion, prisiau neu 2.5% i sicrhau bod pensiwn y wladwriaeth wastad yn rhydd rhag treth incwm
- Gostwng y trothwy oedran o 21 am y Cyflog Byw Cenedlaethol o £11.44
- Darparu 30 awr o ofal plant am ddim i deuluoedd sy’n gweithio gyda phlant rhwng naw mis a phum mlwydd oed yn Lloegr. Bydd llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol i alluogi hynny yng Nghymru
- Codi cyfraddau budd-daliadau yn unol â chwyddiant
GIG a gofal
- Gwneud Cyfamod GIG Cymru yn gyfraith er mwyn sicrhau bod arian sy’n mynd i lywodraeth Cymru o wariant iechyd ychwanegol yn Lloegr yn cael ei wario’n llawn ar iechyd yng Nghymru
- Gweithwyr proffesiynol y GIG i dderbyn y tâl llawn fel yr argymhellwyd gan Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG annibynnol, mynd i’r afael â chamdriniaeth a gwella llesiant staff
- Gwarantu bod y GIG yn parhau i fod mewn dwylo cyhoeddus ac yn rhad ac am ddim adeg ei ddefnyddio
- Creu rhaglen o Weithwyr wrth Gefn yn y GIG, sef cyn weithwyr proffesiynol ac aelodau’r cyhoedd i wirfoddoli yn ystod cyfnodau o alw mawr
- Sefydlu ‘gwestai gofal’ i ryddhau gwelyau mewn ysbytai i gleifion nad ydynt yn gallu mynd adref, ond nad oes angen gofal meddygol arnyn nhw mwyach
- Cyflwyno Deddf Iechyd Meddwl newydd i greu canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24/7, i ffwrdd o’r adran damweiniau ac achosion brys
Mewnfudo
- Atal pobl sy’n cyrraedd yng anghyfreithlon rhag hawlio lloches yn y DU a chyflawni'r hediadau i Rwanda i rwystro mewnfudo anghyfreithlon
- Cryfhau gorfodaeth a bod yn llymach ar smyglwyr pobl drwy weithio gyda chynghreiriaid rhyngwladol a rhoi hwb i gyllid yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol
- Cynyddu nifer y swyddogion ar batrôl ar arfordir Ffrainc a gweithio gyda chenhedloedd gogledd Ewrop i darfu ar fasnachwyr pobl
- Clirio’r ôl-groniad lloches a phrosesu pob hawliad yn y dyfodol o fewn chwe mis i roi'r gorau ar ddefnyddio gwestai ar gyfer mudwyr
- Capio nifer y fisas ar gyfer mudwyr ar lefel a gymeradwyir yn flynyddol gan Aelodau Seneddol, gyda'r nifer yn gostwng bob blwyddyn yn y Senedd
- Codi’r lefel enillion isaf ar gyfer fisas gweithiwr medrus neu deulu – a fydd yn cyrraedd £38,700 yn 2025 – yn ôl chwyddiant bob blwyddyn
Tai
- Creu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr i dargedu’r awdurdodau cynllunio lleol sy’n perfformio arafaf, gan gyflymu ceisiadau ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy
- Datblygu cynllun cymorth i alluogi busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi, tra’n blaenoriaethu busnesau bach a chanolig i adeiladu ar dir cyhoeddus
- Sefydlu cronfa prentisiaid cynllunio ar gyfer pob awdurdod lleol
- Cynnal arolygon ar holl dir awdurdodau cyhoeddus i weld pa mor addas ydyw ar gyfer tai
- Ehangu Cymorth i Brynu i gynnwys cartrefi ail law a'r rhai y mae angen eu hadnewyddu
- Grymuso awdurdodau lleol i ddefnyddio tai gwag unwaith eto ar gyfer rhent cymdeithasol a rhentu i brynu
Amgylchedd
- Treblu capasiti ynni gwynt ar y môr y DU, i ddarparu ynni cartref sy'n isel o ran cost a chefnogi datblygiad clystyrau diwydiannol bywiog mewn llefydd fel Gogledd Ddwyrain Lloegr, yr Alban a Chymru
- Darparu gorsaf ynni niwclear gigawat newydd yn Wylfa yng ngogledd Cymru
- Adeiladu’r ddau glwstwr dal a storio carbon cyntaf, wedi’u lleoli ar draws gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr a Teesside a Humber, gan dorri carbon a chreu degau o filoedd o swyddi
- Creu Swyddfa Annibynnol ar gyfer Gwarchod yr Amgylchedd er mwyn i lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill fod yn atebol ar yr amgylchedd
- Cynyddu’r gyllideb ffermio ar gyfer y DU gyfan £1 biliwn yn ystod y Senedd, gan sicrhau ei bod yn codi yn unol â chwyddiant bob blwyddyn
- Parhau i glustnodi cyllid amaeth fel ei fod yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i gymunedau ffermio a gwledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ochr yn ochr â Chronfa Arloesedd Ffermio newydd gwerth £20m ledled y DU
Addysg
- Recriwtio mwy o athrawon i leihau maint dosbarthiadau drwy ad-dalu ffioedd dysgu ar gyfer athrawon sydd wedi treulio pum mlynedd yn dysgu yng Nghymru
- Gwarantu blwyddyn o gyflogaeth mewn ysgol neu goleg yng Nghymru i bob athro neu athrawes sydd newydd gymhwyso
- Creu llinell gymorth i athrawon i leihau trais mewn ysgolion
- Adfer targedau darllen, ysgrifennu, rhifedd a sgiliau digidol
- Archwilio cyfleoedd i gyflwyno diwygiadau gan gynnwys ysgolion ac academïau rhydd
Tramor ac amddiffyn
- Cynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o GDP erbyn 2030 a lansio ymgyrch i bob un o gynghreiriaid Nato wneud yr un peth
- Cynnal ein cefnogaeth i Wcráin, lle mae £7.6 biliwn o gymorth milwrol wedi’i roi ers 2022
- Adeiladu chwe llong ryfel newydd o’r radd flaenaf
- Cryfhau sylfaen ddiwydiannol amddiffyn y DU drwy roi’r sicrwydd amlflwyddyn er mwyn cynhyrchu’r offer sydd ei angen pan fydd ei angen, gydag o leiaf £10 biliwn o fuddsoddiad mewn cynhyrchu arfau, y bydd y mwyafrif ohono’n cael ei wario yn y DU dros y ddegawd nesaf
- Cyflymu’r broses o foderneiddio ein lluoedd arfog a buddsoddi mewn technoleg sy’n fanteisiol ar faes y gad modern
- Cynyddu cyllid Ymchwil a Datblygu i isafswm o 5% o'r gyllideb amddiffyn, ynghyd â 2% ychwanegol i fanteisio ar yr ymchwil a datblygu hwnnw, gan gyflymu buddsoddiadau mewn systemau arfau newydd
Trosedd a chyfiawnder
- Pasio deddfau newydd llym i sicrhau cyfiawnder, gan gynnwys sicrhau bod y troseddwyr mwyaf difrifol, fel y rhai sy'n lladd plant, yn treulio eu bywydau o dan glo
- Rhoi swyddog plismona cymunedol newydd ym mhob cymuned ledled Cymru
- Rhoi pwerau ac offer newydd i swyddogion heddlu ddal troseddwyr, gan gynnwys technoleg fel adnabod wynebau a phwerau i gipio cyllyll ac olrhain eiddo sydd wedi'i ddwyn. Cefnogi’r heddlu yn y defnydd cyfreithlon a phroffesiynol o rym, ochr yn ochr â system atebolrwydd deg a chymesur
- Trwyddedu swyddogion heddlu ar gyfer rolau arbenigol, fel rydyn ni eisoes yn ei wneud ar gyfer swyddogion drylliau. Byddwn yn deddfu i sicrhau bod swyddogion yn cael eu fetio’n briodol yn ystod eu gwasanaeth ac y gellir diswyddo’r rhai sy’n methu
- Deddfu i greu troseddau newydd ar gyfer sbeicio, creu delweddau ffugiad dwfn o naturol rywiol (deepfake) a thynnu delweddau personol heb ganiatâd
Trafnidiaeth
- Darparu arian cyfatebol i lywodraeth Cymru er mwyn ail-ystyried ffordd liniaru’r M4 a thrydydd croesfan y Fenai yn ogystal â gwelliannau ehangach i’r A55 a'r A483 o amgylch Wrecsam
- Darparu cyllid i Gyngor Mynwy i ddatblygu cynlluniau ffordd osgoi Cas-gwent a blaenoriaethu ffordd osgoi Pant-Llanymynech
- Ymrwymo £1 biliwn ar gyfer trydaneiddio prif linell rheilffordd gogledd Cymru a sicrhau bod Cymru yn dechrau derbyn symiau canlyniadol Barnett ar gyfer y prosiect o arbedion HS2 yn Lloegr
- Blaenoriaethu datblygiad croesfan Pencoed a bwrw ymlaen â'r gwaith ar brif linell rheilffordd de Cymru, i ddarparu gorsafoedd a gwasanaethau newydd
- Ehangu’r Bil Cefnogi Gyrwyr i gynnwys Cymru, gwrthdroi'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya drwy ofyn am ganiatâd lleol ar gyfer parthau 20mya a rhoi'r hawl gyfreithiol i gymunedau lleol herio parthau presennol
- Caniatáu adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru. Atal cyflwyno taliadau ar ffyrdd. Uwchraddio’r A55, yr A40 a chreu llefydd i basio ar hyd yr A470
Democratiaeth
- Gwrthdroi ehangu’r Senedd o 60 i 96 o aelodau
- Cyflwyno deiseb diddymu ar gyfer etholwyr pan fydd eu haelod o’r Senedd islaw'r safonau a ddisgwylir ganddyn nhw
Plaid Cymru
Arweinydd
Rhun ap Iorwerth
Blaenoriaethau allweddol
- Sicrhau £4 biliwn sy’n ddyledus i Gymru o HS2 i wella trafnidiaeth gyhoeddus a gwrthdroi toriadau i wasanaethau bysiau lleol
- Mynnu cyllid teg i Gymru o San Steffan er mwyn buddsoddi yng ngweithlu’r GIG yng Nghymru a recriwtio 500 o feddygon teulu. Cyflwyno strategaeth ganser newydd i ganfod a thrin canserau’n gynt a dod â ‘r loteri cod post i ben o ran triniaethau
- Helpu 330,000 o deuluoedd yng Nghymru gyda’r argyfwng costau byw drwy gynyddu Budd-dal Plant £20 yr wythnos
- Unioni annhegwch economaidd drwy gynyddu trethi ffawdelw (windfall) a datganoli Ystad y Goron i greu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant
Economi
- Pwyso ar y DU i ail-ymuno â marchnad sengl ac undeb tollau’r UE
- Gosod targedau newydd, uchelgeisiol ar gyfer economi Cymru i ddeall yn well effaith penderfyniadau polisi a dewisiadau buddsoddi
- Diwygio ardrethi busnes, creu Asiantaeth Ddatblygu Genedlaethol hyd braich i Gymru sy’n blaenoriaethu’r broses o dyfu, cefnogi a chadw busnesau o Gymru. Diwygio Banc Datblygu Cymru fel y gall gymryd mwy o gyfranddaliadau ecwiti mewn busnesau sy’n dod i’r amlwg ac elwa ohonynt a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith
- Cynyddu pwerau benthyg Llywodraeth Cymru a chael gwared ar y cyfyngiadau wrth reoli ei gyllideb
- Cefnogi gweithwyr dur, diogelu cynhyrchu dur yng Nghymru a phwyso i wladoli gwaith dur Tata ym Mhort Talbot
Costau byw
- Datganoli pwerau i osod bandiau treth incwm, gwneud treth ar enillion cyfalaf â threth incwm yn gyfartal, gosod treth ffawdelw (windfall) ar gwmnïau ynni ac ailosod cap ar fonws bancwyr
- Pwyso i ehangu’r broses o gyflwyno prydau ysgol am ddim i gynnwys holl ddisgyblion ysgolion uwchradd y wladwriaeth
- Cael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn, chynyddu budd-dal plant £20 yr wythnos. Cyflwyno strategaeth newydd ar dlodi plant yng Nghymru gyda thargedau clir a wiriwyd yn annibynnol
- Ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i gredyd cynhwysol ddarparu’r lleiafswm sydd ei angen ar gyfer bywydau bob dydd unigolion a theuluoedd
- Datganoli pwerau dros fudd-daliadau lles, cynyddu’r nifer sy’n hawlio budd-daliadau sydd heb eu hawlio a chreu Taliad Plant Cymru sy’n seiliedig ar un yr Alban
- Cyflwyno tariff cymdeithasol ynni i aelwydydd sy’n gwario swm anghymesur ar filiau ynni
GIG a gofal
- Gweithio i sicrhau bod ein GIG yn cael ei ariannu’n iawn drwy fodel ariannu newydd tecach i Gymru sy'n seiliedig ar anghenion – gan alluogi i gyflog llawn holl staff y GIG yng Nghymru gael ei adfer a gwrthwynebu preifateiddio gwasanaethau’r GIG
- Adfer cyllid meddygon teulu i 8.7% o gyllideb iechyd Cymru, a recriwtio 500 o feddygon teulu ychwanegol ar draws y wlad dros ddau dymor llywodraeth Cymru
- Adolygu llywodraethiant y GIG yng Nghymru, gan geisio cryfhau goruchwyliaeth ac atebolrwydd a chyflwyno diwygiadau i sicrhau na chaiff byrddau iechyd eu tynnu o fesurau arbennig am resymau gwleidyddol
- Mynnu bod Ymchwiliad Covid penodol i Gymru yn cael ei sefydlu
- Parhau i weithio i gyflwyno Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig, gan gynnwys mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal a ‘blocio gwelyau’. Codi’r cyflog byw gwirioneddol £1 yr awr i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Creu ‘contract canser’ newydd i Gymru er mwyn dal a thrin canserau’n gynharach
Mewnfudo
- Cael gwared ar gynllun Rwanda, gan greu llwybrau diogel a chyfreithlon i geiswyr lloches gael mynediad i’r DU, a dod â’r system ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ i ben
- Cymru a’r DU yn parhau i fod yn aelod o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop, gan fod yn rhwym i benderfyniadau'r llys atodedig a chynnal hawliau dynol
- Cadw’r fisa llwybr graddedigion i annog pobl i astudio, i fyw ac i weithio yng Nghymru
- Datganoli pwerau mewnfudo allweddol i Gymru, gan gynnwys y rhestr o alwedigaethau i leiafrifoedd, gan alluogi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi ei fisâu ei hun
Tai
- Ymgorffori hawl i dai digonol yn y gyfraith, gwahardd troi allan heb fai a galluogi mesurau blaengar i reoli rhenti
- Datblygu cynllun i sicrhau bod tai cymdeithasol yn cael eu hehangu’n sylweddol ym mhob rhan o’r wlad, drwy ddefnyddio ffrydiau ariannu cyhoeddus a phreifat a gweithio gyda chymunedau i ddarparu'r gymysgedd iawn o dai
- Creu canolfannau rhagoriaeth ym maes adeiladu ac ôl-osod. Diogelu a gwella cadwyni cyflenwi lleol a llafur yng Nghymru fel bod elw’r diwydiant adeiladu tai yng Nghymru yn gallu aros yng Nghymru
- Cefnogi mesurau newydd i reoli nifer yr ail gartrefi. Cefnogi ehangu Cynllun Peilot Dwyfor sy’n caniatáu i awdurdodau lleol brynu ail gartrefi a llety gwyliau
Amgylchedd
- Ailddatgan ein hymrwymiad i gyrraedd targedau sero net yng Nghymru erbyn 2035 a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth erbyn 2030. Mynd ar drywydd pwerau i gyflwyno treth carbon yng Nghymru. Creu gwaith gwerth chweil, ystyrlon a theg yn y sectorau gwyrdd a sero net sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys ail-sgilio a chefnogi gweithwyr a phrentisiaid o Gymru yn y sectorau hyn
- Datganoli pwerau llawn dros Ystad y Goron, fel bod Cymru a’i chymunedau yn elwa o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy newydd ar y môr, drwy greu Cronfa Gyfoeth Sofren i Gymru
- Parhau i gefnogi datblygiad cwmni ynni cenedlaethol i Gymru, gan sicrhau perchnogaeth gymunedol dros brosiectau ynni adnewyddadwy
- Buddsoddi mewn cynyddu capasiti’r grid ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy
- Datganoli pwerau llawn dros ddŵr, cryfhau pwerau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru dros ddympio carthion a chodi pris teg ar aelwydydd am ddŵr
- Rhoi feto i Gymru yn erbyn cytundebau masnach sy’n tanseilio cymunedau amaethyddol Cymru, a chyflwyno Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd sy’n cynnig sefydlogrwydd a chynaliadwyedd i funesau fferm
Addysg
- Parhau i adeiladu tuag at wasanaeth addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant cyfrwng Cymraeg cenedlaethol, rhad ac am ddim, ar gyfer plant 12 mis oed nes eu bod yn gymwys am addysg llawn amser
- Sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg a Saesneg wrth adael ysgol
- Sicrhau setliad ariannol newydd a theg i Gymru, er mwyn i ni allu buddsoddi yn ein hysgolion, gan gynnwys y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chymorth iechyd meddwl
- Buddsoddi yn ein gweithlu, gan sicrhau bod athrawon a staff cymorth yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi er mwyn gwella lefelau recriwtio a chadw
- Cynnal archwiliad sgiliau i nodi meysydd o flaenoriaeth ar gyfer buddsoddi mewn prentisiaethau ac addysg bellach a chynnig cyflog byw i brentisiaid
- Cyflwyno setliad cyllido newydd i brifysgolion Cymru, gan gynnwys adolygu'r model presennol o gyllid myfyrwyr ac annog mwy o fyfyrwyr i astudio yng Nghymru
Tramor ac amddiffyn
- Mynd ar drywydd annibyniaeth i Gymru ac ail-dderbyn Cymru fel aelod llawn o’r UE. Tan hynny, pwyso ar y DU i ail-ymuno â’r farchnad sengl ac undeb tollau’r UE
- Galw am gadoediad heddychlon yn Gaza, rhyddhau’r holl wystlon a thrafod i ddod â’r gwrthdaro i ben. Cydnabod Palesteina fel gwladwriaeth, cam hanfodol tuag at heddwch yn y rhanbarth
- Cefnogi hawl pobl Wcráin i amddiffyn eu hunain ac uniondeb tiriogaethol eu cenedl rhag ymosodiadau Rwsia. Cefnogi Cymru fel Cenedl Noddfa i’r holl ffoaduriaid sy’n ffoi rhag gwrthdaro
- Mynnu yr ymgynghorir â’r Senedd cyn i Lywodraeth y DU wneud penderfyniadau i gymryd rhan mewn gweithredu milwrol y tu hwnt i’r DU. Gwrthwynebu system arfau niwclear Trident a’i adnewyddu
Trosedd a chyfiawnder
- Mynnu bod pwerau dros gyfiawnder a phlismona yn cael eu datganoli’n llawn ac ar unwaith, a chreu ysgrifennydd cabinet dros gyfiawnder yn llywodraeth Cymru
- Gwrthdroi toriadau cyllid i heddluoedd Cymru drwy gael gwared ar fformiwla Barnett a sicrhau model cyllido sy’n adlewyrchu anghenion Cymru
- Creu swyddfa newydd Comisiynydd Dioddefwyr Cymru, i gynrychioli dioddefwyr troseddau ac i sefyll dros eu hawliau
- Galw am ymchwiliad llawn i farwolaethau diweddar yng Ngharchar EF y Parc, ac i ddod â’r ddarpariaeth carchardai preifat i ben
- Adolygu dedfrydau byr a chefnogi gostyngiad ym mhoblogaeth carchardai yng Nghymru a dull adferol o gyfiawnder yn y gymuned
- Mynd i’r afael â hiliaeth sefydliadol a chasineb at fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, a sicrhau bod menywod a merched yn cael eu credu gan y system cyfiawnder troseddol, a chynyddu nifer yr euogfarnau llwyddiannus am droseddau trais domestig a stelcio
Trafnidiaeth
- Sicrhau bod Cymru yn derbyn y £4 biliwn sy’n ddyledus iddi o HS2 – prosiect i Loegr yn unig - i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus
- Gwladoli a buddsoddi yn ein gwasanaethau bysiau
- Adolygu a gwrthdroi toriadau i gymorthdaliadau, a chynnig cymorth ar gyfer gwasanaethau bysys hyblyg ac ‘ar alw’ lle mae llwybrau bysiau confensiynol yn llai ymarferol
- Cadw’r Pàs Bys i Bobl Hŷn yng Nghymru ac ymchwilio i gynllun tebyg ar gyfer pobl ifanc
- Mynnu ar ddatganoli pwerau dros wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
- Cefnogi buddsoddiad mewn llwybrau teithio llesol a sicrhau bod newidiadau i bolisi ffyrdd yn digwydd ar yr un pryd â mwy o fuddsoddiad yn ein systemau trafnidiaeth gyhoeddus
Democratiaeth
- Creu Comisiwn Cenedlaethol newydd i wella iechyd ein democratiaeth, ymchwilio i’r amrywiaeth lawn o opsiynau ar gyfer dyfodol gwleidyddol ac economaidd Cymru ac ymgysylltu â dinasyddion Cymru mewn trafodaeth barhaus am yr opsiynau hyn
- Paratoi papur gwyrdd am y llwybr tuag at annibyniaeth a pharhau i fynd â’r dadleuon gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd dros annibyniaeth i bob rhan o Gymru
- Datganoli’r hawl i benderfynu ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru – a galw am refferendwm ar annibyniaeth – i Senedd Cymru
- Cyflwyno pleidleisiau yn 16 oed yn etholiadau San Steffan, dileu deddfau adnabod pleidleiswyr newydd a pharhau i bwyso am y bleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer pob etholiad
- Sicrhau cydraddoldeb o ran cynrychiolaeth rhywedd ym myd gwleidyddiaeth ac annog mwy o gynrychiolaeth o unigolion BAME ym myd gwleidyddiaeth
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Arweinydd
Jane Dodds
Blaenoriaethau allweddol
- Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy ac inswleiddio cartrefi i dorri biliau a sbarduno adferiad economaidd cryf
- Gwahardd carthion rhag cael eu rhyddhau i afonydd a moroedd
- Adfer perthynas y DU ag Ewrop
- Cyflwyno system bleidleisio gyfrannol i ethol Aelodau Seneddol
Economi
- Lansio strategaeth ddiwydiannol i roi sicrwydd i fusnesau a’u hannog i fuddsoddi mewn technolegau newydd
- Buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd, arloesedd, hyfforddiant a sgiliau ar draws y DU gyfan i hybu twf economaidd
- Lleihau rhwystrau masnach a meithrin perthnasoedd cryfach â phartneriaid masnachu agosaf y DU
- Gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i ddatblygu polisïau a phartneriaethau ar y cyd i hybu twf ar draws y DU gyfan
- Rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol - gwariant o ddydd i ddydd i beidio â bod yn fwy na'r arian a godir mewn trethi dros y tymor canolig
- Gwrthdroi toriadau treth i fanciau a diwygio treth ar enillion cyfalaf
Costau byw
- Torri biliau ynni gydag ynni adnewyddadwy rhad a chymhellion treth i gyd-fynd â mesurau arbed ynni mewn cartrefi
- Mynd i'r afael â thlodi plant drwy ddileu'r terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau
- Gosod targed o ddod â thlodi dwfn i ben o fewn degawd, a sefydlu comisiwn annibynnol i argymell cynnydd blynyddol mewn credyd cynhwysol i sicrhau bod cymorth yn cwmpasu hanfodion bywyd, fel bwyd a biliau
- Diogelu clo triphlyg pensiwn y wladwriaeth fel ei fod yn codi yn unol â chwyddiant, cyflogau neu 2.5% - pa un bynnag sydd uchaf a sicrhau bod merched a anwyd yn y 1950au yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu digolledu'n briodol
- Cyflwyno Strategaeth Fwyd Genedlaethol i fynd i’r afael â chostau bwyd cynyddol
- Cael cyfraddau morgeisi o dan reolaeth drwy reoli’r economi yn ofalus
GIG a gofal
- Rhoi mwy o gymorth i filiynau o ofalwyr di-dâl, gan gynnwys cynnydd yn y Lwfans Gofalwr
- Cyflwyno ardoll ar elw cwmnïau tybaco i helpu i ariannu gofal iechyd a gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu
- Diogelu plant rhag dod i gysylltiad â bwyd sothach drwy gefnogi awdurdodau lleol i gyfyngu ar hysbysebion awyr agored a chyfyngu ar hysbysebion teledu i’r trothwy ar ôl naw o’r gloch
- Ymestyn yr ardoll ar ddiodydd meddal i ddiodydd sudd a llaeth sy’n uchel mewn siwgr wedi’i ychwanegu
- Rhyddhau amser yr heddlu, lleihau ôl-groniadau yn y llysoedd, mynd i’r afael â gorlenwi carchardai a lleihau’r niwed o gamddefnyddio cyffuriau drwy ddargyfeirio pobl sy’n cael eu harestio am feddu ar gyffuriau at ddefnydd personol i gael triniaeth lle bo’n briodol
- Gwneud profiad gofalu yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
Mewnfudo
- Trosglwyddo pwerau dros fisâu gwaith, myfyrwyr o dramor a lloches o’r Swyddfa Gartref i adrannau eraill
- Buddsoddi mewn swyddogion, hyfforddiant a thechnoleg i fynd i'r afael â smyglo, masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern
- Gweithio gydag Europol ac awdurdodau Ffrainc i stopio’r gangiau sy’n gysylltiedig â chroesi’r Sianel yn anghyfreithlon
- Cael gwared ar gynlluniau i anfon ceiswyr lloches i Rwanda, a darparu llwybrau diogel a chyfreithlon tuag at loches i ffoaduriaid
- Creu uned benodedig i gyflymu penderfyniadau lloches a mynd i’r afael â’r ôl-groniad o achosion
- Caniatáu i geiswyr lloches weithio os ydyn nhw wedi bod yn aros dros dri mis am benderfyniad
Tai
- Adeiladu 380,000 o gartrefi y flwyddyn ar draws y DU gydag o leiaf 150,000 o gartrefi cymdeithasol newydd, gyda 10 o ardd-ddinasoedd a datblygiadau sy’n cael eu harwain gan y gymuned
- Diddymu lesddaliadau preswyl a rhoi cap ar rhenti tir ar lefel enwol
- Cyflwyno rhaglen uwchraddio brys 10 mlynedd i wneud cartrefi’n gynhesach ac yn rhatach i’w gwresogi
- Rhoi terfyn ar gysgu allan o fewn pum mlynedd, a chael gwared ar y Ddeddf Crwydraeth sy’n gwneud sawl math o ddigartrefedd yng Nghymru a Lloegr yn drosedd
Amgylchedd
- Rhoi’r gorau i ollwng carthion mewn afonydd a moroedd drwy drawsnewid cwmnïau dŵr yn gwmnïau budd cyhoeddus a chreu rheoleiddiwr newydd
- Buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy fel bod 90% o drydan y DU yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030
- Cymryd y camau sydd eu hangen i gyrraedd sero net - i roi'r gorau i ychwanegu at gyfanswm y nwyon tŷ gwydr yn yr atmosffer - erbyn 2045
- Ei gwneud yn rhatach ac yn haws i yrwyr newid i gerbydau trydan i leihau allyriadau a llygredd aer
- Gosod targedau rhwymol i wrthdroi dirywiad ein hamgylchedd naturiol
- Cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer poteli a chynwysyddion bwyd a diod, gan weithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau cysondeb ar draws y DU
Addysg
- Hybu niferoedd prentisiaethau drwy ddisodli'r ardoll brentisiaethau bresennol gydag ardoll sgiliau a hyfforddiant
- Adrodd ar lif myfyrwyr rhyngwladol ar wahân i amcangyfrifon o fudo hirdymor
Tramor ac amddiffyn
- Gweithio i wrthsefyll y cynnydd byd-eang mewn awdurdodaeth drwy hyrwyddo’r gorchymyn rhyngwladol rhyddfrydol, sydd wedi'i seilio ar reolau, a chefnogi sefydliadau rhyngwladol fel y cenhedloedd unedig, y Gymanwlad, Nato a’r Llys Troseddol Rhyngwladol
- Cynnal cefnogaeth y DU i Nato a chynyddu gwariant ar amddiffyn ym mhob blwyddyn o'r Senedd, gydag uchelgais i wario o leiaf 2.5% o GDP ar amddiffyn
- Gwrthdroi toriadau i’r Fyddin, gydag uchelgais tymor hwy i gynyddu niferoedd arferol y milwyr
- Sicrhau bargen deg i filwyr sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr
- Cynnal arf ataliol niwclear y DU gyda phedair llong danfor, gan ddarparu ataliad parhaus ar y môr, tra'n ceisio mynd ar drywydd proses ddiarfogi fyd-eang amlochrog
- Rheoli’r broses o allforio arfau i wledydd sydd â hanes o hawliau dynol gwael
Trosedd a chyfiawnder
- Rhoi gwarant gyfreithiol y bydd yr heddlu'n mynychu pob bwrgleriaeth ac yn ymchwilio iddyn nhw’n drylwyr
- Gwell plismona cymunedol, gyda swyddogion yn canolbwyntio ar atal a datrys troseddau – yn enwedig trais rhywiol a throseddau treisgar eraill
- Buddsoddi yn y system cyfiawnder troseddol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad yn y llysoedd
- Gwella adsefydlu mewn carchardai a chryfhau’r broses o oruchwylio troseddwyr yn y gymuned
- Sicrhau bod y broses cyfiawnder troseddol yn cefnogi menywod a merched sydd wedi goroesi trais
- Gwneud casineb yn erbyn menywod yn drosedd casineb a rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar yr heddlu i erlyn pob trosedd gasineb
Trafnidiaeth
- Rhewi prisiau rheilffyrdd a symleiddio’r broses docynnau ar drafnidiaeth gyhoeddus
- Ehangu’r broses o drydaneiddio rhwydwaith rheilffyrdd Prydain, gwella ac ail-agor gorsafoedd a chyflwyno rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr
- Gwella’r seilwaith gwefru ar gyfer cerbydau trydan
- Creu rhwydweithiau beicio a cherdded newydd a chynyddu’r cyllid i gynghorau er mwyn cynnal ac atgyweirio ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio cyfredol
- Buddsoddi mewn ymchwil a datblygu er mwyn gwneud y DU gyda’r gorau yn y byd o ran hedfan di-garbon, a chymryd camau i leihau’r galw am hedfan
- Diwygio trethiant hediadau rhyngwladol i ganolbwyntio ar y rhai sy'n hedfan fwyaf, tra’n lleihau costau i gartrefi cyffredin sy'n cymryd un neu ddau o hediadau dwy-ffordd rhyngwladol y flwyddyn
Democratiaeth
- Cwblhau cam nesaf datganoli yng Nghymru drwy weithredu gweddill argymhellion Silk yn sylweddol drwy leihau nifer y pwerau a neilltuwyd i San Steffan, a chynyddu pwerau benthyg
- Datganoli cyfrifoldeb am wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd i Gymru, gyda chyllid teg a llywodraethiant ar y cyd ar wasanaethau trawsffiniol
- Datganoli pwerau dros gyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau prawf, carchardai a phlismona
- Datganoli Toll Teithwyr Awyr i drin Cymru yn yr un modd â'r Alban a Gogledd Iwerddon a thrin Maes Awyr Caerdydd yn yr un modd â'r meysydd awyr rhanbarthol yn Lloegr
- Cyflwyno cyfansoddiad ysgrifenedig ar gyfer Deyrnas Unedig ffederal gyda lleisiau cryf ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Cyflwyno system bleidleisio gyfrannol i ethol ASau, a rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio a chael gwared ar y cynllun ID i bleidleiswyr ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU
Wales
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Arweinydd
Blaenoriaethau allweddol
Economi
Costau byw
GIG a gofal
Mewnfudo
Tai
Amgylchedd
Addysg
Tramor ac amddiffyn
Trosedd a chyfiawnder
Trafnidiaeth
Democratiaeth
Northern Ireland
Reform UK
Arweinydd
Caroline Jones
Blaenoriaethau allweddol
- Codi lwfans treth personol i £20,000 y flwyddyn a throthwy’r gyfradd 40% i £70,000
- Codi trothwy treth gorfforaeth i £100,000 a thorri’r gyfradd o 25% i 20%, gyda gostyngiad i 15% o flwyddyn tri
- Cael gwared ar y targedau Sero Net
- Gwladoli 50% o’r cwmnïau cyfleustodau allweddol, gyda'r 50% arall yn eiddo i gronfeydd pensiwn y DU
- Sicrhau bod yr heddlu'n canolbwyntio ar atal troseddu a dal troseddwyr
- Sicrhau bod Llu Ffiniau’r DU yn gwarchod ein ffiniau

- Cael gwared ar ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig
- Cyflwyno treth cludo ar-lein o 4%
- Codi’r swm y mae'n rhaid i fusnesau ei ennill cyn codi TAW i £120,000 a dod ag ad-daliad TAW yn ôl i dwristiaid
- Cael gwared ar ddeddfau sy'n niweidio cynhyrchiant, gan gynnwys rhai cyfreithiau cyflogaeth
- Diwygio a symleiddio’r system drethi
Costau byw
- Codi lwfans treth personol i £20,000 y flwyddyn a throthwy’r gyfradd 40% i £70,000
- Caniatáu i gyplau priod drosglwyddo 25% o’u lwfans treth fel na fyddai un person yn talu treth ar y £25,000 cyntaf a enillwyd
- Cael gwared ar TAW ar filiau ynni a thorri toll tanwydd 20c y litr
- Cael gwared ar dreth etifeddiant ar bob ystad o dan £2 miliwn
- Rhoi'r dewis i rieni flaenlwytho budd-daliadau plant ar gyfer plant un i bedair oed, gan roi'r dewis i rieni dreulio mwy o amser gyda'u plant
GIG a gofal
- Rhoi hwb i staffio gyda chyfradd treth incwm sylfaenol o sero ar gyfer staff yn y sector am dair blynedd a hyfforddi staff newydd
- Torri rhestrau aros drwy ddefnyddio darparwyr annibynnol a thramor
- Cyflwyno rhyddhad treth o 20% ar ofal iechyd preifat ac yswiriant iechyd i annog mwy o bobl i ddefnyddio dulliau amgen i’r GIG
- Cyflwyno cynllun talebau i gleifion sy’n eu caniatáu i bobol fynd yn breifat os nad yw terfynau amser am driniaethau yn cael eu bodloni
- Darparu mwy o welyau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a’r GIG yn gyffredinol
- Lansio comisiwn brenhinol i ddyfodol y system gofal cymdeithasol
Mewnfudo
- Rhewi mewnfudo, ar wahân i’r rhai sydd â sgiliau hanfodol fel yn y maes iechyd
- Mynnu fod rhaid bod yn y wlad am bum mlynedd cyn hawlio budd-daliadau
- Cynyddu yswyriant cenedlaethol y cyflogwr i weithwyr dramor o 13.8% i 20% i ran fwyaf o fusnesau
- Allgludo troseddwyr tramor ar unwaith ar ddiwedd eu dedfryd a thynnu dinasyddiaeth oddi ar fewnfudwyr sy’n cyflawni troseddau difrifol
- Gweithredu polisi casglu a dychwelyd i Ffrainc ar gyfer pobl sy’n croesi mewn cychod bach, ar ol gadael y Confensiwn ar Hawliau Dynol
- Creu Adran Fewnfudo, gan gadw'r sawl sy'n cyrraedd yn anghyfreithlon dan glo, a phroses chwim i ddelio ag achosion
Tai
- Diwygio’r system gynllunio a chyflymu’r broses o adeiladu tai newydd ar safleoedd tir llwyd
- Blaenoriaethu pobl leol am dai cymdeithasol nid pobl a anwyd dramor
- Annog mwy o bobl i ddod yn landlordiaid drwy gael gwared ar newidiadau i drethi landlordiaid a gyflwynwyd rhwng 2017-21, dan yr enw Adran 24
- Hybu hawliau rhentwyr drwy wella’r broses o fonitro’r rheolau presennol a thrwy wella prosesau gorfodi ac apelio
- Annog defnydd o dechnoleg adeiladu newydd fel adeiladu modiwlaidd
Amgylchedd
- Cael gwared ar dargedau sero net
- Trethu’r diwydiant ynni adnewyddadwy swm llawn yr arian y mae'n ei dderbyn mewn cymorthdaliadau
- Cyflymu’r broses o chwilio am nwy ac olew ym Môr y Gogledd, ailddechrau pyllau mwyngloddio brig a datgloi cronfeydd nwy siâl
- Adeiladu tyrbinau nwy cylch cyfun o effeithlonrwydd uchel
- Cyflymu’r broses o gomisiynu adweithyddion niwclear
- Adeiladu cronfeydd dŵr newydd a rhoi’r gorau i ryddhau carthion i afonydd a moroedd
Addysg
- Cyflwyno Cwricwlwm 'gwladgarol' sy'n cyflwyno gwersi am Ymerodraeth Prydain ochr-yn-ochr ag esiamplau tu hwnt i Ewrop
- Sicrhau bod yn rhaid i ysgolion gael cyfleusterau toilet o’r un rhyw, a gwahardd 'ideoleg traws-rywiol'
- Cael gwared ar gyfraddau llog ar fenthyciadau i fyfyrwyr ac ymestyn y cyfnod ad-dalu i 45 mlynedd
- Torri cyllidebau prifysgolion sy’n caniatáu rhagfarn wleidyddol neu’n tanseilio rhyddid barn
- Dyblu nifer yr Unedau Cyfeirio Disgyblion fel y gall mwy o fyfyrwyr treisgar ac aflonyddgar gael eu cadw o ysgolion
- Gorfodi prifysgolion i gynnig cyrsiau gradd dwy flynedd
Tramor ac amddiffyn
- Diddymu deddfau sy’n dal i fod yn seiliedig ar reoliadau’r UE a rhoi’r gorau i’r trefniadau masnach newydd ar ôl Brexit, sy’n cael ei alw’n Fframwaith Windsor
- Cynyddu gwariant ar amddiffyn i 2.5% o incwm cenedlaethol erbyn y drydedd flwyddyn ac i 3% o fewn chwe blynedd
- Cynyddu cyflogau ar draws y lluoedd arfog
- Creu Adran Cyn-Filwyr i warchod y rhai sydd yn y lluoedd arfog rhag hawliadau sifil a hawliau dynol
- Torri'r gyllideb Cymorth Dramor o 50%
- Plismona'r moroedd a sicrhau fod llongau bysgod o dramor yn meddu ar drwydded
Trosedd a chyfiawnder
- Cynyddu nifer swyddogion rheng flaen yr heddlu 40,000 dros bum mlynedd
- Cael gwared ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn raddol, a dileu swyddi cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Dull dim-goddefgarwch tuag at droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Cyflwyno dedfrydau oes gorfodol i'r sawl sy'n troseddu'n ddifrifol am yr eildro
- Creu 10,000 o leoedd newydd mewn carchardai dros bum mlynedd
- Newid y dffiniad o drosedd casineb, gan godi'r trothwy cyn bo ymchwiliad yn dechrau
Trafnidiaeth
- Cael gwared ar weddill HS2
- Gwahardd holl Barthau Allyriadau Isel (Ulez) a Chymdogaethau Traffig Isel
- Cyflymu'r seilwaith trafnidiaeth sydd wedi'i gyhoeddi, gan ganolbwyntio ar ardaloedd ger y mor, Cymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr
Democratiaeth
- Gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a diwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol
- Disodli Tŷ’r Arglwyddi gydag ail siambr lai a rhoi’r gorau i benodiadau gwleidyddol
- Cynnal refferendwm ar gyflwyno system bleidleisio gyfrannol ar gyfer Ty'r Cyffredin
- Cyfyngu pleidleisio drwy'r bost i'r henoed, yr anabl a'r sawl sy'n methu gadael y ty, er mwyn atal twyll
- Diwygio'r gwasanaeth sifil drwy gyflwyno penodiadau gwleidyddol o’r sector preifat
- Gwarantu rhyddid gyda Deddf Hawliau Prydeinig
Plaid Werdd Cymru
Arweinydd
Anthony Slaughter
Blaenoriaethau allweddol
- Blaenoriaethu gweithredu ar gyfer adferiad hinsawdd a bioamrywiaeth ar draws ein polisïau am ddull ‘Pontio Teg’, gan gefnogi pobl drwy’r newid
- Cyllid teg i’r GIG yng Nghymru, i warchod ac adfer system GIG a gofal cymdeithasol sy’n gwbl gyhoeddus ac wedi’i hariannu’n briodol, gan gynnwys gofal personol am ddim
- Mynd i’r afael â gorelwa (profiteering), llygredd a biliau uchel yn ein cyfleustodau a’n gwasanaethau cyhoeddus drwy fynd â nhw yn ôl o dan reolaeth y wladwriaeth neu newid i fodel busnes cymdeithasol gyda gofynion cymdeithasol ac amgylcheddol cryf
- Cynyddu Credyd Cynhwysol £40 yr wythnos, cael gwared ar y cap trydydd plentyn, darparu budd-daliadau tecach i'r rhai sy'n dibynnu ar bensiynau'r wladwriaeth, adfer gwerth budd-daliadau anabledd, diwygio profion busneslyd a rhoi’r gorau i dargedu gofalwyr dros fudd-daliadau
- Ymgyrchu dros Gymru annibynnol
- Gweithio tuag at gadoediad yn Gaza ar unwaith, cefnogi cais De Affrica yn y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, rhyddhau’r holl wystlon, rhoi’r gorau i werthu arfau i Israel a chydnabod talaith Palesteina yn llawn

- Helpu pobl gyda’r newidiadau sy’n digwydd mewn cymdeithas drwy ‘Bontio’n Deg’, a’n cefnogi ni i gyd drwy'r argyfwng presennol a'r newidiadau angenrheidiol ar gyfer economi wyrddach
- Gwneud y system nawdd cymdeithasol yn ddigonol gyda chynnydd o £40 yr wythnos i’r credyd cynhwysol, a budd-daliadau tecach i’r rheini sy’n ddibynnol ar bensiwn y wladwriaeth
- Mynd i’r afael â’r niferoedd uchaf erioed o blant mewn tlodi, drwy gael gwared ar y cap budd-daliadau ar gyfer y trydydd plentyn a rhoi’r gorau i drethu pensiwn y wladwriaeth
- Adfer gwerth budd-daliadau anabledd a diwygio profion busneslyd fel PIP (taliadau annibyniaeth personol) a rhoi’r gorau i dargedu gofalwyr a phobl anabl dros fudd-daliadau
- Cyflwyno Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn yr hirdymor i roi cyfle i bawb dechrau neu newid busnes, astudio, hyfforddi a byw eu bywydau mewn urddas
- Cyllid teg i Gymru i alluogi awdurodau lleol i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel

- Hwb ar unwaith i gyflogau staff y GIG, gan gynnwys adfer cyflogau nyrsys a meddygon i helpu i recriwtio a chadw staff
- Mae adfer cyllidebau iechyd y cyhoedd yn allweddol i atal yn gynnar, diagnosis cynnar a gwella ansawdd bywyd, tra hefyd yn lleihau'r baich ar y GIG
- Mynediad i bawb at wasanaeth deintyddol y GIG a chyllid ar gyfer hybiau cymunedol a gofal deintyddol sylfaenol
- Cynyddu’r cyllid ar gyfer gofal iechyd meddwl a therapïau iechyd meddwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gellir cael mynediad atyn nhw o fewn 28 diwrnod
- Cymru i fod yn rhan o gomisiwn y DU-gyfan i gytuno ar ffordd sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ran cymorth ar ddibyniaeth a diwygio cyfreithiau cyffuriau’r DU
Mewnfudo
- Croesawu ac amlygu cyfraniadau mewnfudwyr a ffoaduriaid i gymdeithas
- Rhoi’r gorau i’r ‘amgylchedd gelyniaethus’ a chynnig llwybrau diogel at loches i’r rhai sy’n ffoi rhag erledigaeth
- Caniatáu i'r rhai sy'n ceisio lloches ac amddiffyniad i weithio wrth benderfynu ar geisiadau
- Disodli’r Swyddfa Gartref gydag Adran Fudo newydd sydd ar wahân i’r system cyfiawnder troseddol
- Rhoi’r gorau i gadw mudwyr oni bai eu bod yn berygl i ddiogelwch y cyhoedd
- Amddiffyn y Ddeddf Hawliau Dynol, aelodaeth y DU o Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop a mynediad uniongyrchol parhaus i'w egwyddorion mewn llysoedd domestig
Tai
- Cyflwyno Siarter i ddiogelu mannau gwyrdd ar gyfer cymunedau, lleihau allyriadau hinsawdd a darparu tai gwirioneddol fforddiadwy, ynghyd â’r buddsoddiad sydd ei angen mewn iechyd lleol, trafnidiaeth a gwasanaethau eraill
- Adeiladu o leiaf 12,000 o dai newydd bob blwyddyn yng Nghymru i ddatrys yr argyfwng tai, bydd angen i’r rhan fwyaf fod yn dai cymdeithasol
- Rheoli rhenti yng Nghymru i ddiogelu tenantiaid a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel angen dynol sylfaenol sy’n fforddiadwy i bawb, gan gynnwys yr ‘Hawl i Rentu’ ar gyfer y rhai sy’n cael trafferth gyda thaliadau morgais
- Cynllun ar unwaith i gartrefu pobl ddigartref fel a gyflwynwyd yn llwyddiannus yn y Ffindir
- Sicrhau bod yr holl gynllunio ar gyfer tai newydd yn ystyried effeithiau hinsawdd fel llifogydd yn y dyfodol, yn bodloni safonau amgylcheddol cadarn ac yn cynnwys paneli solar a/neu bympiau gwres ym mhob cartref newydd
- Buddsoddiad mawr mewn effeithlonrwydd ynni ac ôl-osod ynni gwyrdd mewn adeiladau hŷn drwy gynllun Cronfa Economaidd Trawsnewid Gwyrdd
Amgylchedd
- Sefydlu Comisiwn System Fwyd i gynhyrchu bwyd iach, maethlon am brisiau fforddiadwy gyda chyflogau teg i dyfwyr
- Gweithio gyda ffermwyr i gynllunio system daliadau sy’n cefnogi’r broses o bontio tuag at ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur, gan leihau plaladdwyr a chyflwyno atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer problemau fel llifogydd a llygredd
- Sicrhau bod natur sy'n diflannu bob yn dipyn yn dod i ben yng Nghymru drwy gadwraeth a gwella bioamrywiaeth ac iechyd pridd ar gyfer afonydd glanach ac ecosystemau sydd wedi'u hadfer
- Creu Comisiwn newydd ar Warchod Anifeiliaid a Chynefinoedd gyda rheolaethau ar ffermio mewn ffatrïoedd, defnydd arferol o wrthfiotigau ac anffurfio anifeiliaid
- Cael gwared ar yr holl fudd-daliadau olew a nwy a chanslo holl brosiectau tanwydd ffosil newydd ac ynni niwclear newydd
- Cymunedau i elwa o ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol (mae’r maes hwn wedi’i ddatganoli’n rhannol) a datganoli Ystadau’r Goron i gyflenwi refeniw i ddatgarboneiddio a chynhyrchu cynaliadwy yn yr economi leol
Addysg
- Diwygio’r arolygydd addysg Estyn i gefnogi pob plentyn i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i gyrraedd eu potensial wrth ddod â phrofion lle mae llawer yn y fantol i ben mewn ysgolion
- Buddsoddiad anferth mewn adeiladau ysgolion gan gynnwys ôl-osodiadau effeithlonrwydd ynni a gosodiadau ynni adnewyddadwy
- Mynd i’r afael â thlodi plant eang yng Nghymru gyda chinio ysgol maethlon am ddim i bob plentyn gan gynnwys yn ystod y gwyliau
- Gweithio tuag at fodel prifysgol newydd ar gyfer y DU gyfan gan gydnabod addysg uwch ac addysg bellach a dysgu gydol oes i bawb fel grymoedd ar gyfer lles cymdeithasol sy’n hanfodol i ddemocratiaeth
- Cefnogi pob myfyriwr drwy adfer grantiau a diddymu ffioedd dysgu
- Cyllid teg i sicrhau y gall pobl yng Nghymru fyw eu bywydau yn Gymraeg, o'r ysgol, hyd at addysg bellach
Tramor ac amddiffyn
- Ail-ymuno â’r UE fel partner masnachu a gwleidyddol o bwys pan fydd yr amser a’r amodau’n iawn
- Gweithio gyda Nato i roi fwy o bwyslais ar adeiladu heddwch byd-eang sydd ei angen ar gyfer cytundebau hinsawdd ac ymrwymiad i beidio â defnyddio arfau niwclear yn y lle cyntaf
- Cynyddu cymorth rhyngwladol i 1% o incwm gwladol gros (GNI) erbyn 2033 i helpu gwledydd sydd ar reng flaen newid hinsawdd peryglus gyda stormydd difrifol, llifogydd, tirlithriadau a thymheredd yn codi
- Cynyddu cyllid hinsawdd yn ne’r byd i 1.5% o GNI erbyn 2033 gyda £21.6 biliwn ychwanegol y flwyddyn yn cael ei roi gan y gronfa Colled a Difrod hinsawdd newydd
- Parhau i gefnogi Wcráin wrth iddo wrthsefyll ymosodiad Rwsia

- Datganoli cyfiawnder a phlismona yn llawn gyda buddsoddiad mawr i adnewyddu’r system llysoedd a mynd i’r afael â’r ôl-groniad ym maes cyfiawnder
- Adfer ffydd a hyder yn yr heddlu gyda phroses sgrinio a hyfforddiant iawn
- Cael gwared ar ‘Prevent’ a mynd i’r afael â throseddau casineb hiliol, casineb at fenywod, islamoffobia a gwrth-semitiaeth
- Cael gwared ar Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd a mathau eraill o ddeddfwriaeth sy’n erydu’r hawliau i brotestio a rhyddid mynegiant
- Cynnal Strategaeth Weithredu i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben
- Ymgyrchu dros hunan-ID ar gyfer pobl draws ac anneuaidd
Trafnidiaeth
- Cynyddu cymorthdaliadau cyhoeddus blynyddol ar gyfer teithio ar drên a bws gyda theithiau bws am ddim i rai dan 18 oed, gan sicrhau bod pob cymuned yn gysylltiedig ac yn gallu ffynnu
- Dod â seilwaith rheilffyrdd yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus fel gwasanaeth hanfodol, gan helpu i ddatgarboneiddio teithio
- Gwella cysylltiadau trafnidiaeth ar draws Cymru a chefnogi trydaneiddio, gan gynnwys y gallu i wefru cerbydau trydan drwy ddefnyddio cyllid HS2 sy’n ddyledus i Gymru
- Cefnogi strydoedd diogel a theithio llesol gyda buddsoddiad mawr ledled y DU mewn llwybrau beiciau a llwybrau troed
- Atal ehangu capasiti meysydd awyr newydd fel cyfrannwr mawr at newid hinsawdd, ynghyd â gwahardd teithiau awyr domestig ar gyfer teithiau a fyddai’n cymryd llai na 3 awr ar drên
Democratiaeth
- Bydd ASau y Gwyrddion yn pwyso ar y DU i ddod yn ddemocratiaeth fodern, weithredol sydd yn cynrychioli amrywiaeth ein cymdeithasau
- Disodli system y cyntaf i’r felin yn etholiadau San Steffan a chynghorau gyda system bleidleisio cymesur
- Disodli Tŷ’r Arglwyddi gydag ail siambr etholedig
- Dod â’r angen am ID i ben wrth bleidleisio a llygredd gwleidyddol
- Mae Plaid Werdd Cymru yn ymgyrchu am Gymru annibynnol gyda’i gyfansoddiad democrataidd a’i senedd annibynnol ei hun
- Pleidleisiau i bobl ifanc 16 oed a hawliau pleidleisio sy’n seiliedig ar breswylfa