Manylion cwsmeriaid URC wedi'u rhyddhau ar-lein

Undeb Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae manylion personol degau o filoedd o gwsmeriaid Undeb Rygbi Cymru wedi cael eu rhyddhau ar-lein mewn toriad seibr-ddiolgelwch.

Yn ôl gwefan Cybernews, mae manylion bron i 70,000 o aelodau clwb cefnogwyr yr undeb wedi cael eu rhyddhau.

Mae'r manylion yn cynnwys enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn, e-byst a manylion taliadau aelodaeth, meddai'r wefan.

Mae'r undeb wedi cydnabod fod data wedi cael ei ryddhau, ond fod dyblygu yn y manylion, sy'n golygu y bydd llai na 70,000 o gwsmeriaid wedi'u rhyddhau mewn gwirionedd.

Maen nhw'n gwadu bod manylion talu wedi cael eu rhyddhau.

Dywedodd gwefan Cybernews bod eu hymchwilwyr nhw wedi defnyddio dulliau 'het wen' o hacio - sef hacio er mwyn darganfod unrhyw wallau diogelwch ar wefannau sefydliadau, ond heb unrhyw fwriad maleisus.

Dywedodd pennaeth ymchwil diogelwch Cybernews, Vincentas Baubonis, bod goblygiadau diogelwch "difrifol iawn" i ddatgelu data aelodau.

Gallai'r data gael ei ddefnyddio i dargedu pobl mewn ymosodiadau seibr personol, neu i dwyllo dioddefwyr.

Gallai ebyst a rhifau ffôn cwsmeriaid gael eu defnyddio i gymryd rheolaeth o gyfrifon eraill sy'n eiddo i gwsmeriaid URC.

Ychwanegodd Mr Baubonis y gallen nhw hefyd gael eu targedu gyda meddalwedd malseisus, neu fe allai manylion personol rhai gael eu cyhoeddi at ddibenion maleisus.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau i doriad seibr ddiogelwch.

Dywedodd yr undeb fod hynny'n ymwneud â data aelodau o'r clwb cefnogwyr, oedd yn cael eu cadw gan gwmni arall.

Maen nhw'n gweithio gyda'r cwmni arall, a dywedodd URC bod y cwmni yna hefyd yn cynnal ymchwiliad eu hunain.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r data yma bellach wedi cael ei dynnu o'r ffynhonnell ar-lein, ac rydym wedi sefydlu na chafodd unrhyw wybodaeth am gyfrineiriau na manylion talu eu cyfaddawdu.

"Does dim mwy o weithgareddau amheus na gwendidau eraill wedi eu canfod yn systemau URC yn dilyn adolygiad trylwyr o'n holl systemau a phrosesau."