Ymosodiad seibr yn taro gwasanaeth 111 y GIG

  • Cyhoeddwyd
Staff y gwasanaeth 111
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwasanaeth 111 GIG wedi'i heffeithio gan nam cyfrifiadurol sydd wedi effeithio'r DU gyfan

Mae ymosodiad seibr wedi effeithio ar wasanaeth 111 y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae'r gwasanaeth yn un am ddim sy'n darparu cyngor iechyd a mynediad at driniaethau.

Ond mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y nam yn "sylweddol a phellgyrhaeddol", gan effeithio ar bob un o bedair gwlad y DU.

Daeth cadarnhad ddiwedd prynhawn Gwener mai ymosodiad seibr sydd wrth wraidd y nam, sydd wedi effeithio ar allu'r gwasanaeth i gyfeirio cleifion i feddygon teulu y tu allan i oriau arferol.

Tra bod y gwasanaeth yn parhau'n weithredol, mae rhybudd y gall ddefnyddwyr wynebu oedi.

'Prosesau ar waith'

Yn cael ei reoli gan dîm o staff proffesiynol, fel arfer mae'r gwasanaeth yn helpu i drin defnyddwyr neu eu cyfeirio at y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.

Mewn ymateb i'r toriad, dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans bod partneriaid ledled Cymru yn datblygu cynlluniau er mwyn i wasanaethau barhau i weithredu.

Roedd rhybudd y byddai'r penwythnos hon yn brysurach na'r arfer, ond mae'r cyhoedd yn parhau i gael eu hannog i defnyddio'r gwasanaeth dros y wê.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ambiwlans Cymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ambiwlans Cymru

"Mae'r penwythnos yn gyfnod o alw mawr ac mae prosesau wedi'u rhoi ar waith i barhau i ddarparu gwasanaethau," medd y Gwasanaeth Ambiwlans mewn datganiad.

"Mae'r capasiti yn cael ei gynyddu gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru sy'n ateb galwadau 111, a chan fyrddau iechyd lleol sy'n darparu'r gwasanaeth y tu allan i oriau.

"Gall gymryd mwy o amser i alwadau gael eu hateb a diolchwn i'r cyhoedd am eu hamynedd.

"Mae adrannau ambiwlans ac achosion brys yn parhau i fod yn brysur iawn. Mae'n dal yn bwysig amddiffyn y gwasanaethau hyn a dylid parhau i'w defnyddio ar gyfer argyfyngau sy'n peryglu bywyd a rhai difrifol yn unig.

"Diolchwn i'r cyhoedd am eu cefnogaeth a'u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn."

Cadarnhaodd Simon Short o gwmni Advanced, sy'n darparu gwasanaethau digidol ar gyfer y gwasanaeth 111, bod pryderon diogelwch wedi codi fore Iau.

"Mae diogelu gwasanaethau a data yn hollbwysig yn y camau gweithredu sydd gennym ac yr ydym yn eu cymryd," dywedodd.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r GIG a chyrff iechyd a gofal yn ogystal ag ein partneriaid technoleg a diogelwch sy'n canolbwyntio ar adfer pob system dros y penwythnos ac yn ystod rhan gyntaf yr wythnos nesaf."