Posibilrwydd o ailgyflwyno eryrod y môr yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae posibilrwydd y gallai eryrod y môr gael eu hailgyflwyno yng Nghymru.
Dywedodd yr ysgrifennydd materion gwledig, Huw Irranca-Davies, bod "achos cryf dros atgyfnerthu" eu presenoldeb achlysurol.
Mae undebau amaeth wedi mynegi pryderon difrifol, gan alw am asesiad cynhwysfawr o'u heffaith ar anifeiliaid eraill.
Roedd Mr Irranca-Davies yn ymateb i'r cyn-weinidog amaeth Alun Davies a arweiniodd ddadl yn y Senedd yn galw am eu hailgyflwyno a "sicrhau y bydd yr adar hardd hyn yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi, eu hedmygu a’u mwynhau gan genedlaethau’r dyfodol".
Mae'r aderyn yn cael ei adnabod yn Gymraeg hefyd fel eryr cynffonwen ac, yn ôl Geiriadur yr Academi, eryr tinwyn.
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
Eryrod y môr yw adar ysglyfaethus mwyaf Prydain, gyda lled adenydd hyd at 2.5 metr (8.2 troedfedd).
Yn 2023, yn dilyn prosiect ailgyflwyno a lansiwyd gan Natural England oedd yn dod ag adar ifanc o’r gwyllt yn Yr Alban draw i Ynys Wyth, ganwyd eryr y môr yn ne Lloegr am y tro cyntaf ers 240 o flynyddoedd.
Yn ôl Ailgyflwyno’r Eryr Cymru - prosiect gan Brifysgol Caerdydd sy’n darparu tystiolaeth i weld a yw amgylchedd Cymru heddiw yn dal yn addas ar gyfer eryrod - mae eryrod y môr wedi diflannu o Gymru, o ran bridio, ers yr 1830au.
Wrth ganmol y prosiect yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Alun Davies, sy'n cynrychioli Blaenau Gwent: "Rydyn ni'n dysgu ei bod hi'n ddiogel dod ag eryr y môr yn ôl i Gymru.
"Gan ddefnyddio’r ymchwil hwn, mae safle rhyddhau addas yn cael ei geisio ar hyn o bryd, yn ne-ddwyrain Cymru fwy na thebyg, yn y gobaith o sefydlu poblogaeth fridio o chwech i 10 pâr, trwy ryddhau chwech i 12 aderyn ifanc y flwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd."
Er i'r Ceidwadwr Peter Fox ddweud "ei bod yn ganmoladwy i... ymdrechu i ailgyflwyno rhywogaeth lle y gallwn", rhybuddiodd y bydd gan ffermwyr bryderon am eu da byw.
Pwysleisiodd Mr Fox bwysigrwydd "strategaeth ymgysylltu â’r gymuned, i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu manteisio ar y cyfleoedd a allai ddeillio o hyn".
Ymatebodd Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, bod eryrod y môr "yn dal i gael eu gweld dros Gymru o bryd i’w gilydd, ond wrth gwrs dydyn nhw ddim yn byw yma bellach".
"O bryd i'w gilydd, gellir gweld eryr y môr yn hedfan, hela neu'n chwilota yng Nghymru, ac maent yn hanu o boblogaethau yn Ynysoedd Heledd, Iwerddon ac Ynys Wyth.
"Mae'n debygol y gallent aros a bridio pe bai ein cynefinoedd yn fwy croesawgar, ac mae achos cryf dros atgyfnerthu'r presenoldeb blaenorol ac achlysurol hwn gyda gwaith wedi'i dargedu, unwaith y bydd yr amodau'n ddeniadol i eryrod."
Ychwanegodd: "Mae ystyriaethau gofalus i’w gwneud mewn unrhyw gynnig i ailgyflwyno rhywogaethau yng Nghymru, gan gynnwys eryrod.
"Bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw gynnig o’r fath ar ôl ystyriaeth briodol drwy ymgynghoriad cyhoeddus.
"Byddai addasrwydd cynefinoedd a'r effeithiau ar fywyd gwyllt a defnydd tir presennol yn rhan o'r broses benderfynu.
"Fodd bynnag, bydd cydnabod bod Cymru eisoes o fewn cyrraedd eryrod yn helpu’r broses honno."
Wrth grynhoi, dywedodd: "Rwy’n mawr obeithio, un diwrnod, y byddwn yn gallu arsylwi’r adar eiconig, mawreddog hyn uwchben ein hawyr Gymreig unwaith eto."
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru wrth y BBC: "Yn gyffredinol, mae UAC yn gwrthwynebu ailgyflwyno unrhyw rywogaethau a allai achosi difrod uniongyrchol neu anuniongyrchol i fusnesau ffermio.
"Fodd bynnag, pe bai unrhyw ailgyflwyno’n digwydd, dylai ffermwyr gael yr awdurdod i gymryd camau ar unwaith i atal niwed sylweddol, a dylai’r rhai sy’n gyfrifol am yr ailgyflwyno fod yn gyfreithiol gyfrifol am negyddu unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys colledion ariannol."
Dywedodd cadeirydd bwrdd materion gwledig NFU Cymru, Hedd Pugh: “Mae yna bryder gwirioneddol y byddai unrhyw ailgyflwyno’r rhywogaeth hon yn achosi risg i iechyd a lles anifeiliaid ac yn cael effaith ar gynhyrchiant da byw, gydag ŵyn newydd-anedig yn arbennig mewn perygl.
"Mae hefyd yr effaith anhysbys y gallai eryr y môr ei chael ar adar eraill, bywyd gwyllt a rhywogaethau a warchodir."