Sioc wrth i eryr aur lanio ar sil ffenest yn y Rhondda

  • Cyhoeddwyd
eryr aur

Cafodd dynes sioc pan laniodd eryr aur ar sil ffenest ei chartref yn y Rhondda.

Cyhoeddodd Rebekah Norton o Don Pentre luniau o'r aderyn yn syllu drwy ei ffenest ar wefan Facebook ddydd Llun, gan apelio am wybodaeth am y perchennog.

"Oes unrhyw un wedi colli aderyn ANFERTH?" gofynnodd.

Roedd cyffion lledr wedi eu gosod ar goes yr aderyn, ac yn ddiweddarach, nododd Ms Norton ar Facebook ei bod bellach wedi dod o hyd i'r perchennog.

Mae'r eryr aur yn un o adar ysglyfaethus mwyaf ynysoedd Prydain.

Er nad oedd yr aderyn hwn yn byw'n wyllt, mae mudiad gwarchod adar yr RSPB yn amcangyfrif bod 440 o barau o'r adar yn byw ar hyd a lled yr ynysoedd.