Morgan yn gapten eto wrth i Gymru herio De Affrica

Jac MorganFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Mae Warren Gatland wedi enwi Jac Morgan fel capten unwaith eto ar gyfer gêm baratoadol olaf Cymru cyn Cwpan Rygbi'r Byd.

Fe fydd Morgan yn arwain y tîm yn erbyn De Affrica yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn, sydd hefyd yn gweld Alex Cuthbert a Johnny Williams yn dychwelyd.

Yn dilyn yr ornest yn erbyn y Springboks, bydd Gatland yn enwi ei garfan yr wythnos nesaf fydd yn teithio fis Medi i'r twrnament yn Ffrainc.

Yn eu gemau paratoadol eraill fe gollodd Cymru i Loegr yn Twickenham ddydd Sadwrn, ar ôl trechu'r Saeson yng Nghaerdydd y penwythnos cynt.

Dau gap newydd?

Y blaenasgellwr Morgan oedd y capten ar gyfer y fuddugoliaeth honno wythnos a hanner yn ôl, a hynny am y tro cyntaf dros ei wlad.

Mae Cuthbert, Williams a'r mewnwr Kieran Hardy yn chwarae am y tro cyntaf dros Gymru yr haf hwn.

Ymhlith y chwaraewyr sy'n dechrau am y tro cyntaf yn y gemau paratoadol mae'r maswr Dan Biggar a'r bachwr Elliot Dee.

Gallai Teddy Williams a Cai Evans hefyd ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad os ydyn nhw'n dod oddi ar y fainc.

Bydd Cymru'n herio Fiji (10 Medi), Portiwgal (16 Medi), Awstralia (24 Medi) a Georgia (7 Hydref) yn eu gemau grŵp yng Nghwpan y Byd.

Os ydyn nhw'n gorffen yn y ddau safle uchaf ac yn cyrraedd y chwarteri, fe fyddan nhw wedyn yn chwarae un o'r ddau uchaf yng ngrŵp Lloegr, Japan, Yr Ariannin, Samoa a Chile.

Cymru: Liam Williams, Alex Cuthbert, Mason Grady, Johnny Williams, Rio Dyer, Dan Biggar, Kieran Hardy; Corey Domachowski, Elliot Dee, Keiron Assiratti, Ben Carter, Will Rowlands, Dan Lydiate, Jac Morgan, Aaron Wainwright

Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Henry Thomas, Teddy Williams, Taine Basham, Tomos Williams, Max Llewellyn, Cai Evans

De Affrica: W le Roux; C Moodie, J Kriel, D de Allende, C Kolbe; M Libbok, J Hendrikse; S Kitshoff, M Marx, F Malherbe, J Kleyn, RG Snyman, S Kolisi, P-S du Toit, J Wiese.

Eilyddion: B Mbonambi, O Nche, V Koch, F Mostert, M van Staden, D Vermeulen, G Williams, D Willemse.