Lluniau: Sesiwn Fawr Dolgellau 2024
- Cyhoeddwyd
Y penwythnos yma (18-21 Gorffennaf) fe ddychwelodd gŵyl werin y Sesiwn Fawr i dref Dolgellau yn Sir Feirionnydd.
Yn ôl y trefnwyr roedd dros 5,000 o bobl yno i weld mwy na 50 o artistiaid yn perfformio ledled y dref, gyda'r prif lwyfan yng nghefn Gwesty'r Ship.
Dyma'r Sesiwn Fawr fwyaf ers adfywio'r ŵyl a'i symud o'r Marian yn ôl i'r dref.
Ymhlith artistiaid cerddorol prif lwyfan yr ŵyl oedd Eden, Vrï, Steve Eaves, Mared, N’Famady Kouyaté, y cerddor gwerin o Lydaw David Paquet, a’r ddeuawd afro house Raz & Afla.
Felly, dyma gasgliad o'r hyn oedd i'w weld yn Nolgellau yn ystod y Sesiwn eleni.

Roedd 'na bobl o bob oed yn mwynhau'r arlwy oedd i'w gynnig

Mark Roberts 'Mr' oedd yn cloi'r noson ar lwyfan Y Ship ar nos Sadwrn

Profodd perfformiad Raz & Afla i fod yn un hynod o boblogaidd nos Sadwrn

Mae cefn Gwesty'r Ship yn fan sy'n creu awyrgylch unigryw

Celt yn perfformio yn y Clwb Rygbi nos Wener

Ambell beint a mwynhau gyda ffrindiau

Mared Williams a'i band ar lwyfan Y Ship brynhawn Sul

Fe roedd yna gawodydd brynhawn Sadwrn ond wnaeth hynny ddim atal y dawnsio gwerin ar Sgwâr Eldon

Roedd hi hefyd yn pigo bwrw tra'r oedd Fleur de lys yn diddanu ar y Sgwâr

Ian Gwyn Hughes mewn trafodaeth gydag Ywain Myfyr yn Nhŷ Siamas

Pedair yn perfformio yn Eglwys y Santes Fair

Côr Makaton yn perfformio ar lwyfan y Sgwar

Rhai o'r Sesiynwyr mwyaf brwdfrydig yn y rhes flaen

Mae N’Famady Kouyaté'n cyfuno gwahanol ieithoedd a ddiwylliannau yn ei gerddoriaeth. Mae'n wreiddiol o Guinea (Conakry), ond yn byw yng Nghaerdydd bellach, ac yn canu'n Gymraeg

Y Llydawr David Paquet a oedd yn cyfuno cerddoriaeth Celtaidd â cherddoriaeth ddawns bywiog

Ben Dant yn diddanu rhai o'r plant

Eden oedd atyniad olaf y penwythnos ar lwyfan Y Ship

A dyna ddiwedd yr oriel am 'leni... tan flwyddyn nesa', Iechyd Da!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2022