Esgusodwch Fi, Jeremy Miles...

Jeremy Miles wrth ddesgFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'n fwyaf adnabyddus fel Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru ond yn y gyfres newydd o bodlediad Esgusodwch Fi? cawn gyfle i glywed gan Jeremy Miles y person nid y gwleidydd.

Ymunodd â Meilir Rhys Williams ac Iestyn Wyn yn Sgwâr Canolog, Caerdydd ar ddiwrnod Pride Cymru 2023 i siarad am ei blentyndod a'i gyfnod fel dyn ifanc hoyw yn Llundain a'i obeithion i'r dyfodol.

Cerddoriaeth a'r capel yn help ar gyfer y dyfodol

“Roeddwn i’n hapus iawn yn yr ysgol pan o’n i’n fach, o’n i’n joio,” eglura wrth sôn am ei gyfnod yn Ysgol Gymraeg Pontarddulais (Ysgol Bryn Iago erbyn hyn.) “Ro’n i’n eitha’ boring fi’n credu fel disgybl! Dim unrhyw hanesion rhy ddramatig. O’n i’n mwynhau ysgol.”

Creda fod y cyfleoedd a gafodd yn yr ysgol wedi cyfrannu at y math o waith mae’n ei wneud heddiw, a daeth llawer o rheiny gydag un o’r pethau yr oedd yn ei fwynhau fwyaf sef cerddoriaeth: “Ro’n i’n eitha cerddorol. Ro’n i’n chwarae ym mand pres y pentref oedd yn ddiddorol achos o’n i cwrdd â phobl wahanol i fyd yr ysgol ac roedden ni hefyd, fel teulu, yn mynd i’r capel so o’n i’n cael loads o gyfleoedd i wneud pethau cyhoeddus ar lwyfan, ar blatfform yn gynnar iawn.

Ffynhonnell y llun, Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Ar ymweliad diweddar ag ysgol fe gafodd Jeremy gyfle i ailgydio yn y corn

"’Nes i ddechrau off yn canu’r cornet ond wedyn nes i ‘arbenigo’ fel petai, mewn chwarae’r bariton a’r iwffoniwm. O’n i’n hoffi fe’n fawr iawn, so o’n i’n chwarae ‘da’r band lleol  – bob nos Sul o’n i’n ymarfer.

"O’n i’n teithio dros dde Cymru i lefydd yn y cymoedd fydden i byth wedi bod iddyn nhw o’r blaen i gystadlu mewn contests bandiau pres – oedd yn eitha cyffrous ar un lefel. ‘Nes i hefyd chwarae gyda Band Pres Gorllewin Morgannwg pan oedd hwnnw’n beth a hefyd am flwyddyn nes i chwarae gyda Band Pres Cenedlaethol Cymru.”

Ffynhonnell y llun, Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles yn ŵr ifanc

Yn anffodus, meddai, dydy o ddim wedi parhau gyda chanu offerynnau gan iddo roi’r gorau iddi pan aeth i’r brifysgol yn Rhydychen i astudio’r gyfraith. Felly beth ysgogodd y newid trywydd a dewis gwleidyddiaeth?

“Pan o’n i’n gyfreithiwr ifanc o’n i’n byw yn Llundain. O’n i’n byw yno am ryw ugain mlynedd a thrwy gydol y ddegawd gyntaf bydden i’n dweud o’n i’n weithredol iawn yn wleidyddol yn Llundain. Oedd e’n fwy o ddarganfod beth o’n i’n teimlo oedd, falle, beth ddylsen i wedi bod yn ‘neud. Dyna beth oedd e, yn hytrach na mynd ar drywydd hollol wahanol.

"Oedd e’n rhannol ynghlwm â’r gwaith cyfreithiol o’n i’n ei wneud achos o’n i’n gwneud lot o waith gyda law centres yn darparu cyfraith am ddim i bobl oedd angen help. Felly ro’n i’n gweld ar lawr gwlad bod angen help ar bobl a roedd hynny’n cydsynio efo fy ngwleidyddiaeth i.

Cydraddoldeb a chynwysoldeb yn hollbwysig

"O’n i hefyd yn gwneud lot o waith yn nwyrain Llundain gyda chriw o bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol oedd moyn bod mewn byd gwleidyddol, cyfreithiol ond doedd dim y rhwydwaith, a dim y map ganddyn nhw i wneud hynny. So, o’n i’n eu mentora nhw a ‘roedd hynny hefyd yn rhan o’r ysgogiad i benderfynu gwneud rhywbeth gwleidyddol.

"Doedd gen i byth yr hyder, i fod yn gwbl onest, i wneud y dewis hynny. O’n i jest ddim yn meddwl bod gennyf fi’r atebion i bopeth. ’Nes i gael rhyw fath o flash o ddealltwriaeth rhywbryd mae hi, actually, yn iawn i ddweud bod ganddoch chi ddim yr atebion i bopeth ac mai’r peth sydd wir yn bwysig yw’r gwerthoedd sydd gyda chi a’ch parodrwydd i wneud rhywbeth amdano fe, a’r gallu i fod yn agored i ofyn y cwestiynau iawn. ‘Naeth hynny gael perswâd arnaf, dweud y gwir, i newid trywydd.”

Ffynhonnell y llun, Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles gyda Mark Drakeford yn Pride Cymru 2022

Ac o ran y gwerthoedd hynny, mae’n dweud mai rhoi cyfleoedd teg a sicrhau bod cymdeithas a’r byd addysg yn gynhwysol i bawb ydy’r prif rai. Er ei fod o’n gwybod ei fod yn hoyw yn ei arddegau, doedd ysgolion ar y pryd ddim yn arddel unrhyw fater LHDT ac erbyn ei gyfnod yn y brifysgol roedd y llywodraeth yn ceisio gweithredu cyfraith Adran 28 – cyfraith a oedd yn gwahardd unrhyw drafodaeth am gyfunrywioldeb mewn ysgolion.

Dim cynrychioliaeth yn yr ysgol

“O’n i’n gwybod sut brofiad oedd bod yn yr ysgol heb unrhyw adlewyrchiad [o fy hunaniaeth] ac yna bod y llywodraeth yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ormesu plant a phobl ifanc oedd yn cwestiynu - neu arddegwyr oedd yn hoyw.

"Mae hynny yn rhywbeth hollol extraordinary – bod llywodraeth yn mynd allan o’i ffordd i ffendio ffordd ddyfeisgar newydd o wneud bywyd rhywun ifanc yn llai esmwyth. Felly roedd hynny’n rhywbeth o’n i’n ei wrthwynebu’n ffyrnig iawn. Ac mae cysgod hwnnw wedi cael ei daflu yn hir dw i’n credu. Wrth gwrs ‘dyw Secion 28 ddim yn gyfraith bellach ond mae ei effaith e wedi bod yn andwyol iawn am gyfnod.”

Ffynhonnell y llun, Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Gorymdeithio yn Pride Cymru 2023

Ar y pryd fe brotestiodd yn erbyn gyfraith honno. Daeth Jeremy allan yn y brifysgol a dywedodd ei fod yn anodd iawn ar y pryd ond bod elfen wleidyddol wedi bod yn rhan o’i benderfyniad i ddod allan:

“Oedd angen i mi fod yn glir gyda fy hunan a hefyd gyda ffrindiau, ac yn y pendraw gyda theulu am bwy oeddwn i. O’n i’n teimlo fod popeth ynghlwm, rili, yr elfen wleidyddol a’r elfen bersonol.”

Ffynhonnell y llun, Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Miles allan yn ymgyrchu

“Dw i’n falch fy mod i wedi cael fy ethol fel gwleidydd allan, hoyw a bod fy mhrofiad i o weithio gyda phobl yn yr etholaeth yn dangos i mi fod pobl ddim yn hidio. ‘Dyw e ddim yn big deal i’r rhan fwyaf o bobl ac rwy’n teimlo’n falch am hynny.

"Nid bo’ fi wedi gwneud unrhyw beth ond ‘wy jyst yn teimlo’n falch bod cymdeithas wedi symud ymlaen gymaint achos bydden i byth wedi teimlo hynny pan oeddwn i’n wleidyddol weithgar ac am wn i yn meddwl ‘alla i ddim â bod yn actual gwleidydd achos does dim gwleidyddion hoyw i gael.’ Bydde fe jest yn rhy anodd. Wel, ‘dyw hynny ddim yn wir.

"Ond ‘dyw jest bod yn wleidydd hoyw ddim yn ddigon. Nid dyna’r job, y job yw gwneud rhywbeth gyda fe. A dyna pam mae’r gwaith dw i’n ceisio’i wneud yn teimlo’n bwysig.”

Disgrifiad o’r llun,

Iestyn, Jeremy a Meilir ar ddiwrnod recordio'r podlediad

Gallwch wrando ar y bennod gyfan o Esgusodwch Fi? gyda Jeremy Miles ar BBC Sounds.