Ofnau y bydd siop Penrhiw-llan yn cau yn sgil datblygiad

Plant yn protestio
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth 50 o bobl brotestio yn erbyn ehangu palmant ym Mhenrhiw-llan, Ceredigion fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder yng Ngheredigion y gallai siop leol gau oherwydd datblygiad ffordd.

Yn ôl perchnogion Siop Popeth ym Mhenrhiw-llan mae codi palmant newydd ger datblygiad tai yn golygu na fydd cwsmeriaid yn gallu parcio ac fe fydd hynny’n arwain at ostyngiad sylweddol mewn incwm.

Roedd dros 50 o bobl o’r pentref a’r ardal gyfagos yn protestio yn erbyn y datblygiad fore Mawrth.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion y "bydd y gwelliannau arfaethedig i'r ffyrdd a'r llwybrau troed yn y lleoliad hwn yn sicrhau buddion diogelwch ar y ffyrdd, nid yn unig i ymwelwyr â'r siop, ond hefyd i'r gymuned ehangach a defnyddwyr eraill y ffordd".

'Fe fydd y siop yn gorfod cau'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Julie a Dara Miller yn pryderu am ddyfodol eu busnes oherwydd y datblygiad

Mae dros 300 o bobl wedi arwyddo deiseb yn Siop Popeth yn gwrthwynebu ehangu’r palmant.

Mae’r perchnogion Julie a Dara Miller yn poeni am effaith y datblygiad ar eu busnes.

“Ma gyda ni lorïau yn ceisio dod â nwyddau i ni a ma' nhw’n gyrru am nôl lan y lôn fach ar ochr y siop, neu yn parcio tu fas. Ond fe fydd y pafin newydd yn achosi trafferthion.

"Problem arall fydd parcio i’n cwsmeriaid sydd yn parcio ar ochr y ffordd.

"Os nad y’n nhw’n gallu parcio, bydd gyda ni ddim cwsmeriaid.

"Os nad yw’r lorïau’n gallu dod â nwyddau, wedyn bydd gyda ni dim byd i werthu i bobol.

"Os yw hynny’n digwydd fe fydd y siop yn gorfod cau.”

Pryder am ddamweiniau

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Enfys Davies yn un o'r rhai fu'n protestio

Roedd nifer o'r bobl oedd allan yn protestio fore Mawrth yn dweud bod nifer yn y gymuned yn poeni am ehangu'r palmant. Yn eu plith roedd Enfys Davies.

“Gyda’r palmant yn dod mas cymaint i’r ffordd ma' ofn arnai bydd e’n achosi damweiniau," meddai.

"Does dim damweiniau yma ar hyn o bryd, ond gall hyn i gyd arwain ymlaen at ddamweiniau.

“Peth arall yw bod y pafin yn dod mas i drio arafu’r traffig. Ond ma' gyda ni yn y pentre’ nawr y cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr felly dyw hwnna ddim yn berthnasol erbyn hyn.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffred Jones yn credu y bydd y palmant newydd yn achosi trafferthion i draffig lleol

Fe dyfodd Ffred Jones lan ym Mhenrhiw-llan, ond mae e bellach yn byw ryw bum milltir bant yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae e hefyd yn poeni am y datblygiad.

“Sgwâr bach yn ddansierus yw e, ond fe fydd hi lawer gwaeth nawr. Pan fydd y traffig yn dod o’r ochr draw i fynd am Croes-lan fyddan nhw ddim yn gweld [y palmant newydd] tan bod hi last minute a wedyn fydd hi too late.

“Ma nhw’n mynd i fwrw fe a dyna gyd fyddwn ni’n clywed yw bod rhywun wedi mynd dros ei ben e.”