Yr actor Martin Clunes yn un o brif feirniaid y Sioe Fawr eleni

Martin ClunesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Sioe Frenhinol wedi cyhoeddi y bydd un o actorion mwyaf adnabyddus y sgrin fach ym Mhrydain yn beirniadu ym mhrif bencampwriaeth y ceffylau yn y Sioe Fawr eleni.

Mae Martin Clunes, sy'n enwog am chwarae rhan Gary Strang yng nghyfres 'Men Behaving Badly' a'r prif gymeriad yn Doc Martin hefyd yn hoff iawn o geffylau.

Mae eisoes yn gadeirydd y Gymdeithas Geffylau Prydeinig, ac eleni bydd yn beirniadu yn y brif gystadleuaeth ceffylau yn Llanelwedd.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymdeithas y Sioe Frenhinol, sydd hefyd yn sylwebu yn y cylch ceffylau yn y Sioe, Nicola Davies ar raglen Dros Frecwast fod "pawb yn edrych ymlaen yn fawr".

Martin ClunesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martin Clunes yn cadw ac yn marchogaeth ceffylau

"Mae pawb yn ei ystyried fel actor ond mae gan bob actor fywyd y tu fas i actio, eu bywyd preifat. Mae'n magu ceffylau Clydesdale sef ceffylau gwaith, mae o hefyd yn marchogaeth ac felly mae ganddo dipyn o brofiad. Mae'n braf gallu rhoi ychydig o sioc i bobl a bod yr enw yn codi gwên.

"Rydyn ni yn trio, ar gyfer ein prif bencampwriaethau i ddenu enwau mawr, enwau sydd hefyd â diddordeb ac adnabyddiaeth o geffylau - does dim pwynt cael enwau mawr sydd ddim yn deall unrhyw beth am geffyl.

"Dwi'n credu ei fod e'n denu diddordeb, mae gan bobl ddiddordeb mewn beth mae e am ei wneud, ydy e am fynd am y ceffyl marchogaeth, ydy e am fynd am y ceffyl gyrru neu geffyl yn y llaw?

"Ni wedi cael enwau mawr, ni wedi cael Carl Hester o'r blaen, sydd wedi ennill yn y gemau Olympaidd a Richard Johnson, joci sydd wedi ennill Cheltenham, ond y tro hyn - actor adnabyddus," meddai.

Nicola Davies
Disgrifiad o’r llun,

Nicola Davies yw Cadeirydd Cyngor Cymdeithas y Sioe Frenhinol

Mae'r gystadleuaeth fawreddog yn coroni'r ceffylau a'r merlod gorau gyda miloedd yn ceisio cipio'r wobr.

Ychwanegodd Nicola Davies: "Mae tua 2500-3000 o geffylau yn y catalog, felly mae angen dewis y gorau o'r miloedd yna. Mae'n dipyn o fraint ac mae'n dipyn o gyfrifoldeb, ond mae pob beirniaid hyd yn hyn wedi mwynhau.

Mewn datganiad yn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Martin Clunes ei bod hi'n "fraint fawr cael fy ngwahodd i feirniadu.

"Mae'r sioe yn un o uchafbwyntiau'r calendr amaethyddol a marchogaeth, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld safon uchel y ceffylau fydd yn cael eu harddangos," meddai.

Bydd y sioe eleni yn cael ei chynnal yn Llanelwedd rhwng 21-24 o Orffennaf, ac yn ôl Nicola mae'r trefniadau yn prysur fynd yn eu blaenau, ac fe soniodd pa mor falch oedden nhw fel cyngor fod Martin Clunes wedi cytuno i feirniadu yno eleni.

"Dwi'n credu mai ni yw'r sioe gyntaf sydd wedi ei gael i feirniadu, mae'n sioe sy'n adnabyddus iawn, ac os y'ch chi mo'yn beirniadu'r gorau, mae'n rhaid i chi ddod i Sioe Frenhinol Cymru, wrth gwrs."

Pynciau cysylltiedig