Rhyddhau dyn yn ddigyhuddiad wedi marwolaeth dynes ar fferi

Llong StenaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth heddlu Iwerddon ar fwrdd y llong ar ôl iddi ddocio yn Harbwr Rosslare dydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei arestio ar ôl i ddynes farw ar fferi o Gymru i Iwerddon wedi cael ei ryddhau yn ddigyhuddiad.

Bu farw'r ddynes ar y fferi 14:00 Stena Line o Abergwaun i Rosslare dydd Mawrth.

Cafodd y Gardaí (heddlu Iwerddon) a gwasanaethau brys eraill eu galw toc wedi 17:00 i "farwolaeth anesboniadwy" ar y fferi a oedd wedi'i docio yn Harbwr Rosslare.

Aeth plismyn ar fwrdd y llong ac fe gyhoeddwyd yn ddiweddarach bod y ddynes wedi marw.

Mae prawf post-mortem wedi ei gwblhau, ond dyw'r canlyniadau ddim yn cael eu rhyddhau "am resymau gweithredol", meddai'r llu.

RosslareFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y fferi yn teithio o Abergwaun i Harbwr Rosslare

Yn ôl cwmni darlledu RTÉ, roedd capten y fferi wedi gwneud galwad argyfwng tua hanner awr cyn cyrraedd terfyn y daith.

Roedd swyddogion arfog y Gardaí a gwasanaethau brys eraill yn rhan o'r ymateb.

Cafodd gwasanaeth fferi 19:00 o Rosslare ei ganslo nos Fawrth, gyda theithwyr wedi hwylio ar fferi Irish Ferries o Rosslare i Benfro, yn ôl y cwmni.

Mewn datganiad, dywedodd Stena Line ddydd Mercher: "Gallwn gadarnhau bod y Garda Síochána yn ymchwilio i ddigwyddiad ar y fferi 14:00 o Abergwaun i Rosslare ddydd Mawrth 25 Chwefror.

"Er mwyn cynorthwyo gydag ymchwiliad y Garda, cafodd hwyliau Stena Nordica am 19:30 a 01:30 neithiwr eu canslo.

"Mae'r fferi heddiw am 08:30 o Rosslare ac yr un sy'n dychwelyd o Abergwaun am 14:00 hefyd wedi'u canslo.

"Ar yr adeg hon, bydd ymadawiad nesaf Stena Nordica am 19:30 o Rosslare."

Pynciau cysylltiedig