O Bowys i'r Brutalist - y Cymro tu ôl i'r camera yn Hollywood

- Cyhoeddwyd
Mae sinematograffwr o Bowys sydd bellach yn gweithio yn Los Angeles wedi bod yn edrych nôl ar ei yrfa o 25 mlynedd yn y diwydiant, a hynny ar ôl derbyn enwebiad yn yr Oscars.
O wrando ar Bob Dylan "On a Welsh hillside" i astudio ffotograffiaeth fel pwnc Lefel-A, a saethu tirweddau hynod eiconig mewn ffilmiau modern, mae Lol Crawley wedi gweld newid mawr yn y diwydiant.
Mae ei ffilm ddiweddaraf, The Brutalist, am oroeswr yr Holocost a ymfudodd i'r Unol Daleithiau.
Ac wrth iddo baratoi ar gyfer ei enwebiad Oscars cyntaf, mae Crawley yn edrych yn ôl ar ei flynyddoedd yng Nghymru â balchder.
'Ro'n ni wir eisiau gweld ffilm arswyd'
Cafodd ei fagu yn Llansanffraid-ym-Mechain, Powys, ac roedd wrth ei fodd yn gwylio ffilmiau gyda'i dad.
"Dwi'n cofio mynnu i fy nhad fy neffro i wylio An American Werewolf in London. Ro'n ni siŵr o fod yn rhy ifanc ar ei gyfer... ond ro'n ni wir eisiau gweld ffilm arswyd," meddai.
Roedd dyfodiad Channel 4, ac yn benodol cyfres Road Dreams am deithiau ar hyd America, "wedi dylanwadu'n fawr" arno.
Fel nifer o blant Cymreig, cafodd ei fagu i sain cerddoriaeth, ac roedd yn teimlo cysylltiad agos â cherddoriaeth.
Dywedodd: "Mae 'na harddwch gwirioneddol a llonyddwch i dirwedd [yng Nghymru] a dwi'n cael fy atynnu tuag at dirweddau."
Fe astudiodd Crawley yn y coleg yn Wrecsam, ac yna astudio cynhyrchu i'r cyfryngau yn y brifysgol, cyn symud i Los Angeles yn 2019.
Ei ffilm gyntaf oedd The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain a oedd wedi ei saethu yng Nghymru, nepell o'i filltir sgwâr.
Roedd Hugh Grant yn serennu yn y ffilm honno.

Mae sinematograffydd yn gyfrifol am sut mae ffilm yn edrych, meddai Crawley.
Maen nhw'n gweithio'n agos gyda chyfarwyddwyr a'r adrannau goleuo a chamerâu.
"Pob dydd mae gennym ni swm penodol o olygfeydd y mae'n rhaid i ni eu gwneud," meddai.
Ffilmiwyd The Brutalist - stori goroeswr Holocost o Hwngari sy'n ymfudo i'r Unol Daleithiau sydd wedi'i gyfarwyddo gan Brady Corbet gydag Adrien Brody, Felicity Jones a Guy Pearce yn serennu - yn Budapest dros 33 diwrnod ar gyllideb o tua $10m.
"[Mae'n] swnio fel llawer, ond o ystyried pa mor fawr yw cwmpas y ffilm, a pha mor hir ydyw, mae'n amserlen a chyllideb eithaf cymedrol," meddai.
Pob dydd fe fyddai'r actorion yn treulio oriau gyda'r cyfarwyddwr ar y set tra bod Crawley yn eistedd yn dawel yn y gornel, yn gweithio allan sut mae modd saethu'r golygfeydd orau.
"Mae'n ymwneud â symudiadau'r actorion a'r camera... sawl shot ydyn ni angen i adrodd y rhan hon o'r stori, sut ydw i am ei oleuo," meddai.
Dywedodd mai'r cyfnod byrraf iddo saethu rhywbeth oedd 21 o ddiwrnodau ar Vox Lux - ffilm gyda Natalie Portman wedi ei lleoli yn Efrog Newydd.
"Yr hiraf oedd siŵr o fod tua 80 diwrnod neu rhywbeth, Mandela yn ne Affrica," meddai.

Dywedodd fod y stori a'r bobl yn greiddiol wrth ddewis prosiect, yn enwedig os oes rhaid iddo adael ei gartref yn LA, lle mae'n byw gyda'i wraig, y cynhyrchydd ffilm a theledu Annie Marter.
Er ei fod yn aml yn dod ar draws sêr y diwydiant, dywedodd ei fod yn dal yn cael ei synnu wrth weld rhai ohonyn nhw.
"Dwi'n ffan enfawr o Bob Dylan a dwi wedi bod ers 'mod i'n rhyw 10 oed, yn tyfu i fyny yng Nghymru yn gwrando ar ei albwms oedd gan fy nhad.
"Dwi wedi gweithio gyda fe ddwywaith nawr, a phob tro dwi syfrdanu ac yn ffeindio fy hun yn syllu arno," meddai.
Diwydiant ffilm Cymru 'yn ffynnu'
Mae wedi dychwelyd i Gymru i ddangos yr ardal lle cafodd ei fagu i'w wraig, a chwrdd â hen ffrindiau.
Dywedodd y byddai'n "hoffi dod 'nôl yn amlach".
"Byddai'n wych gallu dod 'nôl a ffilmio rhywbeth yng Nghymru, ac mae 'na ddiwydiant ffilm sy'n ffynnu yma. Felly pwy a ŵyr?"
Ar hyn o bryd, dywedodd mai ei obaith yw i "gofleidio" hynt a helynt cyfnod yr Oscars.