Lansio clwb newydd 'cyffrous' gyda chysylltiad Cymreig yn y Wladfa

Clwb Gwawr yr AndesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfarfod cyntaf Clwb Gwawr yr Andes ei gynnal yr wythnos hon

  • Cyhoeddwyd

Mae clwb newydd sbon, a'r cyntaf o'i fath, wedi cael ei lansio ym Mhatagonia yr wythnos hon.

Trwy sefydlu Clwb Gwawr yr Andes, dyma'r tro cyntaf erioed i glwb â phartneriaeth swyddogol gael ei sefydlu rhwng cymunedau Cymreig Patagonia a Merched y Wawr.

Dywedodd Lois Medi Wiliam, trefnydd y digwyddiad fel swyddog datblygu menter, ei bod yn "edrych ymlaen yn fawr i weld y clybiau yn datblygu ac yn mynd o nerth i nerth".

Mae sefydlu'r clwb yn ddatblygiad "cyffrous iawn" meddai Tegwen Morris, cyfarwyddwr cenedlaethol Merched y Wawr Cymru.

Lois WiliamFfynhonnell y llun, Lois Wiliam
Disgrifiad o’r llun,

Lois Medi Wiliam, yn ei rôl fel swyddog datblygu menter ar ran Cymdeithas Cymru, sydd wedi trefnu i lansio'r clwb

Y bwriad, meddai Lois wrth Cymru Fyw, ydy sefydlu dau Glwb Gwawr - yr un yma yn yr Andes, ac un arall yn Nyffryn Camwy a fydd yn cael ei lansio'n fuan.

Mae cymunedau'r Andes wedi'u gefeillio â threfi yng Ngheredigion - tref Esquel gydag Aberystwyth, a Threvelin gydag Aberteifi.

Y gobaith felly yw y bydd y clwb yn perthyn i ranbarth Merched y Wawr Ceredigion, ac mae gobaith tebyg ar gyfer dyfodol clwb y Dyffryn, ond gyda chysylltiad â gogledd Cymru.

Dywedodd Lois ei bod yn "hynod gyffrous" eu bod yn cryfhau'r cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng cymunedau yng Nghymru a Phatagonia.

'Datblygu cyfle uniongyrchol i ferched'

Fel swyddog datblygu menter, gweithio ar ran Cymdeithas Cymru mae Lois, gan ganolbwyntio ar greu a threfnu amryw o weithgareddau.

Ar gyfer y cymdeithasau Cymreig yn y Wladfa y mae'r rhain, ac fe sefydlodd Lois gôr merched ar gyfer Eisteddfod Trevelin ym mis Mawrth.

"Doedd dim cyfle uniongyrchol i ferched o'r ddwy ardal ddod ynghyd i gymdeithasu'n Gymraeg" cyn hynny, meddai.

O hynny y daeth yr ysbrydoliaeth iddi sefydlu Clwb Gwawr, er mwyn "datblygu'r cnewyllyn yma ac ymestyn y cyfle i gymdeithasu'n Gymraeg i ferched eraill".

Yn y cyfarfod cyntaf yr wythnos hon, roedd sgwrs 'Caergwrle i'r Cwm' gan Clare Vaughan - tiwtor Cymraeg ardal Wrecsam yn wreiddiol, ond sydd wedi bod yn byw a gweithio ym Mhatagonia ers blynyddoedd.

Bu'n trafod cael ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam eleni, a hefyd am ddysgu Cymraeg fel ail iaith.

Soniodd Clare Vaughan am ei phrofiad o gael ei hurddo i’r Orsedd yn Wrecsam eleni, ac am ddysgu Cymraeg fel ail iaithFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Soniodd Clare Vaughan yn y cyfarfod cyntaf am ei phrofiad o gael ei hurddo i'r Orsedd yn Wrecsam eleni

Er mai Clwb Gwawr ydy'r bartneriaeth swyddogol gyntaf, mae cysylltiad Merched y Wawr gyda'r ardal yn bodoli ers blynyddoedd.

Dywedodd Tegwen Morris, cyfarwyddwr cenedlaethol Merched y Wawr, fod "amryw o gysylltiadau diddorol wedi bod".

Esboniodd bod "nifer o'n haelodau wedi ymweld â Phatagonia, a sawl un wedi mynd â rhifynnau o gylchgrawn Y Wawr, Bagiau a deunyddiau allan i'r gwragedd a'r plant".

"Dros y blynyddoedd hefyd rydym wedi croesawu sawl ymwelydd o Batagonia - nifer ohonynt wedi bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill yn sgil Cymru a'r Byd."

Tegwen Morris
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Tegwen Morris ei bod yn "gyffrous iawn" gweld Clwb Gwawr yn cael ei sefydlu ym Mhatagonia

"Bu hefyd clwb a changen o Ferched y Wawr yn gefeillio," meddai Ms Morris, ond nid rhywbeth ffurfiol hir dymor.

"Mae'n gyffrous iawn i weld fod Lois yn mynd ati i sefydlu Clwb Gwawr."

Diolchodd hefyd i Menna Edwards, Cymdeithas Cymru-Ariannin, a Bethan Picton Davies, Is-lywydd Merched y Wawr, "am ymuno... i drafod y posibiliadau".

Ychwanegodd Ms Morris ei bod yn dymuno'n dda i'r criw ym Mhatagonia, a'i bod yn edrych ymlaen at glywed yr hanes.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig