Plannu 1,500 cennin Pedr i ddathlu gwreiddiau Cymreig Patagonia

Cafodd y cennin Pedr eu plannu 160 mlynedd ar ôl i'r ymsefydlwyr Cymreig cyntaf deithio i Batagonia
- Cyhoeddwyd
Mae disgynyddion y Cymry a ymfudodd i Batagonia 160 o flynyddoedd yn ôl wedi plannu 1,500 o gennin Pedr er cof am eu treftadaeth.
Yn 1865, teithiodd tua 150 o ymfudwyr o Gymru ar long o Lerpwl i Borth Madryn yn yr Ariannin - taith a gymrodd deufis.
Sefydlon nhw gymunedau Cymraeg eu hiaith mewn tir anial ac anodd, ac mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yno hyd heddiw.
Dywedodd David Mardones, un o'r rhai a helpodd i blannu'r bylbiau yn ardal Trevelin, fod y fenter yn ffordd o "atgyfnerthu diwylliant Cymreig" yn y rhanbarth.

Mae David Mardones a'i fodryb Peca Jones yn dweud eu bod nhw'n hynod falch o'u cysylltiadau â Chymru
Daeth y syniad gan ei fodryb, Peca Jones, sy'n perthyn i rai o'r Cymry cyntaf a gyrhaeddodd y wlad.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan artistiaid Cymreig, cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam, ac ymwelwyr blaenorol â Phatagonia.
"Fe gymrodd e ddau ddiwrnod i ni blannu'r bylbiau," meddai David.
"Doedd gennym ni ddim peiriannau – dim ond rhaw i gloddio rhychau hir."
Mae disgwyl i'r cennin pedr ddechrau blodeuo ym mis Hydref, gan nodi dechrau'r gwanwyn yn yr Ariannin.

Daeth y syniad gan Peca Jones - disgynnydd o'r ymsefydlwyr Cymreig cyntaf yn yr ardal
Mae David wedi trefnu seremoni agoriadol swyddogol i ddathlu pen-blwydd y daith hanesyddol yn 160 oed, gyda pherthnasau'r ymfudwyr gwreiddiol, y gymuned leol a'r Ysgrifennydd Twristiaeth yn cael eu gwahodd.
"Bydd yn ddigwyddiad mawr i ddiolch i bawb am eu cefnogaeth a'u cariad tuag at y prosiect," meddai.
Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i blannu mwy o gennin Pedr y flwyddyn nesaf.
"Gobeithio bydd gennym ni beiriant drilio erbyn hynny – byddai fy nghefn yn gwerthfawrogi hynny!" ychwanegodd David.

"Rwy'n siŵr y gwelwn ni dwristiaid o Gymru yn dod i weld y blodau," meddai Gwion - yma gyda'i wraig Nia a'u merch
Mae Gwion Elis-Williams, a symudodd o Gymru i Batagonia yn 2016, a'i bartner Nia, sy'n gweithio mewn ysgol Gymraeg leol, wedi gweld yr ardal yn tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd.
"Ers i ni gyrraedd, mae Trevelin wedi dyblu ei phoblogaeth," meddai.
Mae unrhyw fylbiau oedd dros ben wedi'u rhoi i Ysgol Y Cwm, lle bydd plant yn eu plannu fel rhan o brosiect addysgol.
Pwy yw Dewi Sant a pham y'n ni'n gwisgo cennin a chennin Pedr?
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd26 Chwefror