Yr Eisteddfod wedi bod yn 'hwb' i fusnesau Wrecsam

Mae Saith Seren wedi bod yn boblogaidd iawn yn ystod yr wythnos
- Cyhoeddwyd
Gydag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn dirwyn i ben, mae rhai o fusnesau'r ddinas yn dweud bod yr ŵyl wedi rhoi "hwb" iddyn nhw.
Dyma oedd y tro cyntaf ers 2011 i'r brifwyl ymweld â Wrecsam.
Er bod y Maes wedi ei lleoli ychydig filltiroedd y tu allan i ganol y ddinas, yn Is-y-coed, mae busnesau yng nghanol y ddinas yn dweud eu bod wedi gweld effaith yr ŵyl.
Yn ôl un perchennog busnes, mae'r effaith wedi bod cystal, mae'n awyddus i weld yr Eisteddfod yn dychwelyd cyn gynted â phosib.

Dywedodd James Wynne fod yr Eisteddfod wedi rhoi "effaith enfawr" i fusnes Saith Seren
Un man sydd wedi bod yn llawn bwrlwm drwy gydol yr wythnos yw tafarn Saith Seren yng nghanol y ddinas.
Dywedodd James Wynne, sy'n gweithio yno, fod yr Eisteddfod wedi "effeithio'n enfawr ar y dref - mae 'di bod yn grêt cael yr Eisteddfod fyny 'ma.
"Ma' llawer mwy o bobl yn cerdded rownd y dref pob dydd.
"Maen nhw wedi ymestyn eu horiau agor yr wythnos hon er mwyn denu mwy o gwsmeriaid.
"Ni 'di cael massive boost, ma' llwyth o bobl 'di dod mewn, mae 'di neud gwahaniaeth massive i ni.
"Mae llawer o bobl yn dweud eu bod am ddod yn ôl ar ôl i'r Eisteddfod orffen ac mae hwnna yn massive i ni.
"Mae llawer o bobl yn meddwl am Wrecsam fel rhywle llai Cymraeg, ond mae'r Steddfod wedi rhoi hwb enfawr i bawb."

"Dwi wedi gweld effaith positif yn bendant," meddai Siwan Jones
Fe benderfynodd Siwan Jones beidio cael stondin ar Faes yr Eisteddfod am fod ei siop wedi ei lleoli yng nghanolfan Tŷ Pawb yng nghanol Wrecsam.
Dywedodd: "Mae o wedi bod yn flwyddyn hir yn aros i'r Eisteddfod ddod, a 'da ni wedi bod yn gweithio'n galed i godi arian ac ymwybyddiaeth o'r Eisteddfod."
Wrth sôn am ei busnes, dywedodd ei bod "wedi gweld eithaf tipyn o bobl yr Eisteddfod yn dod mewn".
"Mae 'di bod yn rili braf gweld pobl newydd... dwi wedi gweld effaith positif yn bendant.
"Gobeithio bydd pobl yn teimlo eu bod wedi eu croesawu yn Wrecsam ac wedi dysgu rhywbeth newydd am yr ardal ac am y bobl."

Dywedodd Phil Jones: "Dwi'n hapus dros ben, mae wedi bod mor brysur"
Mae Phil Jones, perchennog busnes peis yn Tŷ Pawb, wedi bod mor falch o sut mae pethau wedi mynd yr wythnos hon, mae eisiau gweld yr Eisteddfod yn dychwelyd y flwyddyn nesaf!
"Mae wedi bod yn anhygoel, ni wedi gwerthu allan pob dydd," meddai.
"Dwi'n hapus dros ben, mae wedi bod mor brysur.
"Gawn ni'r Steddfod yma flwyddyn nesaf hefyd?!"

Mae Manon Emmanuel wedi bod yn cynnal gweithdai yn ystod yr wythnos
Mae Manon Emmanuel yn byw yn Wrecsam ac yn athrawes uwchradd, ond mae hefyd yn rhedeg gweithgareddau yn Tŷ Pawb yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Dywedodd: "Mae'n neis, tro diwethaf oedd o yma o'n i'n blentyn, felly mae'n neis gallu mynd yma fel oedolyn.
"Dyma'r tro cyntaf i lot o nhw [pobl leol] glywed am yr Eisteddfod."
Dywedodd bod y gweithgareddau yn Tŷ Pawb yn ffordd i bobl ddod i ddeall mwy am yr Eisteddfod.
"Dwi 'di clywed mwy o bobl yn siarad Cymraeg yn Tŷ Pawb na dwi erioed wedi, felly mae wedi denu pobl i ddod yma."
Ychwanegodd bod busnesau'r dref wedi dod ynghyd i harddu'r dref cyn y brifwyl.

Dywedodd Richard Done nad oedd yr Eisteddfod wedi cael effaith ar ei fusnes ef
Er bod Richard Done o'r farn bod cael yr Eisteddfod yn y ddinas yn beth da, dywedodd nad yw wedi gweld effaith y brifwyl ar ei fusnes hufen iâ.
"Mae'r Eisteddfod yn self contained, mae popeth chi angen yna," meddai
"Er nad yw wedi effeithio fy sales, mae wedi bod yn grêt i Wrecsam, yn enwedig gyda phopeth sydd wedi digwydd yma yn y blynyddoedd diwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd22 awr yn ôl