Carchar yn bosib i bobl sy'n gosod conau i atal parcio tu allan i'w cartrefi

Mair Benjamin
Disgrifiad o’r llun,

'Nes i grio pan ges i'r llythyr," medd y cynghorydd tref Mair Benjamin

  • Cyhoeddwyd

Fe allai pobl sy'n gosod conau tŷ allan i’w tai yn Aberystwyth er mwyn gwarchod mannau parcio wynebu hyd at 51 wythnos yn y carchar.

Mae Cyngor Ceredigion wedi dweud hynny mewn llythyr at bobl sy’n byw ym Maes yr Afon ar ôl i rai geisio atal pobl eraill rhag parcio ar y stryd.

Dywedodd un sy'n byw ar y stryd ei bod yn ei dagrau ar ôl derbyn y llythyr a bod yn rhaid iddi gadw’r gwagle parcio yn agos i’w chartref oherwydd rhesymau iechyd.

Ond yn ôl y cyngor, mae'n ddyletswydd arnyn nhw i fynd i'r afael â'r mater.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn dweud fe allai’r conau fod yn “gyfystyr â rhwystrau diangen ar y briffordd"

Maes parcio gyferbyn

Dywedodd y cynghorydd tref Mair Benjamin ei bod hi wedi cael y conau ers dechrau'r flwyddyn ac yn eu defnyddio nhw i atal gyrwyr rhag parcio tu allan i’w thŷ - sy’n agos i ganol y dref.

Er bod maes parcio talu a pharcio yn agos, yn ôl Ms Benjamin, mae pobl yn aml yn parcio ar stryd Maes yr Afon ac ar hyd strydoedd preswylwyr eraill.

Mae’n costio £2.60 i barcio yn y maes parcio am awr, £6.60 am 24 awr a £23 am wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl trigolion, mae pobl yn aml yn parcio ar y stryd ac ar hyd strydoedd preswylwyr eraill

Mae pob tŷ ar stryd Maes yr Afon wedi derbyn llythyr gan Rhodri Llwyd, cyfarwyddwr corfforaethol Cyngor Ceredigion ar gyfer y priffyrdd.

Mae’n nodi bod “rhai trigolion” wedi bod yn gosod “conau traffig a/neu wrthrychau eraill i warchod mannau parcio ar gyfer cerbydau eu hunain”.

Mae’r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud bod y gwrthrychau yma yn "gyfystyr â rhwystrau diangen ar y briffordd".

"Os yw person heb awdurdod cyfreithlon neu esgus mewn unrhyw ffordd i rwystro'r briffordd (maent yn euog) o drosedd ac yn agored i garchar am gyfnod hyd at 51 wythnos neu ddirwy, neu'r ddau."

'Digwydd trwy'r amser'

Dywedodd Ms Benjamin ei bod wedi "siomi" pan ddarllenodd y llythyr.

"Fe wnes i grio. Allwn i ddim credu sut o'n i'n teimlo," meddai.

“O’n i'n meddwl na allen nhw hyd yn oed anfon llythyr i ofyn am gyfarfod i drafod y mater? Allwch chi ddod ag ychydig o bobl at ei gilydd? Allwn ni siarad am hyn?

"Na, dim ond dweud bod ni’n achosi rhwystr. Gallwch gael 51 wythnos yn y carchar a dirwy.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae conau yn cael eu defnyddio i atal gyrwyr rhag parcio tu allan i dai Maes yr Afon

Roedd Paul Wright, sydd hefyd yn byw ar stryd Maes yr Afon, yn arfer rhoi conau tu allan i’w dŷ cyn iddo werthu ei gar.

Cyfeiriodd at un achos lle'r oedd car wedi parcio tu allan i’w dŷ am bum wythnos.

“Do fe wnes i roi nhw allan weithiau, i arbed y lle parcio," meddai.

"Pryd bynnag nes i symud fy nghar, o’n i byth yn gallu dod 'nôl mewn, odd yn rhaid i mi dalu yn y maes parcio, sy'n anghywir yn fy marn i, fel rhywun sy’n byw yma, yn berchen ar fy nhŷ.

"Ro’dd hwn yn digwydd trwy’r amser," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Wright o'r farn y dylai'r cyngor sefydlu system parcio preswylwyr ar y stryd

Mae Mr Wright a Ms Benjamin yn dweud y dylai Cyngor Ceredigion sefydlu system parcio trwyddedau i breswylwyr ar gyfer pobl sy'n byw ym Maes yr Afon.

Dywedodd Mr Wright: "Dylai parcio fod i breswylwyr ar yr ochr hon i'r ffordd lle maen nhw’n byw, ac nid yr ochr honno. Byddai'n datrys y cyfan yn llwyr."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae gosod eitemau ar y briffordd gyhoeddus heb ganiatâd a thrwy hynny achosi rhwystr yn drosedd o dan Adran 137 o Ddeddf Priffyrdd 1980, ac oherwydd mae'r rhai sy'n gweithredu yn groes i'r gyfraith, ac ni fyddai'r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd pe na bai'n ceisio mynd i'r afael â'r mater.

"Os yw'r preswylwyr yn dymuno, yna gallant brynu tocyn parcio tymhorol ar gyfer y maes parcio sydd gyferbyn yn uniongyrchol â'u heiddo."

Pynciau cysylltiedig