Fandaliaid yn achosi difrod i gylch cerrig hanesyddol

gors fawrFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

O ganlyniad i'r digwyddiadau diweddar, bydd gwirfoddolwyr yn monitro'r safle

  • Cyhoeddwyd

Mae cylch cerrig hanesyddol yn Sir Benfro wedi cael eu difrodi gan fandaliaid.

Mae cylch cerrig Gors Fawr yn cael ei adnabod fel un o safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig y sir.

Ond yn ddiweddar mae'r atyniad 4,000 oed ym Mynyddoedd y Preseli wedi cael ei dargedu gan fandaliaid.

O ganlyniad i'r digwyddiadau diweddar, bydd gwirfoddolwyr yn monitro'r safle.

Mae cloddio anghyfreithlon o amgylch gwaelod nifer o'r cerrig wedi achosi difrod sylweddol, gydag angen am "waith cadwraeth arbenigol costus".

Dywed archeolegydd ei bod yn "gyfrifoldeb arnom" i ddiogelu'r ardal.

DifrodFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Dywedodd Tomos Jones, archeolegydd cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod Gors Fawr yn "Heneb Restredig, sydd wedi'i gwarchod yn gyfreithiol oherwydd ei harwyddocâd cenedlaethol".

"Mae'r difrod a achoswyd yma yn peri pryder mawr – mae'n peryglu sefydlogrwydd y cerrig eu hunain yn ogystal ag amharchu'r miloedd o flynyddoedd o hanes y maen nhw'n eu cynrychioli.

"Mae dinistrio neu ddifrodi Heneb Gofrestredig yn drosedd. Mae safleoedd fel hyn wedi bod yma ers amser maith, ymhell cyn dechrau cadw cofnodion ysgrifenedig.

"Nid rhywbeth dewisol yw eu diogelu – mae'n gyfrifoldeb arnom ni."

Maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am y difrod i gysylltu â'r heddlu.

Pynciau cysylltiedig