Daf Wyn: MS ‘wedi agor lan sut dwi’n edrych ar y byd’

Daf WynFfynhonnell y llun, Daf Wyn
  • Cyhoeddwyd

“Bydden i’n gweud bod rhyw faint o stigma dal yn perthyn i unrhyw ddiagnosis achos mae rhagdybiadau ‘da pobl am beth yw MS. Pan ‘nes i glywed y ddwy lythyren ‘na ‘nes i feddwl yn syth, 'dwi’n mynd i fod mewn cadair olwyn, se i’n gwybod pa mor hir fydda’i byw'.”

Ers ei ddiagnosis o MS (sglerosis ymledol) yn 30 oed yn 2021 mae’r cyflwynydd Daf Wyn wedi newid ei olwg ar y cyflwr gan gychwyn ar driniaeth sydd wedi cael gwared ar y mwyafrif o’i symptomau.

Meddai Daf, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C am ei waith ar Prynhawn Da a Heno: “Ni’n byw mewn cyfnod nawr lle mae gymaint o driniaethau MS yn dod mas, mae gymaint o gefnogaeth ac mae gymaint o ymchwil yn mynd mewn i’r cyflwr.

“Mae posib byw yn hirach ac yn iachach – er wrth gwrs dyw hwnna ddim yn wir i bob un.”

Cafodd Daf wybod fod ganddo’r cyflwr MS wedi iddo fynd at y meddyg yn dilyn cyfnodau pan oedd yn colli ei leferydd, yn cynnwys pan oedd yn fyw ar S4C.

Symptomau cyntaf

Meddai: “Falle bod rhywbeth wedi bod yn y cefndir am sbel fach. Dwi’n cofio hyfforddi am marathon Casnewydd yn 2017-18 ac am ryw reswm o’n i’n cadw tripio fy hunan lan ac o’n i ffaelu deall pam. Falle oedd hwnnw yn symptom cynnar.

“Ac o’n i’n sylwi bod fi’n dechrau colli fy lleferydd i – o’n i ffaelu cael pethe mas yn deidi.

“’Nes i sylwi arno pan o’n i’n 'neud Prynhawn Da yn y stiwdio a’r diwrnod hynny ‘nes i sylwi bod rhaid i fi fynd i’r meddyg.

“Mae’n od achos o’n i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Oedd e’n teimlo fel bod pen fi mewn rhyw fath o vice – o fewn tair eiliad o hynny’n digwydd bydden i ffaelu siarad ac yn swnio fel bod fi’n feddw.

“Ac wedyn bydde fe wedi mynd. Oedd lot o bobl ddim yn sylwi bod e ‘di digwydd. Ond o’n i’n gwybod bod e.

“Mae lot o symptomau MS yn gudd - byddai lot o bobl ddim yn gwybod bod nhw gyda fe.

“Pwy a ŵyr falle deith e nôl ond mae’r symptomau i gyd wedi mwy neu lai mynd diolch i wyrth meddyginiaethau.”

Ffynhonnell y llun, Daf Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Daf gyda'i bartner Catrin a'u meibion Caio a Harri

Triniaeth

Mae Daf yn esbonio fod tri math o MS - atglafychol-ysbeidiol (relapsing remitting), cynyddol eilaidd (secondary progressive) a chynyddol cynradd (primary progressive).

Meddai: “Gyda’r un atglafychol-ysbeidiol (sef y math o MS sydd gan Daf) fe gei di gyfnod o dostrwydd pan fydd inflammation ar dy ymennydd di – bydd symptomau yn amlygu eu hunain fel ton a bydd y tonnau yn mynd i lawr ac maen nhw’n galw rheina yn relapses.

“Wrth i ti ddod lawr o’r don mae’n gadael ei ôl ac wrth i MS ddatblygu mae’n gallu mynd i eilaidd a chynradd ac mae’r symptomau'n gallu gwaethygu. Ond ges i driniaeth o Alemtuzumab (triniaeth ar gyfer y math atglafychol-ysbeidiol o MS) ac oedd e’n bump diwrnod o infusion yn 2021 a tridiau yn 2022 fel top-up.

“Dyna un o’r triniaethau mwyaf caled achos y bwriad yw bwrw e’n galed fel bod fi ddim yn gorfod cael unrhyw beth arall (am gyfnod).

“Es i i weld y meddyg yn Gorffennaf a wedodd e dwi’n gobeithio fyddi di’n iawn am saith i ddeg mlynedd.

“Mae’n un o rheiny – jest byw bywyd nawr a delio ‘da pethau fel maen nhw’n dod. Se i ar unrhyw driniaeth ar hyn o bryd a dwi’n lwcus i ddweud bod fi ddim rili yn dioddef symptomau.

“S’dim byd sy’n atal fi rhag 'neud pethe.”

Siarad yn agored

Gyda tua 6,111 o bobl yng Nghymru yn byw gyda MS, mae’r cyflwynydd yn pwysleisio ei fod yn teimlo’n lwcus iawn i gael diagnosis a thriniaeth cyflym, rhywbeth sy’ ddim yn wir o hyd gan fod rhai yn aros blynyddoedd i gael diagnosis o MS.

Ac mae wedi bod yn agored am ei gyflwr o’r cychwyn, rhywbeth sy’ wedi ei helpu’n fawr: “Mae cyflwr MS yn gallu bod yn scary – falle un diwrnod fydd rhywun yn dihuno lan a ffaelu cerdded yn deidi, bod rhyw boen mawr ‘da nhw.

“Dwi’n meddwl bod siarad a rhannu profiadau yn gallu bod yn fuddiol iawn boed hynny yn gyfrinachol neu bod nhw moyn siarad yn gyhoeddus am diagnosis nhw.”

Mae Daf erbyn hyn yn llysgennad i Gymdeithas MS, y llysgennad cyntaf sy'n siarad Cymraeg a rôl mae’n teimlo’n angerddol amdano: “Mae’n bwysig i fi i fod yn llais i’r rheiny sydd â MS yng Nghymru.

“Dwi’n gobeithio trwy fod yn lais i MS dwi’n gallu dangos i bobl beth sy’n cael ei wneud a beth yw’r gwaith ymchwil ffantastig sy’n mynd ymlaen i helpu pobl i fyw yn iachach ac yn hirach gyda MS neu, os dyw nhw ddim yn byw yn hirach, bod nhw o leiaf yn byw yn fwy cyfforddus gyda MS.”

Mae nifer o bobl yn dod i siarad gyda Daf ar y stryd am y cyflwr a sut mae wedi effeithio arnynt a’u teuluoedd – ac mae hefyd yn sgwrsio gyda phobl o wledydd eraill ar y ffôn am eu profiadau nhw.

Meddai: “Mae’n dod â lot o hapusrwydd i fi bod pobl yn ymddiried yndda’i am eu diagnosis nhw.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn derbyn diagnosis yn eu 30au neu 40au – mae’n gallu effeithio ar unrhyw un, unrhyw oedran, unrhyw gefndir ethnig ond menywod sy'n cael eu effeithio fwyaf.”

Ffynhonnell y llun, Daf Wyn

Bywyd

Felly ydy byw gyda MS wedi ei newid fel person?

Meddai Daf: “Bydden i’n gweud bod e, yn enwedig ar y dechrau – o’n i’n dechrau meddwl am ffyrdd o newid deiet ac ati. Mae MS yn un o’r pethe ‘na mae’n rhaid fi weithio mas beth yw triggers fi.

“Hen cliché yw e – byw, bwyta’n iach a joio bywyd a dwi’n lwcus bod fi’n gallu 'neud ‘ny. Mae fe’n hala ti i edrych ar fywyd yn wahanol ond hefyd moyn helpu a moyn bod yn glust a helpu eraill sy’ mewn sefyllfa debyg i ti.

“Dwi mewn sefyllfa freintiedig iawn – bod fi’n gweithio i S4C a bod fi’n gallu defnyddio’r platfform yna i sôn am MS.”

Yn ogystal â siarad am y cyflwr mae Daf hefyd wedi bod yn codi arian i MS drwy drefnu cyngherddau a rhedeg marathon Llundain.

Mae cadw’n heini yn rhan bwysig o’i fywyd, meddai: “Hyd yn oed os taw placebo effect yw e - os dwi ddim wedi bod i redeg am bythefnos dwi’n teimlo’n mwy blinedig. Falle bod hynny’n wir am unrhyw un.”

Ond does dim cymaint o gyfleoedd ganddo i fynd i’r gampfa nawr fod ganddo ddau o feibion ifanc. Gyda Caio yn flwydd oed a Harri yn ddwy mae bywyd yn brysur, fel mae’n cydnabod: “Ni wedi bod yn lwcus iawn i gael dau fab bach ers y diagnosis.”

Ffynhonnell y llun, Daf Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Daf yn cwblhau marathon i godi arian i Gymdeithas MS

Teulu

Mae cefnogaeth ei deulu a’i ffrindiau wedi bod yn arbennig, meddai, yn enwedig ei bartner Catrin a’r teulu agos ar y ddwy ochr: “Hefyd dwi’n lwcus iawn mod i’n caru fy swydd. Mae’r pethau ‘na i gyd wedi helpu fi. A hefyd creu rhwydwaith newydd o bobl sy’ gyda MS a siarad gyda nhw.

“Mae ‘di agor lan sut dwi’n edrych ar y byd ac ar fywyd.”

Cyngor

“Y peth cyntaf yw siaradwch gyda’ch meddyg.

“Ac os chi’n hapus i wneud, ymestynnwch mas - mae ‘na bobl mas ‘na sy'n fodlon siarad â chi.

“Peidiwch bod ofn ac mae 'na glust ‘na.”

Gwrandewch ar Daf Wyn yn siarad ar Bore Cothi ar Radio Cymru.

Pynciau cysylltiedig