Marwolaeth dyn a syrthiodd yn Nhwrci yn ddamwain - cwest

Llun o Llys y Crwner Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl archwiliad post mortem achos y farwolaeth oedd anafiadau trawma ar ôl cwympo

  • Cyhoeddwyd

Roedd marwolaeth dyn a fu farw oriau ar ôl cael ei hebrwng oddi ar awyren yn Nhwrci yn ddamweiniol, mae cwest wedi clywed.

Teithiodd Ben Crook, 32, i Antalya, Twrci, fis Medi diwethaf ond fe gafodd ei wahanu oddi wrth ei bartner a'i phlant yn dilyn ffrae gyda staff yr awyren am gael fwy o alcohol.

Clywodd Llys Crwner Casnewydd iddo falu ei ffôn a ffôn ei bartner yn ystod y ddadl.

Doedd dim modd iddo felly gysylltu â hi i gael gwybod ble oedden nhw'n aros.

Ychydig yn ddiweddarach fe gafodd ei ganfod wedi'i anafu'n wael ar ôl cwympo "o uchder".

Daeth yr Uwch Grwner Gwent, Caroline Saunders, i'r casgliad nad oedd "unrhyw dystiolaeth bod trydydd parti wedi cymryd rhan na'i fod wedi neidio" a daeth i'r casgliad mai damwain oedd marwolaeth Mr Crook.

'Nerfus' cyn hedfan

Clywodd y llys fod Mr Crook, oedd yn gweithio ym maes gosod ffenestri, yn "nerfus" am hedfan, ac wedi dechrau yfed cyn iddo adael ei dŷ yn Abertridwr, Sir Caerffili ar 23 Medi 2024.

Clywon nhw hefyd ei fod wedi prynu alcohol yn y maes awyr.

Yn ôl tystiolaeth gafodd ei darllen gan ei bartner, Jess Jenkins, dechreuodd Mr Crook "fod ychydig yn anodd" yn ystod y daith.

Ychwanegodd ei fod wedi "gweiddi ar stiward gwrywaidd gan fynnu ei fod yn cael mwy o alcohol" ac fe dorrodd eu ffonau symudol.

Cafodd Mr Crook ei hebrwng oddi ar yr awyren pan lanion nhw ar 24 Medi, ond yna fe glywodd y llys iddo fenthyg ffôn cwpl er mwyn ceisio cysylltu â'i bartner a'i dad.

Dywedon nhw na welson nhw'r negeseuon hynny tan ar ôl ei farwolaeth.

Tyst yn dweud mai 'damwain oedd y digwyddiad'

Clywodd y llys fod teulu Mr Crook wedi dod o hyd i'r cwpl, a dywedon nhw ei fod yn simsan, ac wedi'i weld ddiwethaf yn "cerdded ar draws yr harbwr".

Dywedodd Caroline Saunders nad oedd yn glir bryd hynny ble aeth Mr Crook na pham.

Fe gwympodd ar Stryd Cumhuriyet yn Anytalya tua 18:30, ac fe gafodd ei weld gan "dyst anhysbys a ddywedodd mai damwain oedd y digwyddiad".

Clywodd y llys bod y tyst wedi dweud "ei fod yn ysmygu ac fe syrthiodd i lawr, roedd rhai'n cwestiynu a oedd e'n feddw ​​neu'n benysgafn".

Bu farw Mr Crook yn oriau mân y bore ar 25 Medi ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty, ac fe gafodd ei gorff ei ddychwelyd i'r DU.

Yn ôl tystiolaeth gafodd ei darllen gan chwaer Mr Crook, Amy Crook, roedd defnydd ei brawd o gyffuriau ac alcohol "wedi cynyddu yn ystod y chwe mis diwethaf" ac er ei fod wedi "dioddef o broblemau iechyd meddwl ers ei arddegau, nid yw'r teulu'n credu y byddai Ben wedi cymryd ei fywyd ei hun, gan adael ei ddau blentyn yr oedd yn eu caru ar ôl".

Fe ddaeth profion tocsicoleg o hyd i alcohol, cocên, cocaethylene a chetamin yng ngwaed Mr Crook ond daeth y crwner i'r casgliad bod y cetamin yn debygol o fod wedi cael ei roi gan barafeddygon wrth iddynt geisio ei adfywio.

Daeth archwiliad post mortem yng Nghasnewydd i'r canlyniad mai achos y farwolaeth oedd anafiadau trawma ar ôl cwympo.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig