Englyn y Nadolig gan y Prifardd Carwyn Eckley
- Cyhoeddwyd
Bu'n flwyddyn fythgofiadwy i Carwyn Eckley, a gafodd ei gadeirio'n brifardd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn ôl ym mis Awst, ac yntau ond yn 28 mlwydd oed.
Er mwyn dymuno Nadolig Llawen i ddarllenwyr Cymru Fyw, fe ofynnom i Carwyn am englyn arbennig.
Daw eiliad bob Nadolig - i bob un
farnu be' sy'n bwysig.
Ym mis y bwyd a'r miwsig,
be' wir a rown ar y brig?
Carwyn Eckley
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Awst
- Cyhoeddwyd9 Awst